Aelodau o'r Senedd: Ni all Gething aros yn brif weinidog

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Vaughan Gething wedi gwrthod camu'n 么l fel prif weinidog gan fynnu ei fod yn bwrw ymlaen gyda'i waith

Ni all Vaughan Gething barhau fel prif weinidog Cymru ac mae angen iddo gamu'n 么l gan fod diffyg hyder ynddo, yn 么l gwrthwynebwyr gwleidyddol yn y Senedd.

Dywedodd yr AS Ceidwadol Tom Giffard bod Llafur Cymru'n "hollol ranedig dan ei arweinyddiaeth" a ddim mewn sefyllfa o'r herwydd i lywodraethu na deddfu.

Yn 么l Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig mae hi'n bryd i Mr Gething "wneud y peth cywir" ac ymddiswyddo, ac mae Plaid Cymru'n galw arno i roi'r "wlad o flaen ei blaid".

Ddydd Gwener fe fynnodd Mr Gething ei fod yn bwrw ymlaen 芒'r swydd, er parhad ffrae yngl欧n 芒鈥檌 benderfyniad i ddiswyddo un o'i weinidogion, Hannah Blythyn, a'r feirniadaeth o roddion dadleuol i'w ymgyrch arweinyddol.

Dywed AS Llafur Caerffili, Hefin David, bod aelodau gr诺p y blaid ym Mae Caerdydd yn dal yn cefnogi'r prif weinidog, ac fe ddisgrifiodd Ms Blythyn fel "un o aelodau mwyaf allweddol" y gr诺p.

Dywedodd Mr Giffard, AS yng Ngorllewin De Cymru, ar raglen 91热爆 Politics Wales ddydd Sul: "Mae'r syniad i gallwn ni jest symud ymlaen yn y ffordd y mae'r prif weinidog eisiau... ni dyna sut mae pethau'n gweithio.

"Ni all ennyn hyder y Senedd.

"Mae ei blaid ei hun yn hollol ranedig dan ei arweinyddiaeth, dydyn nhw methu 芒 chytuno ar unrhyw beth, ac mae'n eithaf clir y bydd yn frwydr wirioneddol iddo basio cyllideb.

"Ac mae'r syniad y gallwn ni rygnu ymlaen am ddwy flynedd nes etholiad nesaf y Senedd heb allu i lywodraethu, heb allu i ddeddfu, methu ag uno ers lles ego un dyn yn abswrd."

Disgrifiad o'r llun, Ni all Vaughan Gethin 'rygnu ymlaen' nes etholiadau'r Senedd yn 2026, medd yr AS Ceidwadol Tom Giffard

Yn gynharach ddydd Sul, fe ddywedodd Jane Dodds bod hi'n bryd i Mr Gething gamu'n 么l.

Dywedodd AS rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru wrth raglen Radio Wales Sunday Supplement: "Y peth cywir yn fy marn i ar hyn o bryd yw bod angen i'r prif weinidog ymddiswyddo.

"Does dim ffordd arall ymlaen."

Pan ofynnwyd wrthi pam bo'n gwrthbleidiau'n dal i godi pryderon ynghylch ymddygiad Mr Gething, atebodd: "Pwy sydd 'na i frwydro dros rywun fel Hannah Blythyn os nad y gwrthbleidiau?

"Yr hyn a welson ni dro ar 么l tro yn y dyddiau diwetha oedd gwybodaeth yn cael ei datgelu, sydd o bosib yn dangos na ddigwyddodd pethau yn y ffordd y disgrifiodd y prif weinidog."

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Mae Vaughan Gething wedi bod 'yng nghanol sgandal ers y diwrnod cyntaf', medd Plaid Cymru

Dywedodd Ms Dodds bod y gr诺p Llafur ddim yn gallu datgan cefnogaeth i Ms Blythyn, a bod rhaid i aelodau eraill o'r Senedd "wneud yn si诺r bod llais Hannah yn rhan o'r ddadl yma.

"Rwy'n poeni am iechyd meddwl pobol - nid dim ond Hannah, ond pobol eraill hefyd. Dwi'n si诺r bod y prif weinidog dan bwysau anferthol."

Ychwanegodd ei bod wedi rhoi cyfle i Mr Gething gan ei gefnogi fel prif weinidog wedi ei etholiad fel arweinydd newydd Llafur Cymru ym mis Mawrth.

"Mae gweithredoedd yn datgelu mwy na geiriau ac yn anffodus dwi wedi dod i'r pwynt ble - fel eraill yn y siambr - does gen i ddim hyder yn y prif weinidog ac mae'r sefyllfa o ran Hannah wedi cadarnhau hynny."

Angen 'rhoi'r wlad o flaen ei blaid'

Mae Plaid Cymru hefyd yn dweud bod angen i Mr Gething barchu'r bleidlais o ddiffyd hyder ynddo, gan ei ddisgrifio fel prif weinidog "yng nghanol sgandal ers y diwrnod cyntaf".

Mewn datganiad fe ddywedodd AS rhanbarth Canol De Cymru, Heledd Fychan ei fod "wedi colli hyder y Senedd a phobl Cymru" a bod hi'n "ymddangos bod yna anniddigrwydd cynyddol o fewn ei blaid ei hun hefyd"

Mae hynny, awgrymodd, yn sgil "ei ddiffyg trylywder a'i amharodrwydd i gael ei graffu ynghylch diswyddo gweinidog sy'n dal i fynnu ei bod heb wneud dim o'i le".

Ychwanegodd: "Dan Vaughan Gething, ni allai ei lywodraeth weithredu ar ran pobl Cymru. Rhaid i'r Prif Weinidog barchu dymuniadau'r Senedd a rhoi'r wlad o flaen ei blaid."

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Vaughan Gething wedi'r bleidlais o ddiffyg hyder ynddo fis diwethaf

Y gr诺p Llafur yn dal yn cefnogi'r prif weinidog

Mewn cyfweliad 芒 91热爆 Cymru brynhawn Sul, dywedodd AS Caerffili, Hefin David bod yna "gefnogaeth lawn" i Mr Gething ymhlith aelodau'r gr诺p Llafur yn y Senedd.

Awgrymodd mai'r "peth pwysicaf i'w wneud nawr fyddai cyhoeddi'r dystiolaeth y mae'r Ceidwadwyr yn mynd i alw amdano wythnos nesaf".

Dywedodd taw "penderfyniad i'r llywodraeth" fyddai hynny "ond rwy'n meddwl y bydde'n fuddiol iawn petasen nhw'n gwneud".

Byddai'n rhaid gwneud hynny "mewn ffordd sensitif sy'n cynnwys pawb oedd yn rhan o weld y negeseuon" y mae Mr Gething yn honni y rhannodd Ms Blythyn 芒 gwefan Nation.Cymru - rhywbeth y mae hi a'r wefan yn gwadu.

Gan ddisgrifio Ms Blythyn fel "ffrind da", dywedodd bod hi'n bwysig bod y cyn weinidog ac AS Delyn yn teimlo fel "aelod llawn y mae croeso iddi" o fewn y gr诺p Llafur, a'i fod yn awyddus iddi "barhau i chwarae rhan lawn" yn y Senedd.