Calan Gaeaf: Pwmpenni oren yn troi鈥檔 las am awtistiaeth

Disgrifiad o'r fideo, Dywedodd ei fam fod Noa "wrth ei fodd" gyda Chalan Gaeaf, a bu'n egluro'r syniad tu 么l i'r bwcedi glas
  • Awdur, Ffion Lloyd-Williams
  • Swydd, 91热爆 Cymru

Bydd bachgen chwech oed yn defnyddio bwced las wrth fynd o d欧 i d欧 y Calan Gaeaf hwn er mwyn codi ymwybyddiaeth bod ganddo awtistiaeth.

Nos Fawrth bydd miloedd o blant a theuluoedd yn cnocio drysau ar noson Calan Gaeaf, ond mae'n gallu bod yn gyfnod heriol i blant niwro-amrywiol.

Mae Noa o Bwllheli yn awtistig ac yn ddilafar, ac yn 么l ei fam Sophie Underwood-Jones mae rhai pobl yn credu ei fod yn 鈥渄digywilydd".

鈥淒ydi pethau ddim 'di bod yn rhy gr锚t, i fod yn onest," meddai.

鈥淢ae yna adegau 鈥榙i bod lle 'dan ni 鈥榙i mynd efo ffrindiau bach Noa a ma' nhw鈥檔 gweiddi 'trick or treat' yn y drysau ac yn cael eu fferins.

"Ond ar rhai adegau am fod Noa yn ddilafar - 'di o methu d'eud dim, na diolch."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Mae Noa o Bwllheli yn awtistig ac yn ddilafar, ac "wrth ei fodd" gyda Chalan Gaeaf

Dywedodd Sophie fod hyn wedi arwain at sefyllfaoedd anghyfforddus yn y gorffennol, a bod pobl ddim yn deall.

鈥淢i fydda i yn siarad drosto fo ac yn dweud diolch ac yn arwyddo 'chydig efo fo," meddai.

"Ond dwi 'di cael profiadau lle mae pobl yn d'eud sylwadau bach reit annifyr, sy鈥檔 drist i fi fel ei fam.

鈥淢ae鈥檔 anodd derbyn weithiau a dwi鈥檔 cael - 'o naeth y bachgen yna ddim deud diolch 'wan' neu 'wyt ti am ddeud wbath r诺an i chdi gael fferins?鈥

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Mae rhai pobl yn credu mai "digywilydd" ydy Noa (ail o'r chwith), medd ei fam Sophie

鈥淢ae hynna鈥檔 anodd. Dwi鈥檓 yn licio gorfod egluro bod o鈥檔 awtistig a bod o鈥檔 ddi-lafar.

"'Dan ni鈥檔 byw yn y flwyddyn 2023 a dwi鈥檔 meddwl fod o mor bwysig bod pobl ddim yn barnu a bod ni jest yn derbyn fod y plentyn yna - ella bod ganddo iaith - ond 'di o'm isio siarad."

Yn 么l elusen y mae un o bob 100 o blant gydag awtistiaeth, ac mae Calan Gaeaf yn gallu bod yn anodd i rai sy鈥檔 sensitif i newid yn nhrefn eu diwrnod, s诺n a golau.

Disgrifiad o'r llun, Mae bwcedi glas yn cael eu defnyddio yn rheolaidd yn yr UDA fel arwydd bod gan blentyn awtistiaeth

Tips y gymdeithas am Galan Gaeaf cyfeillgar i blant ag awtistiaeth

  • Cr毛wch eich hwyl eich hun adref - does dim rhaid mynd allan;
  • Dewiswch wisg sy'n gyfforddus, neu sy'n golygu rhywbeth i'r plentyn;
  • Gallwch drefnu o flaen llaw eich bod yn mynd i lond llaw o gartrefi penodol.
Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Sophie bod rhai pobl ddim yn deall y ffaith fod Noa yn ddilafar

鈥淢ae Noa wrth ei fodd yn cael mynd i bartis felly mae鈥檔 braf cael addurno鈥檙 t欧,鈥 meddai Sophie.

