Gohirio cynllun cwot芒u rhywedd i'r Senedd tan 2030

Disgrifiad o'r llun, Byddai'n rhaid i bleidiau gwleidyddol ddewis o leiaf 50% o ferched neu fwy o dan y cynlluniau
  • Awdur, Elliw Gwawr
  • Swydd, Gohebydd gwleidyddol 91热爆 Cymru

Mae cynlluniau i gyflwyno cwot芒u rhywedd ar gyfer etholiadau'r Senedd yn mynd i gael eu gohirio tan etholiad 2030, yn 么l Llywodraeth Cymru.

Roedd cynlluniau i hybu cynrychiolaeth menywod yn y Senedd i fod yn eu lle erbyn yr etholiad nesaf yn 2026 yn wreiddiol.

Ond mae 'na bryderon wedi codi y gallai heriau cyfreithiol i鈥檙 gyfraith effeithio ar ganlyniad yr etholiad.

Mae gweinidog wedi dweud y byddai'r oedi yn rhoi mwy o amser i unrhyw "heriau cyfreithiol posib i'r ddeddfwriaeth gael eu datrys ymhell cyn yr etholiad".

Dydd Mawrth bydd aelodau'r Senedd yn dadlau ac yn pleidleisio ar egwyddorion cyffredinol y gyfraith newydd, fyddai'n ei gwneud hi'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol sicrhau bod o leiaf 50% o'u hymgeiswyr yn fenywod.

'Osgoi peryglu etholiad 2026'

Mae鈥檙 Llywydd, Elin Jones eisoes wedi rhybuddio nad oes gan y Senedd y grym i basio鈥檙 bil.

Ni fyddai hynny'n atal y mesur rhag cael ei basio, ond mae'n codi'r posibilrwydd o ddadlau dros y ddeddfwriaeth yn y llysoedd.

Yn sgil hynny, mae Pwyllgor Biliau Diwygio'r Senedd wedi galw ar y llywodraeth i gymryd "camau brys" i osgoi "peryglu etholiad 2026".

Er bod y llywodraeth yn credu bod y bil yn unol 芒'u pwerau, mae'r Gweinidog Busnes, Jane Hutt wedi awgrymu y gallai fynd gerbron llys uchaf y Deyrnas Unedig yn y pendraw.

Mewn llythyr at bwyllgor deddfwriaeth y Senedd, dywedodd mai dim ond dyfarniad gan y Goruchaf Lys allai "roi'r mater y tu hwnt i amheuaeth".

Ond dim ond ar 么l pasio'r ddeddfwriaeth y gellir cyfeirio鈥檙 mater i鈥檙 Goruchaf Lys.

Mae yna bryderon hefyd y byddai'r ddeddfwriaeth yn caniat谩u i ymgeiswyr nodi eu rhywedd eu hunain.

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi mynegi pryder y gallai hyn fod yn "anghyfreithlon".

Mae Ms Hutt yn dadlau nad yw'r mesur "yn ymwneud 芒 diffinio 'menyw' ac nid yw'n ymwneud 芒 chydnabod rhywedd".

鈥淒iben y mesur yw gwneud y Senedd yn fwy effeithiol, a bydd hynny yn cael ei gyflawni drwy anelu at sicrhau bod mwy o gydbwysedd rhwng y rhywiau ymhlith ei haelodau," meddai.

Dywedodd mai mater i ymgeiswyr unigol a phleidiau gwleidyddol fydd sicrhau bod datganiadau a wneir am rywedd yn gywir.

Ychwanegodd bod "ymgeiswyr a'u pleidiau mewn perygl o niweidio enw da ac o her gyfreithiol pe bai datganiad rhywedd ffug yn cael ei wneud".

'Siomedig dros ben'

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig am y cyfansoddiad, Darren Millar, y byddai bwrw ymlaen gyda'r cynllun "yn peri risg wirioneddol o her i ganlyniad etholiadau鈥檙 Senedd yn 2026".

Fe alwodd ar weinidogion Llafur i droi eu cefnau ar y ddeddfwriaeth "a chanolbwyntio ar flaenoriaethau pobl Cymru".

Ychwanegodd: 鈥淒ylai Aelodau鈥檙 Senedd gael eu hethol yn 么l eu teilyngdod, nid ar sail eu rhyw, hil, crefydd nac unrhyw nodwedd warchodedig arall.鈥

Dywedodd Heledd Fychan o Blaid Cymru: 鈥淭ra鈥檔 croesawu鈥檙 ffaith bod y gwaith yn mynd rhagddo, mae鈥檔 siomedig dros ben bod hyn yn cael ei ohirio tan 2030.

"Gyda Senedd fwy yn 2026, mae鈥檔 bwysig bod hi hefyd yn Senedd fwy cynrychioladol.鈥