Gething yn ad-drefnu ei lywodraeth wedi ymddiswyddiadau

Ffynhonnell y llun, Senedd

Mae'r Prif Weinidog Vaughan Gething wedi ad-drefnu cabinet Llywodraeth Cymru.

Daw'r ad-drefnu ar 么l i bedwar aelod blaenllaw o'i gabinet ymddiswyddo fore Mawrth.

Eluned Morgan sy'n gyfrifol am y Gymraeg.

Mae Jack Sargeant wedi cael ei wneud yn weinidog partneriaeth gymdeithasol, tra bod Sarah Murphy yn symud i fod yn gyfrifol am iechyd meddwl a blynyddoedd cynnar.

Bydd Ken Skates yn dod yn ysgrifennydd economi, tra bod Jayne Bryant yn cael ei dyrchafu鈥檔 ysgrifennydd dros lywodraeth leol.

Disgrifiad o'r llun, Y pedwar aelod o'r llywodraeth a ymddiswyddodd fore Mawrth - Jeremy Miles, Julie James, Mick Antoniw a Lesley Griffiths

Y pedwar aelod a gyhoeddodd ddydd Mawrth eu bod yn gadael y llywodraeth oedd Julie James, Lesley Griffiths, Jeremy Miles a'r Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw.

Cyhoeddodd Mr Gething ddydd Mawrth y byddai'n "dechrau'r broses o gamu i lawr" fel arweinydd Llafur Cymru a Llywodraeth Cymru.

Does dim manylion hyd yma am y ras i'w olynu.

Mae 91热爆 Cymru'n deall fod Jeremy Miles - y dyn a ddaeth yn ail o drwch blewyn i Mr Gething yn yr ornest ychydig fisoedd yn 么l - yn debygol o ymgeisio am arweinyddiaeth Llafur Cymru unwaith eto.

Ond mae un o'r enwau sydd wedi eu crybwyll, y cwnsler cyffredinol Mick Antoniw, wedi cadarnhau nad yw'n bwriadu ymuno 芒'r ras.

Y llywodraeth yn llawn

  • Ysgrifennydd Cyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa鈥檙 Cabinet - Rebecca Evans
  • Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig - Huw Irranca-Davies
  • Ysgrifennydd Addysg - Lynne Neagle
  • Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Thai - Jayne Bryant
  • Ysgrifennydd Iechyd, Gofal Cymdeithasol a鈥檙 Gymraeg - Eluned Morgan
  • Ysgrifennydd Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru - Ken Skates
  • Ysgrifennydd Diwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a鈥檙 Prif Chwip - Jane Hutt
  • Gweinidog Gofal Cymdeithasol - Dawn Bowden
  • Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol - Jack Sargeant
  • Gweinidog Iechyd Meddwl a鈥檙 Blynyddoedd Cynnar - Sarah Murphy