Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Milwr wedi marw yn ystod ymarfer yng Nghrucywel
Mae milwr wedi marw yn ystod ymarfer milwrol ym Mhowys, mae'r heddlu wedi cadarnhau.
Bu farw'r Corporal Christopher Gill o'r 4ydd Bataliwn, Catrawd y Marchfilwyr yng Nghrucywel, ger Aberhonddu ddydd Mercher.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi cael gwybod am farwolaeth Cpl Gill toc wedi 01:00 fore Mercher a bod ymchwiliad ar y gweill gyda chefnogaeth y Gweithgor Iechyd a Diogelwch
Mae'r milwr oedd yn cael ei nabod fel Gilly wedi'i ddisgrifio fel "milwr Gweithrediadau Arbennig rhagorol".
"Mae ein meddyliau gyda'i deulu ar yr amser hynod anodd hwn," ychwanegodd y Weinyddiaeth Amddiffyn ddydd Sul.
Fe ymunodd â'r Fyddin yn 2011, a chael ei anfon yn y lle cyntaf i dalaith Helmand yn Afghanistan, ble y bu'n hyfforddi "partneriaid arbenigol" maes o law.
Fe wasanaethodd hefyd yn Belize, Unol Daleithiau America, Kenya a Moroco cyn gwirfoddoli yn 2021 ar gyfer Gweithrediadau Arbennig y Fyddin.