Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Undeb Unite i ohirio streic gweithwyr dur
Mae Undeb Unite wedi cadarnhau eu bod am ohirio streic gan weithwyr Tata Steel ym Mhort Talbot, er mwyn cynnal trafodaethau o'r newydd gyda'r cwmni am ddyfodol y safle.
Roedd yr undeb wedi bwriadu streicio ar 8 Gorffennaf.
Roedd perchnogion Tata wedi bygwth cau'r ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot ddiwrnod cyn y streic, am resymau iechyd a diogelwch.
Ond maen nhw bellach wedi cadarnhau na fydd y ffwrneisi yn cau yn gynt na'r disgwyl wedi i Unite ohirio eu streic.
Ddydd Sul fe wnaeth cwmni Tata Steel gynnig cyfarfod undebau ar gyfer trafodaethau o'r newydd ar yr amod bod Unite yn gohirio'r streic.
Y gred yw bod y cwmni, mewn llythyr i Bwyllgor Dur y DU - sy'n cynrychioli undebau Community, Unite a'r GMB - wedi cynnig trafod buddsoddiad yn safle Port Talbot ar gyfer y dyfodol.
Ond roedd yn rhaid i'r undebau ohirio unrhyw weithredu diwydiannol yn ne Cymru.
Byddai'r gweithredu diwydiannol wedi golygu bod tua 1,500 o staff Tata Steel yn streicio dros gynlluniau'r cwmni i dorri miloedd o swyddi.
Hwn fyddai'r tro cyntaf mewn 40 mlynedd i weithwyr dur yn y DU fynd ar streic.
Fe wnaeth y Llywodraeth addo grant o 拢500 miliwn tuag at ddatblygu ffwrnais drydan newydd gwerth 拢1.25 biliwn, ac er yn cynhyrchu digon o egni, does dim angen cymaint o staff i'w rhedeg.
Bydd cau'r ddwy ffwrnais yn golygu colli 2,800 o swyddi tra byddai cadw un o'r ffwrneisi yn golygu diogelu 2,000 o'r swyddi os byddai'r ffwrnais yn weithredol nes bod y ffwrnais drydan yn cael ei hadeiladu ar y safle.
Dywed ffynhonnell wrth y 91热爆 fod Unite wedi rhoi'r esgus perffaith i gau Tata yn gynnar, gan golli nifer o swyddi.
Ond dywed swyddogion Unite bod eu gweithredoedd wedi "helpu i ffocysu meddyliau pobl" ac yn dweud y bydd trafodaethau pellach wedi'r etholiad cyffredinol.
Er hyn, mewn llythyr - sydd wedi ei weld gan y 91热爆 - mae'n amlwg fod y cwmni eisoes wedi cytuno i drafodaethau pellach yn dilyn yr etholiad.
Dywed swyddogion o undebau eraill fod Unite wedi achosi "dim byd ond anrhefn ac arian i'w haelodau".
Wrth ymateb i'r penderfyniad i ohirio'r streic, dywed Alun Davies, Swyddog Cenedlaethol i Undeb Cymunedol Gweithwyr Dur: "Fe wnaeth Tata gadarnhau os y byddai'r gweithredu diwydiannol yn cael ei ohirio yna y bydden nhw'n barod i ail agor trafodaethau.
"Gyda miloedd o swyddi yn y fantol, rydym yn croesawu penderfyniad Unite i ohirio eu streic ac i ddychwelyd i drafodaethau gyda'r undebau eraill.
"Y gwirionedd yw, ni wnaeth Tata erioed gerdded i ffwrdd o'r trafodaethau, ac yn ystod ein cyfarfod diwethaf ar 22 Mai, fe wnaeth yr holl undebau gytuno i ddod 芒'r trafodaethau i ben a rhoi'r penderfyniad yn nwylo'n haelodau.
"Bydd undeb Community yn croesawu ail agor y trafodaethau, ond rydym yn ddig nad oes unrhyw ddatblygiad wedi bod ers Mai 22."
'Atal paratoadau' ar gyfer cau'n gynnar
Dywedodd llefarydd ar ran Tata Steel y byddan nhw'n "atal paratoadau" ar gyfer rhoi鈥檙 gorau i weithredu'r ffwrnais chwyth olaf ym Mhort Talbot yr wythnos hon.
"Rydym yn croesawu鈥檙 ffaith ein bod wedi osgoi gorfod symud ymlaen i lawr y llwybr hwn."
Cadarnhaodd y cwmni fod y gwaith ar un o'r ffwrneisi chwyth wedi dechrau dod i ben yr wythnos hon, ond y disgwyl nawr yw y bydd yr ail ffwrnais yn dal i weithredu tan fis Medi.