Terry Tuffrey a'i freuddwyd i fod yn DJ
- Cyhoeddwyd
Ar raglen Drych ar S4C nos Sul y 23ain o Ebrill fe fyddwn ni鈥檔 dod i adnabod dyn ifanc ysbrydoledig o Danygrisiau yng Ngwynedd.
Mae Terry Tuffrey yn 22 mlwydd oed ac mae ganddo anawsterau dysgu cymedrol. Ei freuddwyd yw bod yn DJ a dros y flwyddyn ddiwethaf mae camer芒u Cwmni Da wedi bod yn ei ddilyn wrth iddo raddio a mynd amdani i geisio gwireddu ei freuddwyd.
Cafodd Aled Hughes o 91热爆 Radio Cymru sgwrs gyda Terry am ei raglen a鈥檌 ddyheadau eraill ar gyfer y dyfodol.
鈥淒ros y flwyddyn ddwytha鈥 mae Cwmni Da wedi bod yn hollol wych efo fi oherwydd maen nhw wedi bod yn ffilmio fi鈥檔 mynd i wahanol lefydd ac yn ffilmio fy niddordebau i. Ond y prif ddiddordeb sydd gen i wrth gwrs ydi DJio.鈥
Mae鈥檔 angerddol dros gerddoriaeth a dyna sy鈥檔 bwydo ei awydd i fod yn DJ meddai,
鈥淏e鈥 dwi'n gael o gerddoriaeth ydi pleser yn fwy na dim. Os ydach chi, fel petai, yn cael diwrnod anodd neu drist a dydach chi jyst ddim isio gwneud dim byd, ond 'wyrach mynd am dro a gwrando ar fiwsig. Mi fyswn i bendant yn gwrando ar fiwsig... achos neith o wir godi eich ysbryd chi.鈥
A pha gerddoriaeth sy鈥檔 mynd 芒鈥檌 fryd?
鈥淧wy dwi'n licio yn canu ydy Elin Fflur wrth gwrs. Ges i y fraint a鈥檙 anrhydedd o ganu gyda hi ar 'Canu Gyda Fy Arwr'. A Gai Toms. Ddim yn unig mae o efo caneuon da ond mae o hefyd yn byw yn agos iawn ar stepan drws fi! Ia, a wedyn yn y byd canu Saesneg dw i鈥檔 licio Little Mix achos maen nhw wastad yn canu caneuon hapus lle dach chi鈥檔 gallu dawnsio iddyn nhw.鈥
Yn rhan o鈥檙 rhaglen mae Terry wedi bod yn ei ffilmio fe fuodd o yn y 91热爆 ym Mangor yn dysgu am gynhyrchu radio a chyd-gyflwyno yn fyw ar yr awyr. Holodd Aled o a oedd hynny wedi selio鈥檙 freuddwyd o fod yn DJ?
鈥淒w i鈥檔 gwybod sut mae radio a cerddoriaeth yn cael ei llwytho mewn i wahanol raglenni radio sydd yn wych. Dw i wedi cael cynnig profiad gwaith yn y 91热爆 yn ddiweddar felly dw i鈥檔 si诺r unwaith y bydda i鈥檔 cael 鈥榗hydig fwy o brofiad mi fydda i鈥檔 ddigon aeddfed i allu gwneud y penderfyniad cywir i mi. 鈥
Ond nid dim ond cerddoriaeth a DJio sy鈥檔 cadw Terry鈥檔 brysur y dyddiau hyn. Mae wedi dechrau dysgu Sbaeneg am fwy nag un rheswm.
鈥淢ae dysgu Sbaeneg wedi dod yn bwysig iawn i mi hefyd dros y blynyddoedd dwytha 鈥榤a oherwydd mae gynnon ni gartra ein hunain drosodd yn Tenerife a 鈥榙an ni鈥檔 licio mynd drosodd yna o leia鈥 unwaith y flwyddyn.
鈥淢ae dysgu Sbaeneg pan 鈥榙a chi drosodd yn Sbaen yn teimlo i fi yn hynod o bwysig achos, yndi mae鈥檙 iaith Saesneg yno, ond weithiau 鈥榳yrach eich bod chi angen mynd i rywle gwledig neu gyfarfod pobl sydd ddim yn gallu siarad Saesneg, so os 鈥榙ach chi yn gallu siarad Sbaeneg wel o leia鈥 鈥榙ach chi鈥檔 gallu conversio hefo nhw sy鈥檔 beth da iawn iawn.鈥
Ond yn yr hydref eleni, fel fydd Terry yn cael cyfle arall i ymarfer ei Sbaeneg gan ei fod yn mynd i Batagonia.
鈥淒w i鈥檔 mynd i Patagonia adeg Eisteddfod y Wladfa. Rydw i wedi ennill ysgoloriaeth i fynd i Patagonia trwy Gyngor Tref Ffestiniog.鈥
Yn ei gais am yr ysgoloriaeth roedd angen iddo nodi beth hoffai ei wneud tra鈥檌 fod o yno.
鈥淵 tair elfen nes i ddewis ohonyn nhw ydy i ganfod mwy am anableddau mewn ysgolion, ffendio allan am sefydliadau amgylcheddol newid hinsawdd a hefyd y trydydd elfen ydy ymweld 芒 Chlwb Rygbi y Ddraig Goch yn y Gaiman i drio cadw鈥檙 cysylltiad Cymreig i fynd rhwng Patagonia a Chymru.鈥
Gallwch glywed sgwrs Terry ac Aled ar 91热爆 Sounds.
Bydd Drych: DJ Terry ar S4C am 21:00 nos Sul, Ebrill 23 ac ar gael ar S4C Clic a 91热爆 iPlayer wedi hynny.