Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyhoeddi rhestr fer gwobrau llyfrau Tir na n-Og
Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi'r rhestr fer Gymraeg ar gyfer gwobrau llyfrau Tir na n-Og 2024
Dywedodd y Cyngor Llyfrau bod y gwobrau'n "dathlu'r gorau o straeon o Gymru a straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2023".
Gwobrau Tir na n-Og yw'r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Mae gan y wobr Gymraeg ddau gategori - ar gyfer oedran cynradd ac oedran uwchradd.
Rhestr fer cynradd
- Jac a'r Angel gan Daf James, darluniwyd gan Bethan Mai (Y Lolfa)
- Mari a Mrs Cloch gan Caryl Lewis, darluniwyd gan Val茅riane Leblond (Y Lolfa)
- Wyneb yn Wyneb gan Sioned Wyn Roberts (Atebol)
- Y Gragen gan Casia Wiliam, darluniwyd gan Naomi Bennet (Cyhoeddiadau Barddas)
Rhestr fer uwchradd
- Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)
- Fi ydy Fi gan Sian Eirian Lewis, darluniwyd gan Celyn Hunt (Y Lolfa)
- S锚r y Nos yn Gwenu gan Casia Wiliam (Y Lolfa)
Y beirniaid ar y panel ar gyfer y llyfrau Cymraeg eleni oedd Sara Yassine, Si么n Lloyd Edwards a Rhys Dilwyn Jenkins, dan gadeiryddiaeth Sioned Dafydd.
Dywedodd Ms Dafydd: "Roedd cytundeb ymysg y panel fod pawb wedi cael blas ar y darllen a bod plant Cymru yn ffodus iawn o gael y fath ystod o lyfrau safonol i'w mwynhau a'u trysori.
"Diolch i'r holl weisg, yr awduron a'r dylunwyr am oriau o bleser ac ymgolli!
"Credwn bod llyfrau ymysg y casgliad eleni a fydd yn ffefrynnau gan blant Cymru a bydd ambell lyfr yn sicr o gael ei fyseddu a'i ddarllen yn dawel ac ar goedd drosodd a throsodd am flynyddoedd i ddod."
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar 29 Mai ar Faes Eisteddfod yr Urdd ym Meifod.