Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Bachgen 10 oed wedi crogi'n ddamweiniol - cwest
Roedd bachgen 10 oed o Lyn Ebwy wedi crogi ei hun yn ddamweiniol tra'n chwarae gyda ffrindiau, clywodd cwest.
Roedd Lewi Sullivan o Rasa ger Glyn Ebwy yn chwarae yn y parc ddydd Gwener, 1 Medi pan ddaeth o hyd i raff o amgylch coeden.
Mewn "ffordd chwareus" nodwyd iddo ddweud y byddai'n crogi ei hun.
Cafodd y rhaff ei gosod o amgylch ei wddf ac ar ddamwain fe ddisgynnodd Lewi.
Clywodd y cwest bod ffrindiau wedi ceisio helpu a bod aelod o'r cyhoedd a oedd yn digwydd pasio wedi ei ryddhau o'r goeden.
Wedi i'r parafeddygon gyrraedd aed ag ef i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ond bu farw dridiau'n ddiweddarach ar 4 Medi.
Nodwyd mai anaf i'r ymennydd o isgemia hypocsig a chrogi hypocsig oedd achos ei farwolaeth.
Cafodd y cwest ei ohirio tan 14 Mai 2024.
Wrth roi teyrnged i'w fab yr wythnos ddiwethaf, dywedodd ei dad Nigel Sullivan bod "Lewi yn fab ffantastig, gofalgar a thyner".