Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y Llyfrgell Genedlaethol: Pum peth o sgwrs Dr Rhodri Llwyd Morgan
"Bedydd caredig, cynnes a th芒n yn ogystal"
Dyna sut wnaeth Dr Rhodri Llwyd Morgan ddisgrifio ei wythnos gyntaf yn ei swydd newydd fel Prif Weithredwr y Llyfrgell Genedlaethol.
Mae'n camu i mewn i'r swydd ar 么l cyfnod o weithio fel Cyfarwyddwr y Gymraeg, Diwylliant Cymru a Chysylltiadau Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Ar 么l dim ond wyth diwrnod yn y swydd, cafodd sgwrs gydag Alun Thomas ar raglen Bore Sul ar Radio Cymru, a dyma bum peth oedd yn sefyll allan o'r sgwrs honno.
Ap锚l y swydd?
Dywedodd Dr Llwyd Morgan fod yr ap锚l yn un "amlwg i symud i sefydliad cenedlaethol o bwys."
"Dw'i wedi edmygu gwaith y Llyfrgell ers yn ifanc. Roeddwn yn edrych i fyny ar y Llyfrgell pan yn fyfyriwr yn Aberystwyth ac yn edrych draw gydag edmygedd tra'n gweithio yn y Brifysgol.
"Mae wedi chwarae r么l flaenllaw ym mywyd y genedl.
"Mae'n chwarae r么l actif dwi'n teimlo o ran yr ymwybod sydd gyda ni o'n hunain fel cenedl.
"Dwi'n falch dros ben," meddai.
Y cyfrifoldeb
"Teimlad o gyfrifoldeb? Mae'n cadw rhywun yn effro pob nos," meddai.
"Meddwl am y trysorau sydd yma, meddwl am y gwaith ardderchog sydd wedi bod yn digwydd yma ers 120 o flynyddoedd a mwy.
"Mae yna bobl yma sydd yn arweinwyr yn arbenigwyr byd eang mewn sawl maes o ran llyfrgellyddiaeth, archifau, digido, deallusrwydd artiffisial.
"Mae'r peth yn wych ein bod yma fel gwlad fach yn meddu ar drysorau mawr ac ar drysor mawr fel sefydliad."
'Mynd a'r Llyfrgell i bob cwr o Gymru'
Na, does dim bwriad o gwbl i symud y Llyfrgell Genedlaethol o Aberystwyth...
Ond mae bwriad i ehangu'r modd o gael mynediad i rai o brosiectau'r llyfrgell mewn trefi a dinasoedd o amgylch Cymru.
Dyma oedd gan Dr Llwyd Morgan i'w ddweud ar y pwnc o gynnig prosiectau'r llyfrgell mewn cymunedau ar draws Cymru wrth wynebu heriau ariannol:
"Mae sawl un o'n prosiectau mwyaf blaenllaw ni wedi digwydd oherwydd ceisiadau grant sylweddol, dwi'n meddwl am yr Archif Ddarlledu Cymru fel enghraifft ddiweddar.
"Mae prosiect yr Archif Ddarlledu y Corneli Clip, mae nifer ohonyn nhw wedi agor yng Nghaerfyrddin, Conwy, Llanrwst ac Abertawe.
"Mae'r rheiny yn safleoedd o fewn adeiladau cyhoeddus sydd yn galluogi pobl i fynd at gyfrifiadur a chael i mewn i holl gyfoeth yr archif ddarlledu. Mae 250,000 o ddeunydd darlledu radio a theledu wedi eu digido ac ar gael i'w mwynhau.
"Mae 'na chwech o ganolfannau eraill i'w hagor dros y flwyddyn.
"Rydym yn s么n am ganolfannau yng Nghaerdydd, Canolfan y Mileniwm, Archif Morgannwg, Prifysgol Caerdydd, Merthyr Tudful, Caernarfon, Hwlffordd, Llangefni, Wrecsam, Y Drenewydd a Rhuthun.
"Felly rydym yn mynd a'r Llyfrgell i bob cwr o Gymru."
Gweledigaeth
"Llunio cynllun strategol, taro cyd bwysedd cywir rhwng rhoi'r anrhydedd dyledus i'r gwaith craidd ond hefyd ar yr un pryd, adnabod dau neu dri phrosiect uchelgeisiol iawn i ni fel sefydliad i'n symud ni ymlaen unwaith eto," meddai.
"Mae'r archif ddarlledu wedi profi bod y Llyfrgell yn hollol abl i wneud hynny mewn ffordd ysgubol o ran datblygiad sydd wedi symud pethe yn ei blaenau.
"Dwi'n gobeithio bydd fy nghyfnod i a cyfnod y prif weithredwr nesaf yn golygu fod y Llyfrgell yn mynd o nerth i nerth."