Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Chwaraewr y Gweilch yn ddieuog o ddwyn pedair oriawr ddrud
Mae chwaraewr rygbi o Gymru, a thri dyn arall, wedi eu cael yn ddieuog o gyhuddiadau o ladrata o eiddo yn Sir G芒r.
Roedd Luke Davies - mewnwr 22 oed y Gweilch - Adam Thomas, Jake Ball a Jordan Ball wedi gwadu dwyn pedair oriawr gwerth 拢1,800 o eiddo yn Llanelli ar noswyl Nadolig 2021.
Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau dywedodd Ieuan Rees, ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron, fod y mater wedi cael ei adolygu ac na fyddai unrhyw dystiolaeth ffurfiol yn cael ei gynnig yn erbyn y diffynyddion.
Dywedodd wrth y llys fod "yr achwynydd ddim wedi bod yn ymwneud 芒'r gwasanaethau erlyn".
"Mae ef ei hun yn destun ymchwiliad ar gyhuddiadau o dwyll," meddai.
Ychwanegodd Mr Rees y byddai gan "yr achwynydd ddim hygrededd" ac felly y byddai "dim gobaith o lwyddiant" yn yr achos yn erbyn y diffynyddion.
Fe wnaeth y Barnwr Geraint Walters gyhoeddi rheithfarnau dieuog felly yn achosion y pedwar dyn.