Lluniau Dydd Sadwrn: Eisteddfod Ll欧n ac Eifionydd

Mae'r Eisteddfod wedi cyrraedd Ll欧n ac Eifionydd ar 么l holl gyffro'r paratoi.

Dyma rai o'r golygfeydd o'r Maes ar ddiwrnod cynta'r 诺yl.

Disgrifiad o'r llun, Cyrraedd y maes ben bore mewn dillad glaw pwrpasol
Disgrifiad o'r llun, Gwen a Margaret o gangen Merched y Wawr Chwilog yn brysur yn gwneud paneidiau ar stondin y mudiad. Gwen ydy cogyddes orau Ll欧n ac Eifionydd yn 么l pob s么n
Disgrifiad o'r llun, Roedd yna bili-pala ar stondin Prifysgol Bangor gyda chriw Blas Pontio yn cynnal sesiwn caffi babis
Disgrifiad o'r llun, Un oedd yn mwynhau cwmni Buddug ac Angharad, y pili-palod a cherddoriaeth Henry Horrell ar y ffidil, oedd Elsi
Disgrifiad o'r llun, Seren, Benjamin ac Elin o Abererch. Cafodd y tri sedd ar fodel o dr锚n o'r enw Lilla, sydd dan ofal Rheilffordd Ffestiniog
Disgrifiad o'r llun, Gwyn Eiddior, Cyfarwyddwr Celf Maes yr Eisteddfod yn barod amdani. Fel un o Eifionydd, mae'r gwaith o addurno'r maes wedi bod yn deimlad fwy arbennig na'r arfer
Disgrifiad o'r llun, Robat a Helen o Forfa Nefyn yn mwynhau picnic ym Maes D. Roedd Helen, sy'n diwtor iaith, wedi dosbarthu tystysgrifau i ddysgwyr mewn seremoni arbennig
Disgrifiad o'r llun, Ddim cweit yn garped coch! Mynediad i'r T欧 Gwerin yn cael haen newydd o goed m芒n er mwyn gwarchod pobl rhag y mwd
Disgrifiad o'r llun, Adloniant gan Ysgol Glan y M么r ar Lwyfan y Maes
Disgrifiad o'r llun, Pa law? Awyr las dros Boduan.
Disgrifiad o'r llun, Nerys, Branwen, Twm a Ceri sy'n edrych ymlaen at groesawu eisteddfodwyr i stondin Eisteddfod Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o'r llun, Caffi Maes B yn dechrau llenwi ar gyfer set gan Hywel Pitts
Disgrifiad o'r llun, Anest a Non o Gaernarfon yn swatio ar glustogau lliwgar Caffi Maes B
Disgrifiad o'r llun, Gweithwyr Bar Williams Parry fydd yn tynnu peint... neu ddau, i eisteddfodwyr sychedig