Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Etholiad Cymru 2016: Addysg
Addysg
Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor
Prif addewidion:
- Cyllido ysgolion yn uniongyrchol, gan roi mwy o reolaeth i athrawon, rhieni a llywodraethwyr a chyfeirio mwy o arian i'r ystafell ddosbarth
- Atal cau unrhyw ysgol, sy'n dysgu'r cwricwlwm cenedlaethol, heb gytundeb rhieni a llywodraethwyr
- Diddymu grantiau ffioedd dysgu a newid i 'Ad-daliad Rhent Myfyrwyr' er mwyn cefnogi myfyrwyr gyda chostau
- Treblu gofal am ddim i blant i 30 awr yr wythnos.
Prif addewidion:
- Lleihau maint dosbarthiadau babanod i 25
- Ehangu'r Premiwm Disgybl - arian ychwanegol i ysgolion 芒 phlant difreintiedig
- Cael gwared ar grantiau ffioedd dysgu a defnyddio'r arian i gyllido grant cymorth byw i fyfyrwyr, gwerth rhwng 拢2,000 a 拢3,000
- 10 awr yr wythnos o ofal plant am ddim tan bod plant yn dair oed.
Prif addewidion:
- Cronfa o 拢100m i wella safonau mewn ysgolion
- 30 awr o ofal plant am ddim am 48 wythnos y flwyddyn
- 100,000 o brentisiaethau newydd i bob oedran
- Cynllun peilot o fodel newydd i Ganolfannau Dysgu Cymunedol.
Prif addewidion:
- Premiwm cenedlaethol o 10% i athrawon sydd a sgiliau neu gymwysterau ychwanegol
- Talu gwerth 拢18,000 o ddyledion i raddedigion sy'n gweithio yng Nghymru yn lle grant ffioedd dysgu
- Creu 50,000 o brentisiaethau newydd
- 30 awr yr wythnos o addysg llawn amser blynyddoedd cynnar erbyn 2021.
Prif addewidion:
- Creu gwasanaeth addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant rhwng geni a dechrau addysg ffurfiol
- Dechrau addysg ffurfiol yn hwyrach
- Ymrwymo i ddiddymu'r rhaglen i gau ysgolion
- Fydd Prifysgolion Cymru ddim yn codi ffioedd ar fyfyrwyr o Gymru.
Prif addewidion:
- Cyfle i ysgolion uwchradd ddatblygu i ysgolion gramadeg neu ysgolion galwedigaethol
- Cyflwyno Colegau Technegol Prifysgol yn seiliedig ar fodel Baker-Deering
- Benthyciad ffioedd dysgu yn lle grant i fyfyrwyr sy'n astudio yn Lloegr, ond byddai dim ffioedd yng Nghymru i fyfyrwyr sy'n astudio gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth
- Dysgu ieithoedd tramor modern o saith oed ymlaen.