Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Etholiad Cymru 2016: Diwylliant a Chwaraeon
Diwylliant a Chwaraeon
Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor
Prif addewidion:
- Cyflwyno cofrestrau lleol i gynorthwyo gwarchod adeiladau a lleoedd o bwysigrwydd i'r ardal
- Cyflwyno system 'Hawl i Gynnig' er mwyn galluogi cymunedau i sicrhau asedau sydd o bwysigrwydd i hunaniaeth ardal
- Ymgyrchu i warchod nawdd S4C ac adolygu ei gylch gorchwyl
- Galw am gyflwyno ardaloedd sefyll diogel i gefnogwyr p锚l-droed sefyll mewn stadia yng Nghymru.
Prif addewidion:
- Creu 'Gwaddol Ddiwylliannol Gymreig' i ariannu'r celfyddydau
- Ailsefydlu Bwrdd Croeso Cymru a hybu mwy o gyd-drefnu ym maes gwybodaeth i ymwelwyr
- Gwneud cais i gynnal rhan o'r Tour de France a Gemau'r Gymanwlad, gweithio gyda Chyngor Caerdydd ar gais i fod yn Brifddinas Diwylliant Ewrop
- Gwarchod grant Cyngor Celfyddydau Cymru a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru
- Cynyddu buddsoddiad yn y celfyddydau drwy greu cronfa her
- Penderfynu ar y posibilrwydd o gynnal Gemau'r Gymanwlad yng Nghymru yn 2026
- Creu "Cymru Hanesyddol" i uno swyddogaethau masnachol y Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol, CADW ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru
- Creu "coridor o ddiwylliant" ger yr A55.
Prif addewidion:
- Cadw mynediad i amgueddfeydd am ddim i bobl sy'n byw yng Nghymru
- Hyrwyddo cyfranogiad mewn chwaraeon ar bob lefel ac i bob oed ledled Cymru
- Datblygu cais Cymru i gynnal Gemau'r Gymanwlad yn 2026 neu 2030
- Cefnogi sefydlu amgueddfa b锚l-droed yn Wrecsam.
Prif addewidion:
- Cefnogi mudiadau celfyddydau yn y gymuned
- Diogelu cyllid i sicrhau nad yw theatrau gwledig yn dioddef o doriadau cynghorau
- Cefnogi amgueddfeydd cenedlaethol a chyrff diwylliannol i ddatblygu gwasanaethau addysgol cenedlaethol
- Annog twf cymdeithasau diwylliannol lleol.
Prif addewidion:
- Dynodi Dydd G诺yl Ddewi'n 诺yl banc
- Cadw mynediad am ddim i amgueddfeydd
- Diddymu CADW a rhoi cyfrifoldebau adeiladau CADW i awdurdodau lleol
- Annog adfywio trefi glan m么r drwy raglen adfywio.