Dynodi rhan o Afon Gwy yn ddŵr ymdrochi wedi ymgyrch

Disgrifiad o'r llun, Mae Afon Gwy wedi'i gwarchod oherwydd ei phwysigrwydd i ystod eang o rywogaethau prin o fywyd gwyllt a phlanhigion
  • Awdur, Steffan Messenger
  • Swydd, Gohebydd amgylchedd 91Èȱ¬ Cymru

Mae rhan o Afon Gwy sy'n boblogaidd â nofwyr gwyllt wedi derbyn statws dŵr ymdrochi swyddogol ar ôl i Lywodraeth Cymru ailystyried eu penderfyniad gwreiddiol.

Dywedodd ymgyrchwyr eu bod "wrth eu bodd" â'r newyddion, fydd yn arwain at fonitro gorfodol o ansawdd y dŵr ar safle'r Warin ger Y Gelli.

Fe wrthodwyd eu cais i ddechrau, yn dilyn pryderon y byddai'r statws newydd yn denu mwy o ymwelwyr ac y gallai hynny achosi difrod amgylcheddol.

Ond mae Llywodraeth Cymru bellach wedi penderfynu bod y safle'n cyrraedd y gofynion am ei fod yn cael ei ddefnyddio eisoes gan nifer fawr o nofwyr.

Dywedodd yr ysgrifennydd newid hinsawdd Huw Irranca-Davies ei fod yn ymbil ar y cyhoedd "i helpu sicrhau bod cynefinoedd a nodweddion y safle o ddiddordeb gwyddonol eithriadol parhau'n iach ac yn cael eu rheoli'n briodol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".

'Yr unig arf sydd gyda ni'

Dyma fydd y tro cynta' i ran o afon yng Nghymru gael ei dynodi'n ddŵr ymdrochi.

Mae'n golygu bod yn rhaid i'r corff sy'n rheoleiddio'r amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), brofi ansawdd y dŵr yn gyson yn ystod y tymor ymdrochi - sef rhwng mis Mai a diwedd Medi - a gweithredu i ddelio ag unrhyw broblemau.

Byddai'r cyngor lleol hefyd yn gorfod arddangos gwybodaeth yn gadael i nofwyr wybod am gyflwr yr afon ac unrhyw achosion o lygredd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r penderfyniad yn gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru i brofi ansawdd y dŵr yn gyson rhwng misoedd Mai a Medi bob blwyddyn

Dywedodd yr awdur a'r newyddiadurwr Oliver Bullough, sy'n rhan o grŵp Cyfeillion Afon Gwy, nad eu bwriad oedd "annog mwy o bobl i ddod yno i nofio".

"Mae lot o bobl yn nofio yno yn barod," eglurodd.

"Ond mae Afon Gwy wedi gweld dirywiad difrifol o ran ansawdd dŵr o ganlyniad i lygredd, yn enwedig o amaethyddiaeth ond hefyd o garthffosiaeth yn ystod y degawdau diwethaf.

"Mae llywodraethau ar bob ochr y ffin wedi methu yn eu dyletswydd i warchod yr afon, a drwy geisio am statws ymdrochi gallwn ni eu gorfodi nhw i brofi'r dŵr a chymryd camau i'w wella os yw'n ddiffygiol.

"Dyma'r unig arf sydd gyda ni - felly dwi wrth fy modd ein bod ni wedi llwyddo perswadio'r llywodraeth yng Nghaerdydd i newid eu meddwl.

"Maen nhw bellach wedi gwneud y penderfyniad cywir."

Ychwanegodd Mr Bullough y byddai'n hoffi petai dyma fyddai'r safle "cynta' o nifer" yng Nghymru.

"Dwi'n gobeithio y gwelwn ni hyn fel cam cynta' ar daith hir i lanhau ein hafonydd."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Oliver Bullough o Gyfeillion Afon Gwy ei fod yn adnabod rhieni sy'n poeni am adael eu plant i nofio yn yr afon oherwydd llygredd

Roedd gwirfoddolwyr o grŵp Cyfeillion Afon Gwy wedi ymweld â'r Warin yn gyson yn ystod haf 2022 i nodi faint o bobl oedd yn defnyddio'r afon.

Roedd eu data'n cynnwys un diwrnod ym mis Gorffennaf lle'r oedd yna 150 o bobl ar y traeth, 32 yn nofio, wyth o bobl yn canŵio a chwech yn padlfyrddio.

Ond cafodd eu cais am statws dŵr ymdrochi ei wrthod yn wreiddiol, gyda Llywodraeth Cymru yn nodi gwrthwynebiad gan CNC, Cyngor Tref Y Gelli a'r Hay Warren Trust ynglŷn ag effaith bosib mwy o ymwelwyr ar yr amgylchedd a bywyd gwyllt yn lleol.

Dadl yr ymgyrchwyr oedd bod hyn yn golygu sefyllfa "catch-22, absẃrd", lle'r oedd yn rhaid iddyn nhw brofi bod pobl yn defnyddio'r afon i dderbyn ymrwymiad i fonitro a gwella ansawdd y dŵr, tra'n cael eu rhybuddio hefyd y gallai defnyddio'r afon beryglu'r amgylchedd.

'Bodloni'r unig faen prawf'

Dywedodd yr ysgrifennydd newid hinsawdd Huw Irranca-Davies mai ei fwriad "gyda'r penderfyniad gwreiddiol oedd helpu i sicrhau bod afon sydd eisoes yn wynebu cymaint o heriau yn cael ei diogelu".

"Er fy mod yn siomedig bod fy mhenderfyniad wedi cael ei herio a bod Cyfeillion Afon Gwy wedi gofyn imi ailystyried, ni fydd y canlyniad hwn yn fy rhwystro rhag cyflawni fy ymrwymiad i ddiogelu a gwella amgylchedd naturiol Cymru," meddai.

Nid yw'r penderfyniad yn dileu'r gofyniad i’r tirfeddiannwr gael cydsyniad CNC i ganiatáu ymdrochi yn y Warin, pwysleisiodd Mr Irranca-Davies.

"Wrth ystyried unrhyw gais am gydsyniad, byddai angen i CNC asesu'r effaith bosibl i sicrhau nad yw'n niweidio'r cynefinoedd a'r rhywogaethau pwysig y mae'r ardal wedi'u dynodi i'w gwarchod."

Er gwaethaf "pryderon a gwrthwynebiadau sylweddol" a godwyd, roedd y cais "yn bodloni'r unig faen prawf i'w ddynodi o dan y rheoliadau, sef bod tystiolaeth o nifer yr ymdrochwyr," esboniodd.

"O ganlyniad, rwyf wedi penderfynu dynodi'r Warin yn ddŵr ymdrochi."