Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Bale: 'Dyfodol disglair i Gymru dan reolaeth Bellamy'
Mae dyfodol tîm pêl-droed Cymru "yn edrych yn dda" gyda Craig Bellamy wrth y llyw, yn ôl cyn-gapten y tîm cenedlaethol, Gareth Bale.
Mae Cymru wedi chwarae dwy gêm ers i Bellamy gael ei benodi ym mis Gorffennaf - gêm gyfartal yn erbyn Twrci a buddugoliaeth o 2-1 oeddi cartref ym Montenegro.
Dywedodd Bale – a chwaraeodd 111 o weithiau i Gymru cyn ymddeol ar ôl Cwpan y Byd 2022 - y bydd y gemau yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn hynod fuddiol cyn troi at ymgyrch rhagbrofol Cwpan y Byd 2026.
Wrth siarad yng Ngŵyl Chwaraeon Gareth Bale yn y Celtic Manor, dywedodd Bale ei fod "wedi gwylio'r ddwy gêm gyntaf a dwi'n meddwl ei fod yn ddechrau gwych".
"Mae'n angerddol iawn am bêl-droed ac mae hi'n amlwg yn barod ei fod yn dod â'r brwdfrydedd hwnnw i'r tîm," meddai Bale am y rheolwr newydd.
Ar hyn o bryd, mae Cymru yn yr ail safle yng ngrŵp 4 yn ail haen Cynghrair y Cenhedloedd.
Yn ôl Bale, dylai'r garfan fod yn hyderus wedi'r perfformiadau yn y gemau agoriadol.
"Rwy'n credu bod yn ddau wedi bod yn berfformiadau gwych," meddai.
"Roedd yn bwysig cael buddugoliaeth gyntaf yn erbyn Montenegro ac mae'r dyfodol yn edrych yn dda... Mae'n ymddangos fel rheolwr gwych.
“Mae'n cadw cefn y chwaraewyr, mae ganddo garfan ifanc, ac mae ganddo'r ymgyrch yma i ddangos ei allu ac i baratoi'r bechgyn ar gyfer y gystadleuaeth nesaf."
Mae Gŵyl Chwaraeon Gareth Bale yn ddigwyddiad blynyddol a gafodd ei lansio yn 2022.
Mae'n rhoi cyfle i bobl ifanc sy'n byw mewn cymunedau sydd â llai o gyfleoedd chwaraeon yn ne Cymru i gael mynediad at "ŵyl aml-chwaraeon diogel a chyffrous".
"Mae'n hynod bwysig i roi rhywbeth yn ôl," meddai Bale am y fenter.
"Mae gweld y plant yn rhedeg o gwmpas, yn cael amser gwych, yn gwneud ffrindiau ac yn mwynhau bod yn blentyn yn anhygoel i'w weld."