Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Meddygon wedi 'anwybyddu'r amlwg' cyn marwolaeth menyw
- Awdur, Sion Tootill
- Swydd, 91热爆 Cymru
Mae teulu cyn-athrawes wedi dweud bod meddygon wedi methu sawl cyfle i ddod o hyd i achos haint cyn iddi farw.
Clywodd cwest bod Nesta Jones, 77, wedi ei derbyn i Ysbyty Gwynedd ym Mangor ddiwedd mis Mawrth 2017.
Roedd hynny ar gyngor ei meddyg teulu, oedd o'r farn ei bod hi鈥檔 dioddef o arthritis septig yn ei phen-glin.
Dywedodd merch Mrs Jones wrth y cwest yng Nghaernarfon ei bod wedi codi pryderon sawl tro am ben-glin "coch a chwyddedig" ei mam.
Bu farw Mrs Jones yn Ysbyty Gwynedd ar 8 Mai, 2017.
Pen-glin yn 'goch a chwyddedig'
Cafodd Mrs Jones, o'r Fali ar Ynys M么n, lawdriniaeth yn 2015 i gael pen-glin newydd ar y goes chwith, oherwydd arthritis.
Ym Mawrth 2017, cafodd ei derbyn i'r ysbyty yn dilyn pryderon ei meddyg teulu dros arthritis septig.
Ond dywedodd merch Mrs Jones, Siwsan Jones, nad oedd meddygon wedi gallu dod o hyd i ffynhonnell yr haint yn ei chorff.
Dywedodd Siwsan Jones ei bod hi wedi ceisio tynnu sylw鈥檙 meddygon at ben-glin "coch a chwyddedig" ei mam sawl gwaith yn ystod yr wythnosau roedd ei mam yn yr ysbyty.
Disgrifiodd Siwsan Jones y problemau gyda phen-glin ei mam fel yr "eliffant yn yr ystafell".
Fodd bynnag, dywedodd Siwsan Jones bod ei mam yn destun sawl ymchwiliad a phrawf, oedd yn aml yn golygu nad oedd yn gallu bwyta nac yfed.
"Roedd yn teimlo fel rhyw fath o scattergun approach - roedd ymchwiliadau newydd yn cael eu hailadrodd heb reswm", meddai.
Dywedodd fod posteri yn ward ei mam yn disgrifio symptomau haint sepsis.
"Ro鈥檔 i鈥檔 teimlo'n fwyfwy rhwystredig dros amser", meddai.
"Tynnais sylw at y posteri a dweud 'Pam ydych chi鈥檔 anwybyddu'r amlwg?'"
Ychwanegodd: 鈥淥s yw鈥檔 siarad fel hwyaden, ac os yw鈥檔 cerdded fel hwyaden, hwyaden ydyw.鈥
Cafodd pryderon y teulu eu codi gyda鈥檙 timau clinigol sawl gwaith, gan gynnwys mewn llythyr at d卯m cwynion Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Ond ni chafodd ymchwiliad corfforol ei gynnal ar ben-glin Nesta Jones i ddarganfod os oedd haint yno trwy ddraenio hylif ei wneud tan ddechrau mis Mai.
Dywedodd ei merch fod y prawf wedi datgelu bod crawn [pus] ym mhen-glin ei mam.
Parhau i ddirywio wnaeth cyflwr Nesta Jones, a datblygodd niwmonia, gan farw ar 8 Mai, 2017.
Dywedodd ei merch fod tystysgrif y farwolaeth yn nodi bod ei mam wedi marw o ganlyniad i gymhlethdodau henaint.
鈥淩o鈥檔 i鈥檔 teimlo鈥檔 anhapus iawn am hynny, gan nad oeddwn i鈥檔 meddwl bod hynny鈥檔 rhoi鈥檙 stori lawn am yr hyn a ddigwyddodd i fy mam鈥, meddai.
Mae'r cwest yn parhau ac mae disgwyl iddo bara pythefnos.