Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Etholiad Cymru 2016: Adnoddau Naturiol
Adnoddau Naturiol ac Amaeth
Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor
Prif addewidion:
- Ailgyflwyno portffolio amaeth a bwyd yn un o brif swyddi'r cabinet
- Rhoi diwedd ar ddefnydd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau
- Dynodi ardaloedd sydd mewn perygl mawr o lifogydd yn dir 'Glas' i atal datblygiadau anghyfrifol
- Sicrhau bod cynghorau yn talu dirwyon am fethu a chyrraedd targedau ailgylchu.
Prif addewidion:
- Sicrhau cefnogaeth benodedig i ffermio mynydd
- Ymgorffori targedau ynni adnewyddadwy a nwyon t欧 gwydr mewn deddf
- Cefnogi prosiectau ynni cymunedol
- Neulltio rhagor o grantiau bach i ffermwyr i'w galluogi i arallgyfeirio a gostwng allyriadau carbon, a gwella'u gallu i oroesi a chystadlu.
Prif addewidion:
- Buddsoddi mewn amddiffynfeydd llifogydd
- Moratoriwm ar ffracio
- Cefnogi'r ymarfer gorau ar bioamrywiaeth
- Gwrthwynebu unrhyw gais i ddiddymu'r gwaharddiad ar hela llwynogod.
Prif addewidion:
- Buddsoddi mewn cynlluniau arbed ynni yn y cartref ac ynni gwyrdd
- Gweithio'n agos 芒 sector amaeth Cymru i sicrhau bod unrhyw newidiadau o fewn y Polisi Amaethyddol Cyffredin presennol a'r PAC nesaf ar 么l 2020 yn rhoi'r fantais fwyaf i Gymru
- Gwrthwynebu unrhyw ddatblygiad glo brig newydd
- Sicrhau bod y Rhaglen Datblygu Gwledig er lles y sectorau cig coch a llaeth.
Prif addewidion:
- Sicrhau bod Cymru'n arwain wrth fynd i'r afael a newid hinsawdd drwy osod targedau fwy uchelgeisiol
- Cynhyrchu holl anghenion trydan Cymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030
- Cadw statws Cymru fel gwlad dim addasu genetig
- Gwahardd defnydd maglau.
Prif addewidion:
- Diddymu cyllideb Llywodraeth Cymru o 拢73m ar gyfer cynlluniau newid yr hinsawdd
- Darganfod a chau ffermydd cwn bach sy'n anghyfreithlon
- Gwahardd allforio da byw y tu allan i'r DU
- Gwneud hi'n orfodol i ddweud wrth yr awdurdodau am ddamweiniau traffig yn ymwneud 芒 cheirw.