Elusen Pwll Nofio Aberteifi 'ar ei gliniau yn ariannol'

Ffynhonnell y llun, 91热爆 Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Pwll Nofio Aberteifi wedi gorfod cau sawl gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf
  • Awdur, Aled Scourfield
  • Swydd, Gohebydd 91热爆 Cymru

Mae elusen sy'n rhedeg pwll nofio yn y gorllewin "ar ei gliniau yn ariannol", yn 么l ei chadeirydd.

Mae Pwll Nofio Aberteifi wedi gorfod cau sawl gwaith yn ystod y 12 mis diwethaf, yn sgil problemau gydag offer yn yr adeilad.

Yn ystod y cyfarfod blynyddol brynhawn Llun, cadarnhaodd Matt Newland ei fod yn bwriadu ildio'r awenau fel cadeirydd yr ymddiriedolwyr yn ystod y misoedd nesaf.

Clywodd y cyfarfod bod yna ddiffyg o 拢8,307 yn y coffrau, am fod y pwll wedi colli incwm, a bod yna gostau sylweddol ynghlwm wrth atgyweirio offer ac adeiladau.

Mae'r pwll wedi derbyn grant o 拢230,000 gan Chwaraeon Cymru ar gyfer offer gwresogi newydd, ac mae'r gwaith hwnnw yn mynd yn ei flaen tra bod y pwll ar gau.

Ymddiriedolwyr 'wedi gwneud eu gorau'

Ffynhonnell y llun, 91热爆 Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae Cadeirydd Ymddiriedolwyr Pwll Nofio Aberteifi, Matt Newland wedi cadarnhau y bydd yn camu lawr o'i r么l yn y misoedd nesaf

Mae'r cyfleusterau ar y safle yn Feidr Fair yn dyddio'n 么l i 1977.

Dywedodd Matt Newland wrth 91热爆 Cymru bod y pwll wedi gorfod cau "rhyw hanner dwsin o weithiau yn ystod y 12 mis diwethaf".

"Mae offer wedi methu ac mae hynny wedi costio llawer i鈥檞 atgyweirio, ond mae yna golled wedi bod o ran incwm, wrth orfod cau," meddai.

"Ni ar ein gliniau yn ariannol. Mi fyddwn yn gorfod hawlio rhai o鈥檙 costau hynny 'n么l."

Clywodd y cyfarfod bod hi'n fwriad i drosglwyddo'r gwaith o redeg y pwll i gwmni cyfyngedig, gyda statws elusennol.

Roedd tua 40 o bobl yn y cyfarfod, gyda rhai yn feirniadol o'r ffordd y mae'r pwll yn cael ei redeg.

Dywedodd Mr Newland bod yr ymddiriedolwyr "wedi gwneud eu gorau" ond bod prinder staff yn y ganolfan yn broblem barhaol.

Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Mr Newland mai鈥檙 ateb, yn y pen draw, oedd sicrhau bod canolfan llesiant i鈥檙 dref yn cael ei hadeiladu ar safle'r pwll presennol, gydag ymrwymiad gan y cyngor sir i ddarparu pwll newydd sbon.

Cyngor yn 'ff么l iawn' i gau'r pwll

Ffynhonnell y llun, 91热爆 Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mewn cyfarfod, roedd nifer yn feirniadol o'r ffordd mae'r pwll yn cael ei redeg

"Os ydyn nhw'n gwario'r holl arian ar ganolfan newydd, ac mae'r pwll yn cau oherwydd diffyg buddsoddiad, yna mae hynny yn ganlyniad gwael i bobl Aberteifi a'u lles.

"Mae鈥檙 lle yma yn lleoliad allweddol i nifer fawr o bobl.

"Mi fyddai鈥檙 cyngor yn edrych yn ff么l iawn os ydy'r pwll yn cau, oherwydd diffyg buddsoddiad, ond mae arian yn cael ei wario ar safle arall yn y dref i greu canolfan llesiant.

"Rwy鈥檔 galw ar y cyngor i sicrhau bod pwll newydd yn rhan o'u cynllun."

Dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod yn "ymwybodol o'r sefyllfa ariannol anodd" i'r pwll, a gwerth a phwysigrwydd y cyfleuster i Aberteifi a'r ardal.

Dywedodd llefarydd bod y cyngor yn "gweithio'n agos" gyda'r ymddiriedolaeth "i archwilio opsiynau i ddatblygu ail Ganolfan Les y Sir yn y dref".

"Byddai darparu unrhyw opsiwn a gymeradwyir yn amodol ar sicrhau'r cyllid perthnasol."