Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
916,000 awr o ollwng carthion i ddyfroedd Cymru
Fe wnaeth Dŵr Cymru ryddhau carthion i afonydd, llynnoedd a moroedd Cymru am dros 916,000 o oriau y llynedd, yn ôl data newydd.
Mae hynny'n gyfystyr â thros 20% o'r holl oriau o ollyngiadau i ddyfroedd Cymru a Lloegr.
Cafodd 105,943 o ollyngiadau eu cofnodi gan y cwmni yn 2023, gyda 93% o'r rheiny yn cael eu hystyried fel rhai "sylweddol".
Dywedodd Dŵr Cymru bod yna "gysylltiad clir" rhwng y cynnydd yn nifer yr oriau o ollyngiadau a'r tywydd gwlyb.
Yn 2022 fe wnaeth Dŵr Cymru ryddhau carthion i ddyfroedd Cymru am bron i 600,000 o oriau, tra bod y data hefyd yn nodi bod yna dros 83,000 o ollyngiadau.
Mae nifer yr oriau o ollyngiadau wedi cynyddu 68% y llynedd, tra bod cynnydd o 37% wedi bod yn nifer y gollyngiadau.
Yn ôl y grŵp ymgyrchu River Action, mae maint y broblem yn arwydd clir arall bod y diwydiant yn methu.
Wrth ychwanegu ffigyrau cwmni Hafren Dyfrdwy - sy'n gweithredu yng nghanolbarth a gogledd-ddwyrain Cymru - at y cyfanswm, mae nifer y gollyngiadau yn codi i dros 107,800 a nifer yr oriau o ollyngiadau yn bron i 932,400.
'Ffigyrau annerbyniol'
Mae Water UK - y corff sy'n cynrychioli cwmnïau carthffosiaeth - yn dweud bod y ffigyrau diweddara yn "annerbyniol", ond mai glaw trwm oedd yn gyfrifol.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eu bod am barhau i weithio er mwyn sicrhau bod "perfformiad yn gwella a bod nifer y gollyngiadau yn lleihau".
Yn eu hadroddiad yn trafod y ffigyrau diweddaraf, dywedodd Dŵr Cymru bod 2023 yn un o'r blynyddoedd gwlypaf ar gofnod, gyda lefel y glaw yn fwy na'r disgwyl yn wyth o'r 12 mis.
"Fel gwlad ar ochr orllewinol y DU, rydyn ni'n profi lefelau uchel o law a hefyd yn gweld cynnydd yn nifer y digwyddiadau difrifol sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd," meddai'r cwmni.
Ychwanega'r adroddiad bod y cwmni yn wynebu heriau gwahanol i gwmnïau dwr eraill oherwydd natur y dirwedd a gwasgariad y boblogaeth.
"Dydi cael gwared ar bob gorlif storm ddim yn opsiwn - gan y byddai hynny yn rhy ddrud ac yn cymryd degawdau," meddai'r cwmni.
"Beth sydd yn bosib yw canolbwyntio ein gwariant ar y systemau sydd â'r effaith amgylcheddol fwyaf."
Mae Dŵr Cymru yn dweud eu bod yn bwriadu buddsoddi £420m yn ychwanegol rhwng 2025 a 2030, yn ogystal â buddsoddiad posib o £2.5bn mewn gwasanaethau amgylcheddol.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni bod eu cyfrifoldeb dros amddiffyn yr amgylchedd yn rhywbeth y maen nhw'n ei gymryd o ddifrif, a'u bod yn deall ac yn gwrando ar bryderon pobl.
"Ers 2018 ry'n ni wedi bod ar flaen y gad o ran cyflwyno systemau monitro gorlifoedd storm, a wastad wedi bod yn gwbl agored gyda'r wybodaeth yma.
"Ry'n ni hefyd yn darparu gwybodaeth amser real o ran gollyngiadau mewn dyfroedd poblogaidd."
'Deall pryderon pobl'
Dywedodd Sian Williams, pennaeth gweithrediadau CNC: "Rydyn ni wedi ymroi yn llwyr i wella ansawdd y dŵr yn ein hafonydd a'n moroedd er lles pobl a byd natur.
"Ry'n ni'n deall pryderon pobl ar hyd Cymru bod gorlifoedd storm yn cael eu defnyddio yn rhy aml, ac ry'n ni'n dal i geisio annog cwmnïau dwr i wella eu perfformiad a lleihau nifer y gollyngiadau.
"Ry'n ni eisoes wedi cynyddu ein capasiti rheng flaen o ran rheoli ansawdd dŵr yn ogystal â thynhau'r canllawiau sy'n ymwneud a defnydd o systemau gorlif storm."