Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhybudd y gallai deddf cydraddoldeb rhywedd fod yn anghyfreithlon
Mae'n bosibl y bydd cynllun i orfodi cydraddoldeb rhywedd mewn etholiadau i Senedd Cymru yn anghyfreithlon, yn 么l corff gwarchod cydraddoldeb y DU.
Rhybuddiodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) y gallai'r gyfraith dorri'r Ddeddf Cydraddoldeb os gall ymgeiswyr hunan-adnabod fel merched, hyd yn oed os nad dyna eu rhyw cyfreithlon.
Mae gweinidogion Llafur Llywodraeth Cymru eisiau i bleidiau gwleidyddol lunio rhestrau o ymgeiswyr sy'n cynnwys o leiaf 50% o fenywod.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y "rheolau cwota wedi'u cynllunio i gyd-fynd 芒'r system etholiadol a gynigir ym Mil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a'r rheolau presennol o ran enwebiadau, sy'n golygu bod ymgeiswyr yn darparu gwybodaeth bersonol gywir mewn papurau enwebu a swyddogion canlyniadau yn derbyn y wybodaeth honno ar yr olwg gyntaf".
Mae'r cynigion yn rhan o'r cynlluniau - sydd hefyd yn cael eu cefnogi gan Blaid Cymru - i ddiwygio'r Senedd gyda mwy o wleidyddion.
Bydd deddfwriaeth arfaethedig ar wah芒n yn ehangu maint y Senedd o 60 i 96 o wleidyddion.
Mae pryderon eisoes gan Lywydd Senedd Cymru, Elin Jones, nad yw'r cynigion cydraddoldeb rhywedd ym mhwerau'r Senedd.
Ni fyddai hynny'n atal y mesur rhag cael ei basio, ond mae'n codi'r posibilrwydd o ddadlau dros y ddeddfwriaeth yn y llysoedd.
Bydd angen i bleidiau lunio rhestrau o ymgeiswyr ar gyfer etholiad, wedi'u rhestru yn nhrefn pwy fydd yn cael eu hethol gyntaf.
Cafodd pryderon y Comisiwn eu codi mewn llythyr at bwyllgor Senedd Cymru sy'n edrych ar y cynlluniau diwygio, gan ddweud y gallai'r mesur "arwain at gynnwys cwot芒u yn seiliedig ar ryw hunan-adnabyddedig person yn hytrach na'u rhyw cyfreithlon".
Dywedodd y prif weithredwr dros dro, John Kirkpatrick, y gallai hyn fod yn anghyson 芒 Deddf Cydraddoldeb 2010.
Dywedodd wrth bwyllgor diwygio'r Senedd mai rhyw gyfreithiol person oedd sail y gyfraith gwrth-wahaniaethu, fel y nodir ar eu tystysgrif geni neu a gafwyd trwy dystysgrif cydnabod rhyw.
Byddai angen i ymgeiswyr nodi eu rhyw mewn datganiad. Dywedodd Mr Kirkpatrick nad oedd yn glir sut y byddai hynny'n gweithio'n ymarferol.
Dywedodd os yw hyn yn golygu rhyw hunan-adnabyddedig, "mae hyn yn annhebygol o fod yn gyfreithlon gan na fydd pawb sy'n hunan-adnabod fel merched yn cael eu hystyried yn gyfreithiol o dan y Ddeddf [Cydraddoldeb]".
"Os yw 'datganiadau rhywedd' yn cyfeirio at ddatganiad o'ch rhyw gyfreithiol fe ddylai hyn gael ei wneud yn glir."
Mae'r gweinidog sy'n gyfrifol am y gyfraith, Jane Hutt, wedi dweud wrth bwyllgor diwygio'r Senedd y byddai gwybodaeth rhywedd gan ymgeisydd yn cael ei derbyn ar yr olwg gyntaf.
Dywedodd nad yw swyddogion canlyniadau, sy'n gyfrifol am gynnal etholiadau mewn ardaloedd lleol, yn mynd i ymchwilio i gywirdeb unrhyw ran o'r wybodaeth a ddarparwyd.
Ond fe allai ymgeiswyr sy'n darparu gwybodaeth anghywir ac sy'n ennill etholiad wynebu her sy'n cael ei hadnabod fel deiseb etholiadol, meddai swyddog Llywodraeth Cymru wrth y pwyllgor.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r syniad o'r blaen bod pobl yn cael caniat芒d i nodi a ydyn nhw'n ddynion neu'n fenywod, er nad oes ganddi'r pwerau i basio deddfwriaeth o'r fath.
Mae Llafur wedi rhoi'r gorau i gynlluniau o'r fath ar lefel y DU, tra bod llywodraeth Geidwadol y DU wedi rhwystro deddfwriaeth yr Alban ar hunan-adnabod.
Yn y cyfamser mae'r Llywydd wedi cwyno am yr amser a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i graffu ar y gyfraith.
Naw wythnos sydd wedi eu neilltuo i'r cam cyntaf yn y Senedd, yn lle'r 12 arferol.
Gan gyfeirio at y gwahanol farnau ynghylch a yw'r gyfraith ym mhwerau'r Senedd, dywedodd Ms Jones mewn llythyr ym mis Mawrth: "Mae'n drueni y bydd gan eich pwyllgor lai o amser nag sy'n arferol i ystyried y mater newydd a chymhleth hwn."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, "cytunwyd ar yr amserlen ar gyfer Cyfnod 1 gyda'r pwyllgor busnes", sef pwyllgor trawsbleidiol sy'n penderfynu ar amserlen y trafodion yn y Senedd.
Bydd y pwyllgor yn cymryd tystiolaeth ar y mesur gan bleidiau gwleidyddol ac eraill ddydd Iau.