Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Jessica Robinson: Y Gymraes yng nghystadleuaeth Canwr y Byd
Eleni mae cystadleuaeth Canwr y Byd yn dathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu. Mae鈥檙 gystadleuaeth yn cael ei chynnal bob dwy flynedd ac yn denu cantorion o bob cwr o鈥檙 byd.
Dros y blynyddoedd mae sawl Cymro neu Gymraes wedi cystadlu gan gynnwys Bryn Terfel yn 1989.
Ond yr wythnos hon ar Gymraes o Sir Benfro y bydd llygaid y byd canu clasurol, a鈥檌 henw yw Jessica Robinson.
Enillodd Jessica Gystadleuaeth Cantorion Cymreig 2022 ym mis Rhagfyr y llynedd 鈥 camp a sicrhaodd le i鈥檙 soprano 32 mlwydd oed yng nghystadleuaeth Canwr y Byd 2023.
O Landysilio yn Sir Benfro y daw Jessica yn wreiddiol ond mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd gyda鈥檌 g诺r, Dyfed a鈥檜 ci, Splott.
鈥淒echreuais i ganu鈥檔 ifanc iawn. Ro鈥檔 i o hyd yn joio perfformio ac es i ati i gystadlu yn eisteddfodau鈥檙 Urdd a鈥檙 Genedlaethol ac mewn eisteddfodau lleol. Wedyn pan ddaeth hi鈥檔 adeg prifysgol 鈥檔es i benderfynu mynd i Goleg Cerdd a Drama Cymru.鈥
Yno fe astudiodd hi gwrs israddedig mewn Cerddoriaeth, ac yna radd meistr mewn Perfformio Opera.
鈥淲nes i鈥檙 cwrs ar hap fel mae鈥檔 digwydd, achos do鈥檔 i ddim yn gwybod bod y fath radd yn bodoli! Es i i wneud clyweliad a diolch byth, ges i le. Ac o fan 鈥檔a fe wnes i gwympo mewn i鈥檙 byd opera am fy mod i鈥檔 joio鈥檙 elfen o actio a chanu gyda鈥檌 gilydd.鈥
Er ei bod hi erbyn hyn yn canu鈥檔 broffesiynol cafodd ei chrefft ei feithrin ar lawr gwlad mewn mudiadau di-ri fel y Clwb Ffermwyr Ifanc.
鈥淒w i wedi bod yn ffodus iawn i fod yn rhan o nifer o grwpiau a mudiadau sydd wedi fy helpu i gyda pherfformio. Mae鈥檙 Clwb Ffermwyr Ifanc yn glwb sy鈥檔 agos iawn at fy nghalon i. Dw i wedi gwneud nifer o gystadleuaethau gyda nhw dros y blynyddoedd ond yr Eisteddfod oedd yr uchafbwynt i mi pob blwyddyn. Dw i mor ddiolchgar iddyn nhw am gymaint o gyfleoedd perfformio sydd wedi arwain fi at ble ydw i nawr 鈥 yn gwneud gyrfa fel cantores opera.鈥
Mwy na llais mawr...
Roedd hi鈥檔 aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Clunderwen am flynyddoedd lle cafodd hi鈥檙 cyfle i droi ei llaw at fwy na chanu, meddai.
鈥淒ros y blynyddoedd dw i wedi barnu stoc, dw i wedi ennill y gystadleuaeth stand-up, a hefyd wedi tynnu tug-of war. Es i ymlaen i gynrychioli Cymru yn tynnu tug-of war hefyd. Ie... felly amrywiaeth bach ynghlwm 芒鈥檙 Clwb Ffermwyr ifanc!鈥
Ond am nawr, dim ond un peth sy鈥檔 cael ei sylw 鈥 cystadleuaeth Canwr y Byd.
鈥淒w i wedi dilyn y gystadleuaeth hon ers o鈥檔 i鈥檔 ifanc iawn a dw i dal yn cael bach o sioc pan dw i鈥檔 meddwl taw fi fydd ar y llwyfan.鈥
鈥淢ae paratoi ar gyfer y gystadleuaeth 鈥榤a wedi bod yn lot fawr o waith, mae鈥檔 rhaid dweud! Dw i wedi dysgu 22 o ganeuon newydd. Mae popeth mewn arddulliau gwahanol ac wedi 鈥榥gwthio i mas o鈥檙 comfort zone, ond dw i鈥檔 edrych ymlaen.鈥
Felly sut mae diwrnod o ymarfer yn edrych?
