Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Marwolaeth bachgen 9 oed ar fferm yn 'ddamwain'
- Awdur, Alun Thomas
- Swydd, 91热爆 Cymru
Mae crwner wedi cofnodi mai damwain oedd achos marwolaeth bachgen 9 oed ar dir fferm yn y Rhondda.
Bu farw Tomos Rhys Bunford ym mis Medi 2021 ar 么l cael ei daro gan y cerbyd roedd yn teithio ynddo gyda鈥檌 deulu.
Roedd wedi mynd gyda鈥檌 dad a鈥檌 fam, ei frawd h欧n a鈥檌 chwaer - oedd yn fabi ar y pryd - o鈥檌 fferm yn ardal Ynysybwl ger Pontypridd ychydig filltiroedd i ffwrdd i gae ym Mlaenllechau yng Nghwm Rhondda, lle roedden nhw鈥檔 cadw lloi.
Roedd y teulu yn teithio mewn cerbyd Mitsubishi oedd yn tynnu tanc d诺r ar drelar lawr y cae serth pan gollodd ei dad, Rhys Bunford, reolaeth ar y cerbyd.
Fe waeddodd ar ei deulu i neidio allan oherwydd ei fod yn poeni y gallai鈥檙 cerbyd lithro lawr y cae a mynd dros glogwyn serth islaw.
Clywodd y gwrandawiad yn llys y crwner ym Mhontypridd bod Tomos wedi neidio allan ond y cafodd ei ddal o dan y cerbyd wrth iddo newid cyfeiriad.
Er gwaetha' ymdrechion parafeddygon a thimau meddygol i鈥檞 adfer, bu farw yn y fan a鈥檙 lle.
Dywedodd ei fam, Louise Bunford, ei bod hithau wedi cael ei dal o dan y cerbyd gyda'r babi ar ei brest.
Llwyddodd i daflu'r ferch fach at ei mab hynaf, Gethin, cyn iddo ef a'i dad lwyddo i'w rhyddhau hi.
Disgrifiodd wrth y llys sut yr oedden nhw'n credu bod Tomos yn ddiogel, ond ei bod hi wedi sylwi arno yn gorwedd ar y ddaear "fel p锚l fach".
Roedd Rhys Bunford yn emosiynol wrth iddo roi tystiolaeth i'r llys.
Dywedodd bod Tomos wrth ei fodd gyda ffermio, a bod ei rieni wedi prynu llo iddo.
"Roedd yn mynd a'r llo am dro ar dennyn ar hyd clos y fferm," meddai.
Bu'n s么n bod ei fab wedi eillio gwallt y llo.
"Roedd yn fachgen doniol, fel 'na," meddai.
"Os oedd e'n dawel, roedden ni'n gwybod ei fod yn gwneud rhyw ddrygioni."
Dangosodd tystiolaeth feddygol bod Tomos wedi marw o anafiadau i鈥檞 frest a鈥檌 abdomen, ac fe gofnododd crwner cynorthwyol de Cymru, Gavin Knox, ei fod wedi marw鈥檔 ddamweiniol.