Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y Democratiaid Rhyddfrydol yn addo mwy o bwerau i Gymru
Mae iechyd a gofal cymdeithasol yn ganolog i faniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol, gydag ymrwymiad i recriwtio mwy o feddygon teulu, gwella gwasanaethau canser ac adeiladu rhagor o ysbytai.
Ond polis茂au ar gyfer Lloegr yn unig fydd rhain, gan mai llywodraeth Lafur Cymru sy'n gyfrifol am wasanaeth iechyd Cymru.
Mae鈥檙 blaid yn addo gwario 拢8bn i wireddu eu polis茂au a phetaen nhw mewn sefyllfa i wneud hynny, fe fyddai'n golygu mwy o arian i Lywodraeth Cymru i wario fel maen nhw eisiau.
Mae 'na gryn dipyn yn y maniffesto hefyd o ran cynyddu grymoedd Llywodraeth Cymru.
Yn y gorffennol, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud y bydden nhw'n codi treth incwm o 1c i dalu am y gwariant ychwanegol maen nhw ei eisiau ar y gwasanaeth iechyd, ond maen nhw nawr wedi ymuno 芒'r Ceidwadwyr a'r blaid Lafur i addo na fydden nhw'n codi treth incwm, yswiriant gwladol na TAW.
Yn hytrach, maen nhw'n dweud y byddan nhw'n codi'r arian ychwanegol drwy wyrdroi toriadau鈥檙 Ceidwadwyr i鈥檙 trethi ar fanciau mawr, a drwy ddiwygio treth ar enillion cyfalaf, gan gau'r bylchau sy'n cael eu hecsploitio gan y bobl mwyaf cyfoethog.
Mi fyddai'r ymdrechion i daclo tlodi plant drwy gael gwraed ar y cap ar fudd-daliadau a'r terfyn dau blentyn yn effeithio ar lawer o bobl yng Nghymru hefyd, yn ogystal 芒鈥檙 cynnydd yn y lwfans i ofalwyr di-d芒l.
Dadansoddiad Elliw Gwawr - gohebydd gwleidyddol
Cynnig teg yw ffocws y maniffesto, ac i weithiwyr fe allai hynny olygu newidiadau o ran taliadau salwch neu gynnydd yn yr amser a'r arian mae rhieni yn ei gael ar 么l cael plentyn.
Os 'da chi'n weithiwr ar gytundeb 'dim oriau' am fwy na 12 mis, mae'r blaid am roi'r hawl i chi wneud cais am gytundeb sefydlog.
Mae'r maniffesto hefyd yn cyfeirio at gynyddu grymoedd Llywodraeth Cymru.
Mae'r arweinydd, Ed Davey, yn dweud y bydden nhw'n datganoli pwerau'r heddlu i Gymru, rhoi mwy o bwerau benthyg i Lywodraeth Cymru, ac yn datganoli'r grym dros ddarlledu.
Ac fel sydd eisoes yn digwydd yn etholiadau'r Senedd, mae nhw eisiau rhoi'r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed ar gyfer etholiadau San Steffan.
Er bod gan y Democratiaid Rhyddfrydol nod hir dymor o ail ymuno 芒'r Undeb Ewropeaidd, nid dyna sydd yn y maniffesto.
Yn hytrach, mae'n son am berthynas llawer agosach, sy'n cael gwared 芒 gymaint o rwystrau 芒 phosib ar gyfer masnach.