Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Arallgyfeirio o'r fferm i'r gampfa yn Felin-fach
- Awdur, Harriet Horgan
- Swydd, 91热爆 Cymru Fyw
Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf mae Rhys Jones, o Felin-fach yng Ngheredigion wedi trawsnewid ei yrfa.
Ar un adeg roedd Rhys yn chwarae rygbi yn broffesiynol i鈥檙 Gweilch, Castell-nedd a Llanymddyfri ond ei waith o ddydd i ddydd oedd helpu ei dad ar y fferm.
Mae ei deulu wedi bod yn ffermio da godro a defaid yn Nyffryn Aeron am oddeutu 80 mlynedd.
Yn 2015, penderfynodd agor campfa - Cattle Strength - ar ei fferm gyferbyn 芒'r sied odro ac mae e newydd agor campfa newydd.
Mae'n cydweithio ag elusen iechyd meddwl wedi iddyn nhw "gael colled yn y teulu" a dywed bod cadw'n ffit yn gwella iechyd meddwl nifer.
Wrth siarad 芒 91热爆 Cymru Fyw dywedodd bod datblygu鈥檙 busnes wedi bod yn ffordd iddo arallgyfeirio o ffermio.
鈥淥鈥檔 i moyn 'neud rhywbeth yn lle jest ffermio, doedd dim digon o waith gatre i fi ffermio yn llawn amser ac o鈥檔 i鈥檔 mwynhau ffitrwydd gymaint,鈥 meddai.
鈥淔elly o鈥檔 i鈥檔 meddwl trio cyfuno ffitrwydd gyda鈥檙 ffarm rhyw ffordd - doedd dim digon o arian yn y ffarm i fi 鈥榥eud e鈥檔 llawn amser,鈥 ychwanegodd.
鈥淥dd e鈥檔 gyfle i drio diversifio bach felly penderfynais i ddechrau hyfforddi yn y gym ac agor campfa fel gym ffarm - nesaf at un o鈥檙 sieds godro.鈥
Bedair wythnos yn 么l, agorodd Rhys Cattle Srength 2.0, campfa newydd, bron chwe gwaith yn fwy na鈥檙 un gwreiddiol.
Mae 90% o bobl sy'n hyfforddi yno yn siaradwyr Cymraeg.
Ei gleient cyntaf oedd ei blymwr. Dywedodd wedi iddo fe brofi canlyniadau ffitrwydd da, daeth gwraig ei blymwr a鈥檌 ffrindiau hi hefyd yn gleientiaid.
Parhaodd y busnes i dyfu ers hynny, esboniodd, a phan ddaeth y pandemig, gwelodd Rhys hwn fel cyfle i droi at hyfforddi ar-lein sydd hefyd wedi helpu twf Cattle Strength.
鈥淥鈥檔 i鈥檔 'neud lot o online coaching yn ystod Covid ac ers 'ny ma鈥檙 busnes jest 'di cadw tyfu.
鈥淵n amlwg wedyn o鈥檔 i ddim yn gallu ffermio cymaint achos ro鈥檇d fy amser i gyd yn mynd i hyfforddi pobl yn y gym fach 'ma,鈥 meddai.
Iechyd meddwl a ffermio yn 'broblem'
Mae ei fusnes yn cydweithio'n agos gyda sefydliad DPJ - elusen iechyd meddwl sy'n cefnogi rheini sy'n gweithio yn y byd amaethyddiaeth.
Dywedodd Rhys: 鈥淩wy wastod 'di bod yn fwy angerddol am y gym, mae fe lot mwy cymdeithasol na ffermio.
鈥淢a' ffermio yn gallu bod yn unig a gyda ffermio, sdim dal faint o arian ti鈥 mynd i 'neud a ma鈥 fe gyd yn ddibynnol ar brisiau鈥檙 farchnad yn enwedig gyda godro.
"Ma'r elusen yn agos at fy nghalon i.
鈥淕ethon ni golled yn y teulu blynyddoedd yn 么l a ry鈥 ni gyd yn gw'bod bod iechyd meddwl a ffermio yn broblem.
鈥淢a ffermio yn gallu bod yn unig iawn ac ma鈥 fe wedi cael ei brofi bod iechyd corfforol yn gallu gwella iechyd meddyliol person lot.
鈥淎 ma鈥 sawl person sy鈥檔 dod i鈥檙 gym yn dweud bod nhw鈥檔 sylwi ar yr effaith meddyliol yna ar ben gwella eu ffitrwydd nhw.鈥
Penderfynodd Rhys i "gymryd y plunge" a gweithio'n llawn amser gyda Cattle Strength dair blynedd yn 么l.
Erbyn heddiw, mae鈥檙 gampfa wedi datblygu yn fusnes teuluol gyda鈥檌 wraig Katie yn rhedeg yr ochr weinyddol.
鈥淩y鈥檔 ni 'di gwerthu ein da godro i gyd, dim ond defaid sydd gyda ni ar y fferm nawr.
鈥淵n y gampfa newydd ni鈥檔 'neud bach o bopeth. O cross fit, hyrox, codi pwysau 鈥 a鈥檙 cynllun yn y dyfodol agos yw cynnal sesiynau ioga hefyd."
Bellach maen nhw鈥檔 cyflogi tri aelod o staff lleol yn llawn amser ac yn cynnig sesiynau ffitrwydd i blant, pobl ifanc ac oedolion.