Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dirwy o £6,000 i ffermwr am dorri rheolau cadw gwartheg
Mae ffermwr o Geredigion wedi cael dirwy am gyfres o droseddau yn ymwneud â chadw a symud gwartheg.
Bydd yn rhaid i Gary Davies o fferm Bercoed Uchaf ym Mangor Teifi ger Llandysul dalu dros £6,000 mewn dirwyon a chostau wedi iddo bleidio'n euog i wyth o gyhuddiadau yn Llys Ynadon Aberystwyth.
Clywodd yr achos bod Davies wedi methu'n gyson â rhoi gwybod am farwolaethau a symudiadau gwartheg ers 2021, na dilyn y mesurau gofynnol i atal clefydau rhag lledu ymysg gwartheg.
Fe gyfaddefodd hefyd ei fod wedi symud 99 o wartheg ar ac oddi ar ei fferm er gwaethaf cyfyngiadau rhag y diciâu.
'Dim dewis ond dwyn achos'
Fe gafodd yr achos ei ddwyn gan adran Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion.
Roedd swyddogion, medd llefarydd, wedi ymweld â Davies ac ysgrifennu ato "sawl gwaith ers 2020 yn nodi achosion o dorri deddfwriaeth a rhoi cyngor ar y gofynion cyfreithiol".
Dywedodd llefarydd bod hi'n "siomedig" na gymerodd Davies sylw o'r cyngor a gafodd gan y swyddogion, oedd yn "golygu nad oedd gan yr Awdurdod lawer o ddewis ond dod â'r achos hwn i'r llys".
Mae'r cyngor yn pwysleisio bod "cynnal a chadw symudiadau anifeiliaid yn gywir yn hanfodol i reoli clefydau anifeiliaid, ac uniondeb y gadwyn fwyd".
Fe gafodd Davies ddirwyon o £2,200 am dorri rheoliadau adnabod gwartheg, gorchmynion rheoli clefydau, a gorchmynion TB.
Mae hefyd yn gorfod talu cost ychwanegol o £880, ynghyd â £3011.59 i'r cyngor sir am gostau dod â'r mater i'r llys, gan wneud cyfanswm yn £6091.59.