Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Comisiynydd y Gymraeg yn cydnabod gwaith Samariaid Cymru
Mae elusen y Samariaid yn pwysleisio pwysigrwydd gallu siarad yn eich mamiaith, yn arbennig wrth i鈥檙 Nadolig nes谩u.
Dros y flwyddyn ddiwethaf fe atebodd Samariaid Cymru 130,000 o alwadau am gymorth, sy'n gyfystyr ag un alwad bob pedwar munud.
Mae nifer y galwadau yn uwch adeg y Nadolig, sy'n gyfnod o bryder ac unigrwydd i lawer.
Mae'r elusen - sy'n cynnig gwasanaeth dwyieithog - newydd dderbyn y Cynnig Cymraeg gan y Comisiynydd Iaith.
Mae'r Cynnig yn cydnabod sefydliadau sydd wedi cydweithio 芒 swyddogion y Comisiynydd i gynllunio eu darpariaeth Gymraeg.
"Yng Nghymru, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw derbyn cymorth yn eich iaith gyntaf," meddai Neil Ingham, Cyfarwyddwr Gweithredol Samariaid Cymru.
"Rydym yn gweithio i gyrraedd cymaint o siaradwyr Cymraeg ag y gallwn.
"Rydym yn falch o dderbyn cydnabyddiaeth y Cynnig Cymraeg, ond rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i wella ein Cynnig Cymraeg i unrhyw un sydd angen cefnogaeth y Samariaid."
Ychwanegodd: "Ein prif neges i bawb ledled Cymru, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn, yw nad yw estyn allan am gymorth yn arwydd o wendid, ond yn hytrach yn arwydd o gryfder."
'Falch o godi'r ff么n'
Yn 么l yr elusen, mae llawer o resymau dros alw ond mae'r prif rai oherwydd problemau iechyd meddwl, anghydfod teuluol, unigedd ac unigrwydd, problemau perthynas a salwch corfforol.
Mae Damien yn un sy'n falch iddo godi'r ff么n.
Roedd wedi bod yn cael trafferth gydag iselder a gorbryder am 10 mlynedd, a flwyddyn yn 么l, penderfynodd na allai fynd ymlaen, ac yna fe ffoniodd y Samariaid.
Dywedodd: "Doeddwn i ddim yn gallu siarad gyda fy nghariad na fy nhad.
"Roedd y ddau yn gefnogol iawn, ond pan rydych chi yn ei chanol hi, mae'n anodd iawn meddwl yn rhesymegol."
Fe ymddangosodd rhif y Samariaid un bore ac fe feddyliodd nad oedd ganddo ddim i'w golli.
"Alla i ddim cofio cynnwys y sgwrs, y cyfan rwy'n ei wybod yw, ar 么l i mi ddod oddi ar y ff么n, nad oeddwn i'n teimlo'r un ffordd.
"Erbyn hyn, dwi'n dal i gael diwrnodau gwael o dro i dro, ond dwi mewn lle llawer gwell nag oeddwn i gan wybod nad yw'r teimladau hyn yn barhaol."
Yn 么l Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, mae'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan sefydliadau fel Samariaid Cymru yn hanfodol bwysig yn enwedig dros gyfnod y Nadolig.
"Ni ellir gorbwysleisio gwerth llais cyfeillgar ar ochr arall y ff么n, un sy'n barod i wrando a siarad 芒 chi.
"Mae'n gam mawr i wneud yr alwad honno ac mae'n bwysig bryd hynny bod y galwr yn gallu siarad yn eu dewis iaith, gan sicrhau ei fod mor gyfforddus 芒 phosib."
Mae Lynda yn Gyfarwyddwr Cangen Bangor o'r Samariaid ac yn un sydd ar ben arall y ff么n.
"Mae defnyddio fy iaith gyntaf yn hanfodol i mi yn fy mywyd bob dydd fel y mae i lawer ledled Cymru, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn cymunedau gwledig a ffermio.
"Mae siarad yn Gymraeg yn eu helpu i deimlo'n fwy cyfforddus wrth i ni siarad am yr hyn sy'n eu poeni."