Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Beirniadu Hansh S4C am greu 'argraff negyddol' o'r Rhyl
- Awdur, Alun Jones
- Swydd, 91热爆 Cymru Fyw
Mae rhaglen S4C wedi cael ei beirniadu gan Aelod o'r Senedd am ddarlledu "stereoteipiau niweidiol" am dref Y Rhyl.
Cafodd rhaglen ar wasanaeth Hansh, Strip ei darlledu fis diwethaf ac fe'i hyrwyddwyd gan S4C trwy ddweud bod "criw o stripwyr yn anelu at roi Rhyl yn 么l ar y map gyda'u clybiau strip unigryw".
Dywedodd Gareth Davies, AS Dyffryn Clwyd, ei fod yn "siomedig" sut yr oedd y rhaglen yn "portreadu fy etholaeth".
Gwrthododd llefarydd ar ran S4C y cyfle i ymateb.
Roedd rhybudd cynnwys cyn y darllediad bod y rhaglen yn "cynnwys iaith gref a golygfeydd o natur rywiol".
Wrth godi'r mater yn siambr y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Davies bod y rhaglen wedi dechrau "gyda chyfosodiad o vox pops wedi鈥檜 golygu鈥檔 ddetholus, gyda phobl yn defnyddio iaith anweddus i bardduo a chamliwio'r Rhyl".
Ychwanegodd: Nid oes gennyf unrhyw broblem gyda phwnc y bennod; yn wir, mae pob diwydiant yn haeddu cynrychiolaeth.
"Ond dwi'n meddwl ei bod yn siomedig y byddai darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yn dewis portreadu fy etholaeth fel un fl锚r, gan chwarae i mewn i stereoteipiau niweidiol am y dref yr ydym yn gweithio'n galed i'w newid.
"Gwn fod S4C yn gorff cyhoeddus annibynnol, a benodwyd gan Lywodraeth y DU, ond fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus Cymraeg, dylem gael rhywfaint o lais dros ei gynnwys a鈥檌 weithrediad, yn enwedig pan fo鈥檙 cynnwys yn sarhau鈥檙 bobl y mae鈥檔 ceisio eu diddanu neu eu haddysgu."
'Creu trwbwl da'
Gofynnodd Mr Davies i'r Trefnydd Jane Hutt - sy'n rheoli busnes y llywodraeth yn y Senedd - am "amlinelliad o farn Llywodraeth Cymru ar y rhaglen benodol hon ar S4C, ac amlinellu pa sylwadau a wneir i鈥檙 sianel ynghylch ei chynnwys".
Ymatebodd MS Hutt, "fel y dywedasoch, mae S4C yn ddarlledwr cyhoeddus annibynnol.
"Rwy'n meddwl eich bod wedi mynegi eich barn, ac yn 么l pob tebyg eich bod wedi cyfleu eich barn i'r darlledwr cyhoeddus, ac rwy'n meddwl mai dyna'r llwybr priodol i'w gymryd."
Mae sianel Hansh ar , a chanddi 8,000 o danysgrifwyr, yn brolio ei bod yn "rhoi llwyfan i bobl ifanc Cymru drwy gomedi, straeon trawiadol a chreu trwbwl da".