Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Bydd newidiadau' i bolisi dadleuol 20mya - Skates
Fe fydd newidiadau i'r polisi 20mya gyda "llais cymunedau wrth galon popeth y gwnawn ni", yn 么l ysgrifennydd trafnidiaeth Cymru.
Dywedodd Ken Skates bod ardaloedd 20mya yn "gywir ger ysgolion, ysbytai a meithrinfeydd", ac y dylid eu targedu at yr ardaloedd yna.
Ychwanegodd bod cefnogaeth i'r polisi dadleuol ar gyfer llefydd ble mae plant a'r henoed yn wynebu perygl.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw'r polisi yn un "hynod amhoblogaidd".
Cafodd Mr Skates, AS De Clwyd, ei benodi gan Vaughan Gething i ofalu am bolisi trafnidiaeth Cymru.
Yn siarad yn y Senedd, dywedodd Mr Skates ei fod yn bwriadu creu "cynllun gwrando cenedlaethol" ar 么l trafod gyda chynghorwyr a swyddogion cyngor.
Dywedodd wrth ASau bod "consensws sy'n tyfu bod y polisi 20mya yn gywir i ysgolion, ysbytai a meithrinfeydd".
"Dwi'n teimlo'n gryf ar draws y siambr bod cefnogaeth i 20mya yn yr ardaloedd sy'n addas yn enwedig ble mae plant a'r henoed yn wynebu risg."
Dywedodd bod "popeth yn gwneud synnwyr" yn yr ardaloedd yna, ond bod angen "gwneud yn si诺r bod 20mya wedi ei dargedu i'r ardaloedd yna fel y gwnaethon ni addo".
"Fe fydd newidiadau ar y cyd ac er mwyn y cymunedau rydyn ni i gyd yn eu gwasanaethu gyda llais cymunedau wrth galon popeth y gwnawn ni."
Dadansoddiad Daniel Davies
Gohebydd gwleidyddol
Mae sylwadau Ken Skates bod angen 鈥渢argedu鈥檙鈥 terfyn cyflymder yn swnio fel newid cyfeiriad sylweddol.
Ond mae鈥檙 terfyn 20mya wedi鈥檌 gyflwyno yn llawer ehangach na dim ond tu fas yr ysgolion, ysbytai a meithrinfeydd y soniodd Mr Skates amdanynt yn y Senedd.
Ar y llaw arall, fe ddywedodd gweinidog arall 鈥渘ad oes yna newid radical o gwbl鈥.
Mae'r gyfraith 20mya yn aros. Yn hytrach, bydd y canllawiau i gynghorau yn cael eu hadolygu
Dywedodd y llywodraeth y gallai hynny olygu bod y terfyn cyflymder yn dychwelyd i 30mya ar 鈥渞ai ffyrdd鈥.
Bydd yn rhaid aros i weld beth yw ystyr 鈥渞hai鈥.
Ond mae addewid Mr Skates i gynnal "rhaglen wrando genedlaethol" yn gydnabyddiaeth bod Llafur yn ceisio ymateb i鈥檙 feirniadaeth o鈥檙 polisi dadleuol hwn.
Wrth ymateb dywedodd yr AS Ceidwadol Natasha Asghar bod 20mya yn "hynod amhoblogaidd" ac fe alwodd am adolygiad.
Dywedodd bod "pwysau'r Ceidwadwyr Cymreig yn newid meddyliau gweinidogion Llafur".
"Mae pobl Cymru eisiau parhau gyda'u bywydau dyddiol a busnesau eisiau tyfu, ond mae diffyg buddsoddiad Llafur mewn trafnidiaeth gyhoeddus, atal adeiladu ffyrdd a therfyn cyflymder 20mya yn arafu popeth i lawr."
Mae'r polisi 20mya mewn grym ar 37% o rwydwaith ffyrdd Cymru.
Bwriad y llywodraeth oedd lleihau anafiadau a marwolaethau ar y ffyrdd, ond mae'r polisi wedi bod yn ddadleuol, gyda bron i hanner miliwn yn arwyddo deiseb yn gwrthwynebu.
Ymateb 'synhwyrol'
Brynhawn Iau dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan, fod ymateb yr ysgrifennydd trafnidiaeth newydd yn un "synhwyrol".
"Mae'n amlwg fod 'na gonsensws ar 20mya o amgylch ysgolion, ysbytai a meysydd chwarae. Dwi'n meddwl fod 'na drafodaeth i gael y tu hwnt i hynny," ychwanegodd.
Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod neges awdurdodau lleol yn "eithaf clir - maen nhw'n cefnogi'r cynllun 20mya ond yn croesawu eglurder ac adolygiad o'r cynllun, a fydd yn arwain at newidiadau mewn mannau".
"Mae'n rhaid i ni wrando ar gymunedau a'r rhai na sydd wedi cael lleisio barn ar y mater hyd yn hyn."
Dywedodd Stephen Edwards, Prif Weithredwr Living Streets Cymru ei fod yn "siomedig iawn fod Llywodraeth Cymru wedi nodi y gallai newidiadau fod i'r rheol 20mya a ddaeth i rym yn 2023. Fe fyddai hynny yn gallu bod yn gam yn 么l i ddiogelwch ar strydoedd yng Nghymru".
"Mae'r terfyn cyflymder 20mya yn gweithio," meddai.
"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio 芒 thynnu polisi sydd eisoes yn cefnogi iechyd a diogelwch cymunedau Cymru."