Medal gerddoriaeth y Gelli i Huw Stephens

Ffynhonnell y llun, Adam Tatton-Reid/G诺yl y Gelli

Mae'r DJ a chyflwynydd Radio Cymru, Huw Stephens, wedi derbyn un o Fedalau G诺yl y Gelli eleni, a hynny am ei gyfraniad i gerddoriaeth.

Yn wyneb ac yn llais cyfarwydd ar y teledu a gorsafoedd radio'r 91热爆, mae hefyd yn gyd-sylfaenydd g诺yl gerddoriaeth S诺n yng Nghaerdydd a'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig.

"Mae'n hyfryd derbyn y fedal eleni," meddai Huw wrth Cymru Fyw. "Y tro cyntaf iddyn nhw roi medal am gerddoriaeth yng Ng诺yl y Gelli, o be' fi'n deall.

"Ac yn digwydd ar 25ain mlynedd o ddarlledu, felly mae hynny'n neis hefyd. Dwi'n teimlo'n falch iawn."

Ffynhonnell y llun, Adam Tatton-Reid/G诺yl y Gelli

Mae llond llaw o fedalau yn cael eu cyflwyno yn ystod yr 诺yl lenyddol yn y Gelli Gandryll bob blwyddyn ers 2012; enillodd yr Archdderwydd Mererid Hopwood fedal farddoniaeth yn yr 诺yl y llynedd.

Ynghyd 芒 nodi 25 mlynedd o ddarlledu eleni, mae Huw newydd lansio llyfr Wales: A Hundred Records - felly mae 2024 yn parhau'n flwyddyn fawr iddo. Llongyfarchiadau!

Ffynhonnell y llun, Adam Tatton-Reid/G诺yl y Gelli

Disgrifiad o'r llun, Huw Stephens yn derbyn y fedal am ei gyfraniad i'r diwylliant cerddoriaeth