Pleidlais o ddiffyg hyder yn Gething ar 5 Mehefin

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Vaughan Gething o dan bwysau yn sgil rhoddion dadleuol i'w ymgyrch i arwain Llafur Cymru a'i benderfyniad i ddiswyddo Hannah Blythyn o'i gabinet
  • Awdur, Cemlyn Davies
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 91热爆 Cymru

Fe fydd Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething, yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd ddydd Mercher nesaf, 5 Mehefin.

Cafodd y cynnig ei roi ger bron gan y Ceidwadwyr yn y Senedd yn dilyn wythnosau o ddadlau am arian o roddwyd i'w ymgyrch ddiweddar i fod yn arweinydd ei blaid.

Bu cwestiynau hefyd am negeseuon testun o gyfnod Covid, a diswyddo gweinidog yn ei gabinet yn sgil honiadau iddi hi ollwng gwybodaeth i'r cyfryngau - rhywbeth y mae'n ei wadu.

Mae Mr Gething yn dweud "nad yw'n disgwyl" colli pleidlais o ddiffyg hyder, a'i fod yn teimlo'n obeithiol am ddyfodol ei blaid a'i gyfnod fel arweinydd.

Ychwanegodd ei fod yn canolbwyntio ar ymgyrchu cyn yr etholiad cyffredinol ac yn "bwrw 'mlaen a'i waith fel Prif Weinidog".

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Mae'r rhestr o gwestiynau heb eu hateb wedi parlysu Llywodraeth Cymru i'r graddau fod Gething wedi methu'n llwyr i fynd i'r afael gyda rhestrau aros hiraf y GIG, safonau addysg sy'n llithro a segurdod economaidd uchel.

"Mae'n bryd dod 芒'r brwydro mewnol a'r cymylu i ben a chynnal pleidlais o ddim hyder yn Vaughan Gething."

Mae Plaid Cymru wedi cael cais am ymateb.

Mae Mr Gething wedi bod o dan bwysau mawr, gan gynnwys gan rai o fewn ei blaid, yn dilyn ei benderfyniad i dderbyn rhoddion gwerth 拢200,000 i鈥檞 ymgyrch arweinyddiaeth ddiweddar gan gwmni sy鈥檔 eiddo i 诺r sydd wedi eu erlyn ddwywaith am droseddau amgylcheddol.

Mae gan Lafur 30 o鈥檙 60 sedd yn y Senedd, felly i鈥檙 cynnig o ddiffyg hyder lwyddo byddai angen i o leiaf un AS Llafur bleidleisio o blaid neu ymatal.

Ffynhonnell y llun, Comisiwn y Senedd

Disgrifiad o'r llun, Daeth Vaughan Gething yn arweinydd Llafur Cymru ym mis Mawrth

Ar 17 Mai, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies, ei bod hi bron yn anochel y byddai pleidlais o ddiffyg hyder yn digwydd.

Daeth y sylw ar 么l i Mr Gething ddiswyddo un o'i weinidogion, Hannah Blythyn, am rannu negeseuon testun gyda newyddiadurwr heb ganiat芒d. Mae hi鈥檔 gwadu gwneud hynny.

Ar fater y rhoddion, mae Mr Gething wedi mynnu'n gyson bod y taliadau wedi eu cofrestru鈥檔 gywir.

Bydd yr arian sy鈥檔 weddill o鈥檌 ymgyrch 鈥 dros 拢31,000 鈥 yn cael ei ddosbarthu i 鈥渁chosion blaengar鈥, yn 么l Llafur.

Hyd yn oed pe bai Mr Gething yn colli鈥檙 bleidlais o ddiffyg hyder fyddai hi ddim yn orfodol iddo ymddiswyddo, ond byddai鈥檙 canlyniad yn ei roi mewn sefyllfa anodd iawn.

Byddai鈥檙 bleidlais hefyd yn digwydd ar adeg lletchwith i Lafur ar ganol ymgyrch etholiadol.

Byddai鈥檔 rhaid i Blaid Cymru hefyd gefnogi鈥檙 cynnig iddo lwyddo.

Fe wnaeth Plaid Cymru dynnu allan o鈥檙 Cytundeb Cydweithio oedd gan y blaid gyda Llywodraeth Lafur Cymru yn y Senedd yn gynharach y mis hwn yn sgil y ffrae am roddion i ymgyrch Mr Gething a鈥檙 penderfyniad i ddiswyddo Ms Blythyn.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Sunday Supplement 91热爆 Cymru ar 19 Mai, ni wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, gadarnhau sut y byddai ei blaid yn pleidleisio pe bai pleidlais o ddiffyg hyder.

Ychwanegodd nad oedd 鈥渓lawer o bwynt鈥 dod 芒 phleidlais o ddiffyg hyder, gan fod aelodau Llafur yn debygol o gefnogi鈥檙 arweinydd.