Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwraig dyn gafodd ei ladd gan eu mab yn galw am ymchwiliad
Mae gwraig dyn a gafodd ei ladd gan eu mab, oedd wedi dianc o ysbyty iechyd meddwl, yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i'r hyn ddigwyddodd.
Roedd Daniel Harrison, 37, wedi ymosod ar ei dad, Dr Kim Harrison, yng nghartref y teulu yng Nghlydach, Abertawe, ym mis Mawrth 2022.
Clywodd cwest i farwolaeth Dr Harrison bod methiannau difrifol gan awdurdodau wedi cyfrannu at farwolaeth y meddyg.
Mae Bwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi "ymddiheuro yn ddiamod am ein methiannau yn yr achos yma".
Cafodd Daniel Harrison, 37, ei gadw'n gaeth am gyfnod amhenodol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl am ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.
Dywedodd mam Daniel, Dr Jane Harrison, fod y cwest wedi 鈥渄atgelu methiannau niferus鈥 yng ngofal ei mab.
"Mae ein teulu ni wedi diodde'n fawr yn sgil yr hyn ddigwyddodd dan oruchwyliaeth rheolwyr a gweithwyr proffesiynol," meddai.
"Rydyn ni'n galw am ymchwiliad annibynnol i wasanaethau iechyd meddwl ym Mae Abertawe.
"Yr unig ffordd mae modd delio 芒'r materion diwylliannol a'r methiannau proffesiynol a systemig yma yw cael rhywun allanol i gynnal ymchwiliad."
Dywedodd crwner cynorthwyol y de-orllewin, Kirsten Heaven, yn y cwest fis Ebrill fod swyddogion Bwrdd Iechyd Bae Abertawe a Chyngor Abertawe wedi mabwysiadu "meddylfryd cadarn" ac agwedd "amddiffynnol" pan roedd teulu Harrison wedi gofyn am gymorth gyda chyflwr iechyd meddwl eu mab, oedd yn dirywio.
Clywodd y cwest am "gyfleoedd a gafodd eu colli" i helpu Daniel Harrison ar 么l iddo roi'r gorau i gymryd meddyginiaeth gwrthseicotig tua 2019, a gwrthod trafod gyda gwasanaethau iechyd.
Yn 么l y crwner, roedd asesiad iechyd meddwl yng ngorsaf Heddlu Abertawe ym mis Ebrill 2021, a ddaeth i'r casgliad nad oedd modd ei gadw o dan y ddeddf iechyd meddwl, yn "ddiffygiol ofnadwy" oherwydd na chafodd gwybodaeth ychwanegol am feddyliau paranoid a chynyddol ymosodol Daniel Harrison am ei rieni eu harchwilio.
Dywedodd bod y seiciatrydd dan sylw, yr Athro Peter Donnelly yn "rhy barod i dderbyn bod Daniel yn rhoi atebion rhesymol yn hytrach na chamargraffiadau paranoid".
Dywedodd y crwner hefyd fod yr Athro Donnelly wedi ymddwyn mewn modd "hynod ddi-hid" wrth ganiat谩u Daniel Harrison yn 么l i'r gymuned, ar 么l dweud wrth y cwest ei fod yn poeni am ei ddiogelwch ei hun wrth ystyried y risg o wneud ymweliad cartref.
Daeth y crwner i'r casgliad bod methiant Bwrdd Iechyd Bae Abertawe i "ymrwymo鈥檔 bendant" 芒 Daniel Harrison yn y gymuned wedi caniat谩u iddo syrthio鈥檔 么l i mewn i ymddygiad seicotig wnaeth "o bosibl gyfrannu" at farwolaeth ei dad.
'Ymddiheuro yn ddiamod'
Dywedodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe mewn datganiad: "Mae'r achos yma yn ddirdynnol ac yn gwbl drasig, ac ry'n ni'n cydnabod yr effaith ofnadwy ar deulu a ffrindiau Dr Harrison yn llawn.
"Ry'n ni'n ymddiheuro yn ddiamod am ein methiannau yn yr achos yma, ac yn benderfynol o ddysgu a gwneud popeth o fewn ein gallu i osgoi achos tebyg yn y dyfodol.
"Ry'n ni'n cydnabod bod gwybodaeth sy'n cael ei roi gan aelodau o'r teulu am gleifion yn hanfodol wrth gynllunio a darparu gofal, ac ry'n ni bellach wedi cryfhau ein prosesau i sicrhau bod yr wybodaeth bwysig yma yn cael ei gofnodi a'i rannu gyda thimau clinigol.
"Yn ogystal, mae mesurau diogelwch yn cael eu cryfhau yn Ward F Ysbyty Castell-nedd Port Talbot fydd yn golygu bod ardaloedd ychwanegol o amgylch allanfeydd y bydd modd eu cloi.
"Fe fyddan ni nawr yn ystyried canfyddiadau'r crwner yn llawn, ac yn cyflwyno unrhyw fesurau ychwanegol sydd eu hangen."