Perfformiad panto ymlaciedig yn 'dathlu pob math o berson'

Ffynhonnell y llun, 91热爆

Disgrifiad o'r llun, Mae Elin Phillips , sydd yn chwarae rhan Gretel yn y panto, yn nodi fod y perfformiadau yma yn ffordd i bawb fwynhau
  • Awdur, Anest Eirug
  • Swydd, 91热爆 Cymru

Bydd cynulleidfaoedd theatr yn cael eu hannog i sgwrsio a symud fel y mynnent gan gwmni sydd eisiau cynnal perfformiadau sy'n agored i bawb.

Mae Theatr y Sherman yng Nghaerdydd yn cynnal perfformiadau hygyrch o鈥檌 chynhyrchiad Hansel a Gretel.

Yn y perfformiadau yma, mae鈥檙 gynulleidfa yn gallu mynd a dod fel maen nhw eisiau a sgwrsio fel maen nhw eisiau hefyd, a hynny er mwyn gwneud yn si诺r fod pawb yn teimlo鈥檔 ddigon cyfforddus i allu mwynhau鈥檙 sioe.

O鈥檙 tywyllwch arferol sydd mewn theatrau, i鈥檙 awyrgylch swnllyd, anghyfarwydd, gall fynd i鈥檙 theatr fod yn brofiad heriol i blant sydd ag awtistiaeth.

Cefnogaeth ychwanegol i'r gynulleidfa

Ond mae鈥檙 sioe yma, yn 么l Elin Phillips sy鈥檔 chwarae rhan Gretel, yn rhoi cyfle i bawb fwynhau.

Dywedodd: 鈥淵n ogystal 芒 chael adran i fynd mas a chael hoe, chill out zone fel ma' nhw鈥檔 dweud yn Saesneg, os ewch chi i鈥檙 swyddfa docynnau ma' 'na amddiffynwyr clustiau a theganau sensori.鈥

Mae James Ifan yn chwarae rhan Hansel, mae鈥檔 dweud 鈥渋 ni fel actorion, ni just yn gwybod bydd ymateb y gynulleidfa yn hollol wahanol鈥.

鈥淏ydd 鈥榥a lot mwy o siarad, bydd 鈥榥a lot mwy o sgwrsio falle, symud o gwmpas eitha鈥 lot a ni鈥檔 delio gyda hwnna ar y pryd.鈥

Ychwanegodd bod y perfformiadau ymlaciedig yma yn gyfle i鈥檙 鈥済ynulleidfa sydd ddim fel arfer yn dod i鈥檙 theatr achos bod e'n rhy dywyll neu rhy swnllyd - fwynhau fel pawb arall鈥.

Ffynhonnell y llun, 91热爆

Disgrifiad o'r llun, Dywed James Ifan, actor y cymeriad Hansel, bod y panto yn ceisio cyflwyno cynulleidfa newydd i'r byd theatr

Yn 么l Theatr y Sherman, mae eu perfformiadau ymlaciedig yn rhan bwysig o鈥檙 gwaith o geisio gwneud y theatr yn hygyrch i bawb.

Ond faint o alw sydd am berfformiadau o鈥檙 fath?

Yn 么l Lowri Morgan, Cydymaith Llenyddol y Theatr, mae鈥檙 sioeau yn 鈥済werthu allan rhan amlaf鈥.

鈥淧an 鈥榥ath ni ddechrau, oedda鈥 ni ddim yn si诺r faint o bobl fysa鈥檔 licio dod, ond ma鈥檔 amlwg i ni bod y galw yna a bod y bobl sydd yn dod yn cael gymaint allan ohona fo, felly mae o just yn hollol bwysig bod y math yma o hygyrchedd yn cario 鈥榤laen.鈥

Disgrifiad o'r llun, Dywed Lowri Morgan bod galw am berfformiadau o'r fath

Mae estyn croeso cynnes i bob plentyn yn rhan allweddol o鈥檙 perfformiadau, a鈥檙 actores Mari Fflur, sydd hefyd yn actio yn y sioe, yn dweud 鈥渋 fi dyna be' ma' theatr fod 'neud鈥.

鈥淢a' fod croesawu鈥檙 gymuned i fewn a dathlu pob math o berson a 'neud yn si诺r fod pawb yn gallu dod i fewn i鈥檙 theatr a theimlo鈥檔 rhan o rywbeth.鈥