鈥淢ewn diwrnod dw i鈥檔 trio gwneud dwy neu dair awr o ganu鈥檙 dydd. Mae lot o waith arall yn gallu mynd ymlaen wedyn fel dysgu geiriau a dysgu鈥檙 cyfieithiadau a phethau fel 鈥榥a.
鈥淔el arfer 'wy鈥檔 gwneud awr fach, dished o de, awr fach arall, cerdded y ci, awr fach arall, bwyd a trio ei dorri fe lan fel 鈥榥a.
"Ond mae鈥檔 bwysig ffeindio鈥檙 cydbwysedd mewn ffordd achos mae isie adeiladu鈥檙 stamina ond hefyd ddim blino鈥檙 llais yn ormodol.鈥
Yn ei helpu gyda鈥檙 hyfforddi mae鈥檙 cyfeilydd Michael Pollock a鈥檙 soprano, Rebecca Evans.
Dywedodd am ei hathrawes: 鈥淧an mae hi鈥檔 demonstrato鈥檙 pethe 鈥榤a, dw i鈥檔 meddwl 鈥My gosh, shwt mae hi鈥檔 gwneud hwn?鈥 A fi fan 鈥榥a wedyn, wedi twymo lan ers awr yn trio swno鈥檔 dda a mae hi jest yn dod mewn o鈥檙 ardd fel 鈥Just like this Jess...鈥. Mae hi鈥檔 amazing. Mae hi鈥檔 ffab.鈥
Y gystadleuaeth
Mae tair gwobr ar gael yn y gystadleuaeth, sef y Brif Wobr a theitl 鈥楥anwr y Byd鈥, Gwobr y G芒n a Gwobr y Gynulleidfa. Enillodd Bryn Terfel Wobr y G芒n yn 1989 ond bryd hynny enw鈥檙 wobr oedd 鈥楪wobr Lieder鈥.
Caiff perfformiadau ar gyfer y Brif Wobr eu perfformio gyda cherddorfa. Mae dwy gerddorfa yn rhan o鈥檙 gystadleuaeth eleni sef Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y 91热爆 a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru. Fe fydd Jessica yn perfformio o leiaf ddwywaith gyda cherddorfa.
鈥淏ydd gen i un perfformiad ar y dydd Sadwrn ac un perfformiad ar y dydd Sul. Ac os y bydda鈥 i鈥檔 ddigon ffodus i gyrraedd ffeinal fe fydd perfformiadau鈥檙 ffeinals ymlaen ddiwedd yr wythnos.鈥
Mae Gwobr y G芒n yn cael ei rhoi am berfformiad personol o rai o ganeuon Lieder a chelfyddydol i gyfeiliant piano yn unig.
鈥淒w i鈥檔 meddwl mai鈥檙 uchafbwynt i mi fydd canu鈥檔 Gymraeg yn y gystadleuaeth y Song Prize 鈥 y g芒n gelf. Yn y g芒n gelf mae fe鈥檔 fwy intimate, dim ond chi a鈥檙 piano sydd ac mae gyda fi Ll欧r Williams yn cyfeilio felly dw i mewn dwylo saff iawn. Fi methu aros i weithio gyda fe.鈥
Wrth i鈥檙 gystadleuaeth nes谩u, beth sy鈥檔 mynd drwy feddwl Jessica?
鈥淒w i鈥檔 reali edrych ymlaen i jest gallu mynd mas 鈥檔a a gobeithio gwneud Cymru yn browd.鈥
Pob lwc, Jessica!
- Bydd cystadleuaeth Canwr y Byd 2023 yn cael ei darlledu ar 91热爆 Two Wales a 91热爆 Four drwy gydol wythnos 11-18 o Fehefin.
- Bydd pennod arbennig o Swyn y Sul gyda Jessica Robinson yn darlledu ar 91热爆 Radio Cymru, dydd Sul 11 Mehefin am 10:00.