鈥淔o ydi鈥檙 cyntaf i sylweddoli bod yna wbath yn wahanol yn yr ystafelloedd fel goleuadau gwahanol, a mae o wrth ei fodd efo pethau sensory.

"Dwi 'di g'neud ers o'dd o鈥檔 fabi - dwi 'di bod yn mynd 芒 fo o gwmpas yn trick or treatio a mynd 芒 fo i bart茂on lleol."

'Dim stigma'

Draw yn yr Unol Daleithiau, mae bwcedi glas yn cael eu defnyddio yn rheolaidd fel arwydd bod gan blentyn awtistiaeth, ac mae Sophie yn gobeithio y byddan nhw yr un mor boblogaidd yma yn y dyfodol.

鈥淎r Facebook weles i nhw 'chydig fisoedd yn 么l - gweld bod Walmart yn America yn gwerthu bwcedi glas," meddai.

鈥淒yma fi鈥檔 darllen mwy iddo fo a phenderfynu 'reit dwi鈥檔 mynd i brynu rhain a rhannu fel bod pobl yn ymwybodol ohonyn nhw'.

鈥淒wi isio pobl siarad a s么n am y bwcedi glas fel bod y plant bach ma鈥檔 cael eu derbyn, fel bod yna ddim stigma lle ma' pobl yn deud sylwadau bach, sy鈥檔 gallu bod yn anodd iawn i ni fel teulu ei dderbyn.

鈥淚 mi fel mam, dwi isio fy mhlentyn gael gweld y byd a chael bob profiad posib, a鈥檌 fod yn hapus ac yn saff."

Disgrifiad o'r llun, Bydd Noa yn defnyddio'i fwced las wrth fynd o d欧 i d欧 y Calan Gaeaf hwn

Ychydig fisoedd yn 么l fe wnaeth y teulu ddechrau tudalen Instagram i godi ymwybyddiaeth a rhannu profiadau Noa, fel gwers nofio synhwyraidd yn y ganolfan hamdden leol, ymweliad gyda鈥檙 deintydd a鈥檌 daith gyntaf ar awyren.

鈥淢ae鈥檙 ymateb i鈥檙 dudalen wedi bod yn ffantastig,鈥 meddai Sophie.

鈥淒wi 'di cael gymaint o bobl yn dilyn a gyrru negeseuon i mi.

"Mae鈥檔 braf cael cwrdd 芒 rhieni sy鈥檔 mynd drwy union 'r un peth achos pen yma 'dan ni鈥檔 eitha鈥 lwcus - mae pethau yn dechrau gwella i鈥檔 plant bach ni.

"Mae yna gymaint mwy ar gael yma, ond mae isio mwy hefyd.

鈥淧an 'dach chi鈥檔 s么n am ochr arall y byd, fel America - maen nhw flynyddoedd ar y blaen i ni."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Bethan Morris-Jones o Ysgol Pendalar fod y bwcedi glas yn syniad gr锚t

Un ysgol anghenion arbennig sy鈥檔 croesawu鈥檙 bwcedi glas ydi Ysgol Pendalar yng Nghaernarfon.

Yn 么l y pennaeth Bethan Morris-Jones: 鈥淢ae鈥檙 disgyblion wrth eu boddau, jest efo鈥檙 hwyl.

"Ma' bob dosbarth 'di bod wrthi鈥檔 brysur yn addurno a rydan ni wedi cael bingo a disgo Calan Gaeaf.

鈥淢ae鈥檙 bwcedi yn gr锚t, achos i unrhyw deulu sydd efo disgybl efo anghenion dysgu ychwanegol ma鈥檔 anodd weithiau mynd allan at y cyhoedd a gneud petha' cyhoeddus.

"Felly mae鈥檙 rhain yn arwydd heb orfod d'eud dim byd 'mae gan fy mhlentyn awtistiaeth', a wnewch chi ddeall, os ydyn nhw ddim yn d'eud diolch, dydyn nhw ddim yn golygu hynny.鈥