Cymru'n teithio i Montenegro yn disgwyl buddugoliaeth

Disgrifiad o'r fideo, Cefnogwyr Cymru'n siarad cyn y gêm yn erbyn Montenegro nos Lun.

Bydd carfan pêl-droed dynion Cymru yn herio Montenegro oddi cartref nos Lun, gan obeithio adeiladu ar y gêm gyfartal yn erbyn Twrci.

Er nad oedd buddugoliaeth, roedd teimlad fod cyfnod newydd, cyffrous ar ddechrau yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener.

Hon oedd gêm gyntaf Craig Bellamy wrth y llyw.

Roedd Cymru'n chwarae ar y droed flaen, ac fe allen nhw'n hawdd fod wedi trechu Twrci.

Taith oddi cartref i Montenegro sy'n wynebu'r garfan nos Lun, ond yn wahanol i nos Wener, y disgwyliad yn sicr yw buddugoliaeth i Gymru.

Disgrifiad o'r fideo, Cefnogwyr Cymru'n morio Yma o Hyd mewn parti ar y traeth yn nhref Budva ym Montenegro ddydd Sul

Hon fydd ail gêm Cymru yn eu hymgyrch newydd yng ngrŵp 4 o ail haen - Cynghrair B - Cynghrair y Cenhedloedd.

Colli oedd hanes Montenegro yn eu gêm gyntaf nhw o'r ymgyrch, a hynny oddi cartref yng Ngwlad yr Iâ.

Canslo trip nifer o gefnogwyr

Ond nid pawb sydd wedi llwyddo i gyrraedd Montenegro ar gyfer y gêm.

Mae trip nifer o gefnogwyr gyda chwmni teithio Wonky Sheep - partner teithio swyddogol Cymdeithas Bêl-droed Cymru - wedi cael ei ganslo yn dilyn trafferthion gyda hediad o Faes Awyr Caerdydd.

Roedd cefnogwyr yn bwriadu teithio o Faes Awyr Caerdydd i Podgorica yn syth ar ôl y gêm rhwng Cymru a Thwrci nos Wener ar gyfer y gêm oddi cartref yn erbyn Montenegro yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Lun.

Ond dywedodd Wonky Sheep y bu'n rhaid canslo'r hediad wedi i'r awyren daro aderyn.

Nos Sul fe wnaeth y cwmni gadarnhau fod y trip wedi cael ei ganslo ar gyfer y cefnogwyr oedd i fod ar yr hediad hwnnw o Gaerdydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe allai Cymru'n hawdd fod wedi ennill nos Wener, gyda Sorba Thomas yn un o'r rheiny lwyddodd i greu argraff

Mae'n ymddangos bod 180 o gefnogwyr i fod i deithio ar yr awyren nos Wener.

Roedd rhai o'r rheiny wedi gwneud trefniadau eraill wedi i'r hediad gael ei ganslo, ond roedd eraill wedi penderfynu disgwyl i weld beth fyddai'n digwydd gyda'r trip Wonky Sheep.

Dyw hi ddim yn eglur faint o'r 180 sydd heb wneud trefniadau eu hunain, ac na fydd yn teithio i Montenegro yn sgil canslo'r trip.

Mae Wonky Sheep wedi ymddiheuro, gan ddweud eu bod wedi "gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod o hyd i ateb", ond nad oedd modd canfod datrysiad.

Symud y gêm

Dyw'r paratoadau ym Montenegro ddim wedi bod yn ddiffwdan chwaith.

Cafodd lleoliad y gêm ei symud llai na phythefnos yn ôl oherwydd cyflwr y cae yn Stadiwm Cenedlaethol Podgorica.

O ganlyniad, cadarnhaodd UEFA y byddai'n rhaid symud y gêm i'r City Stadium yn ninas Nikšić - rhyw awr i ffwrdd o'r lleoliad gwreiddiol.