Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cwmni gemwaith o Lundain wedi achub Byrllysg Bangor
- Awdur, David Grundy
- Swydd, Newyddion 91热爆 Cymru
Mae byrllysg (mace) sy'n cael ei ddefnyddio mewn digwyddiadau seremon茂ol ym Mangor ers 140 o flynyddoedd wedi cael ei achub gan gwmni gemwaith yn Llundain.
Roedd Cyngor Dinas Bangor yn poeni nad oedd modd i鈥檙 cyngor fforddio鈥檙 gost o drwsio byrllysg y ddinas, oedd wedi dirywio鈥檔 sylweddol.
Roedd rhannau ohono鈥檔 disgyn yn ddarnau.
Roedd pob un o feiri'r ddinas wedi defnyddio鈥檙 byrllysg ers 1883, pan gafodd ei gyflwyno i nodi鈥檙 ffaith fod Bangor wedi cael statws dinas gan y Frenhines Victoria.
Fe gytunodd cwmni gemwaith yn Llundain, Wartski, sydd 芒 chysylltiadau 芒 Bangor, ei drwsio am ddim.
Mae cwmni Wartski wedi ei leoli ar St James Street yn Llundain ac wedi bod yn gyfrifol am greu modrwyau priodas y Brenin Charles III a'r Frenhines Camilla.
Cafodd y cwmni ei sefydlu yng Ngwlad Pwyl cyn i'r sylfaenydd, Morris Wartski, agor ei siop gyntaf ar Stryd Fawr Bangor ym 1865.
Ei fab, Isodore, oedd maer y ddinas rhwng 1939 a 1944.
Mae鈥檙 cwmni wedi cytuno i adfer y byrllysg am ddim.
Ar 么l cludo鈥檙 byrllysg i Lundain, bu arbenigwyr yn ei drin a鈥檌 adfer dros gyfnod o dri mis.
Mae'r byrllysg yn symbol o gysylltiadau brenhinol dinas Bangor, ac mae wedi cael ei ddefnyddio yn ystod ymweliadau brenhinol yn ogystal 芒 seremon茂au'r maer.
Cyn dychwelyd i Fangor, fe gafodd y byrllysg ei gludo o bencadlys Wartski, heibio Palas Buckingham, i bencadlys y Gwarchodlu Cymreig, lle cafodd ei gyfarch gan y gwarchodwyr.
鈥淢ae鈥檔 fendigedig gweld rhywbeth o Fangor yma yn Wellington Barracks," meddai鈥檙 Gwarchodfilwr Adrian Owen, 23, sy鈥檔 dod o bentref Bontnewydd ger Caernarfon.
"Mae鈥檔 wych bo' ni fel y Gwarchodlu Cymreig yn gallu rhoi rhyw fath o saliwt iddo fo ar 么l iddo gael ei drwsio cyn y daith n么l adre'."
'Stori anarferol a gwych'
Fe gafodd y byrllysg fendith hefyd gan gaplan y Gwarchodlu Cymreig dafliad carreg o Balas Buckingham.
鈥淢ae鈥檔 stori anarferol tu hwnt, ond mae鈥檔 stori wych, yn dydi?鈥 meddai鈥檙 Raglaw Gyrnol y Parchedig Deiniol Morgan, caplan y Gwarchodlu Cymreig.
鈥淢ae鈥檙 cysylltiadau teuluol gyda gwasanaeth cyhoeddus y teulu Warstki yn yr ardal mor gryf.
鈥淢ae鈥檔 wych medru ail-gysylltu dinas Bangor gyda鈥檙 Gwarchodlu Cymreig a鈥檙 cysylltiad agos sydd gydag ardal Arfon."
Fe gafodd y byrllysg ei gludo鈥檔 ddiogel yn 么l i Fangor brynhawn Mercher a bydd yn cael ei ddefnyddio鈥檔 fuan mewn seremon茂au dinesig.
鈥淢ae鈥檔 dyled ni i deulu Wartski yn fawr iawn,鈥 meddai鈥檙 Cynghorydd Elin Walker Jones, Maer Bangor.
鈥淩y'n ni mor ddiolchgar iddyn nhw am drwsio鈥檙 mace i ni am ddim.鈥
Bydd y byrllysg yn cael ei ddefnyddio nesaf ar gyfer Sul y Maer ganol mis Gorffennaf ac mewn cyfarfodydd ffurfiol, cyfarfodydd llawn o鈥檙 cyngor a digwyddiadau seremon茂ol.
Ar ei newydd wedd, wedi 140 o flynyddoedd o wasanaeth, y gobaith ydy y bydd y gwaith adfer yn sicrhau fod Byrllysg Bangor wedi鈥檌 ddiogelu am genedlaethau i ddod.