Creu campfa ar fferm i roi hwb i'r corff a'r enaid

Disgrifiad o'r fideo, Dywed Robin Jones ei fod wedi ceisio "creu cymdeithas" yn y gampfa
  • Awdur, Llyr Edwards
  • Swydd, Gohebydd 91热爆 Cymru

Mae ffermwr wedi creu campfa ar fferm yng nghanol cefn gwlad y gogledd, gyda'r gobaith o roi hwb i'r corff a鈥檙 enaid i bobl yr ardal.

Mae Robin Jones wedi creu ei gampfa ar Fferm Pen y Garth ger Yr Wyddgrug.

Drwy gyplysu defnyddio offer fferm ac offer ymarfer modern, mae campfa Farm Fit wedi dod yn hynod boblogaidd.

Erbyn hyn mae dros 80 o bobl o bob oed yn ymarfer yno鈥檙 gyson, ac maen nhw hefyd yn darparu cymorth i blant sydd ag anghenion arbennig ac awtistiaeth.

Disgrifiad o'r llun, Mae campfa Farm Fit wedi'i lleoli ar Fferm Pen y Garth ger Yr Wyddgrug

O neidio dros f锚ls gwair i godi hen olwynion tractor, mae offer a deunyddiau traddodiadol Fferm Pen y Garth yn cael bywyd newydd, a hynny i gadw pobl yn ffit ac yn iach.

Dechreuodd y cwbl mewn sied wair, ond ers hynny mae pethau wedi datblygu a datblygu, gan gyfuno offer modern gyda phob math o greiriau eraill.

Ond i'r dyn a greodd y cwbl - Robin Jones, sy鈥檔 hyfforddwr personol ac yn ffermio - mae o鈥檔 fwy na chadw鈥檔 heini.

Mae iechyd meddwl pobl yr un mor bwysig ag iechyd corfforol, meddai.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r gampfa yn cyfuno offer modern gydag eitemau fyddai'n cael eu darganfod ar fferm draddodiadol

"Dwi wir yn cas谩u galw fo'n gym a bod yn onest - un o鈥檙 prif bethau ydy creu cymdeithas.

"'Da ni鈥檔 cael barbeciws, 'da ni鈥檔 mynd am dro - jyst ceisio gwneud cymaint efo鈥檔 gilydd pryd 'da ni鈥檔 gweithio allan.

"Dim ar ben dy hun efo headphones ar - 'da ni鈥檔 trio cymysgu, cael pobl at ei gilydd, sydd mor anodd i ddod ar ei draws yn yr oes yma, i fod yn onest."

Disgrifiad o'r llun, Dywed Robin Jones mai creu cymdeithas o bobl yw un o brif nodau'r gampfa

Daw pobl o bell ac agos i'r gampfa, ac yn amlwg maen nhw wrth eu boddau.

Dywedodd Dafydd Williams ei fod yn mynd yno oherwydd "yr hwyl a phopeth arall".

"Yn fwy na dim, mae 'na griw da ohonom ni - mwy o gymdeithas na jyst mynd i鈥檙 gym ar dy ben dy hun."

Ychwanegodd Helen Waring: "Pob nos Lun a nos Fercher 'da ni鈥檔 cael workout go iawn efo Robin.

"Mae 'na hwyl ac mae 'na gymuned hyfryd yma. Mae Robin yn gymeriad a hanner!"

Disgrifiad o'r llun, Mae Helen Waring ac Anna Jones yn canmol y gymuned yn Farm Fit

Dywedodd Anna Jones fod y lle yn "lot o hwyl ac mae Robin wastad yn rili positif ac yn annog ni wastad i jyst trio ein gorau".

"Mae'n ffordd hwyl o gadw鈥檔 ffit a gweld pawb hefyd."

Mae holl elw鈥檙 gampfa yn mynd yn 么l i鈥檙 gymuned, a鈥檙 gobaith ydy ehangu鈥檙 ddarpariaeth yn Fferm Pen y Garth dros y blynyddoedd nesaf i gynnig mwy o adnoddau eto fel bod mwy o bobl o bob oed yn elwa.