Cyn-chwaraewr rygbi Cymru yn ddieuog o ymosod ar ddisgybl

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Mathew Back wedi bod yn athro ers bron i 30 o flynyddoedd

Mae cyn-chwaraewr rygbi Cymru wedi ei ganfod yn ddieuog o ymosod ar ddisgybl ysgol gynradd.

Mae Mathew Back, 53, wedi bod yn athro ers bron i 30 o flynyddoedd.

Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Caerdydd fe wnaeth yr erlyniad honni fod Mr Back wedi "colli rheolaeth" a bod clais wedi'i ganfod ar fraich plentyn.

Clywodd y llys fod y plentyn yn ymddwyn yn heriol tuag at staff ar 9 Tachwedd 2021.

Mynnodd Mr Back, a enillodd bedwar cap i Gymru yn y 1990au, ei fod wedi defnyddio technegau sydd wedi'u cymeradwyo i atal disgyblion, a'i fod wedi defnyddio grym oedd yn "resymol, cymedrol ac yn angenrheidiol".

Profiad 'arteithiol i bawb'

Cafodd fideo camer芒u cylch cyfyng o'r digwyddiad ei ddangos i'r rheithgor.

Fe ddywedodd Mr Back fod y plentyn yn grac ac yn estyn am organau cenhedlu aelodau benywaidd o staff, a'i fod e'n ceisio'u hamddiffyn.

Dywedodd Mr Back "nad yw e' bob tro'n bosib" dilyn canllawiau "Team Teach" i reoli ymddygiad disgyblion ymosodol.

Enillodd Mathew Back bedwar cap i Gymru fel cefnwr ym 1995 a chwaraeodd i glwb Pontypridd yn ogystal 芒 Phen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Bryste ac Aberafan.

Ar 么l achos a barodd chwe diwrnod fe wnaeth y rheithgor benderfynu mewn hanner awr nad oedd Mr Back yn euog.

Ond bu'n rhaid aros dros awr cyn clywed y dyfarniad yn sgil llwyth achosion y llys.

Roedd Mr Back bron yn ei ddagrau yn y doc pan ddaeth y dyfarniad, a'i wraig yn crio yng ngaleri'r cyhoedd.

Yn siarad y tu allan i'r llys, dywedodd Mr Back: 鈥淢ae hi wedi bod yn dair blynedd arteithiol i bawb.

"Ond dwi just mor falch y gallai fynd i gysgu gyda'r nos nawr."