Senedd: Gwrthod newid cynllun dadleuol i ddiwygio etholiadau

Disgrifiad o'r llun, O 2026 bydd 12 etholaeth newydd, pob un yn cael ei chynrychioli gan chwe Aelod o'r Senedd

Mae Llafur a Phlaid Cymru wedi gwrthod newid cynllun dadleuol i ddiwygio etholiadau ar gyfer Senedd Cymru.

O 2026, bydd etholwyr yn bwrw pleidlais dros bleidiau yn lle ymgeiswyr unigol. Mae'n rhan o gynllun i greu Senedd fwy o faint, gyda 96 o aelodau.

Mae beirniaid wedi dweud bod y cynllun yn rhoi gormod o rym i bleidiau benderfynu pwy sy'n cael eu hethol.

Mewn dadl nos Fawrth, fe wrthodwyd cais gan y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol i adael i bleidleiswyr ddewis eu hoff ymgeiswyr.

Dywedodd llywodraeth Lafur Cymru eu bod yn gwneud etholiadau yn symlach drwy roi un papur pleidleisio i bobl.

Bydd y drefn bresennol - sy'n cynnwys aelodau lleol a rhanbarthol - yn cael ei disodli gan 12 etholaeth newydd, pob un yn cael ei chynrychioli gan chwe Aelod o'r Senedd.

Byddai'r pleidiau'n cyflwyno rhestrau o ymgeiswyr sydd wedi'u graddio ar gyfer pob sedd.

Disgrifiad o'r llun, Gwadodd Mick Antoniw o'r Blaid Lafur, sy'n goruchwylio'r mesur, y byddai etholwyr yn colli allan

Mae'r drefn wedi'i chynnwys mewn bil i ddiwygio'r Senedd - rhan bwysig o'r cytundeb rhwng y llywodraeth a Phlaid Cymru.

Bydd rhaid i ddwy ran o dair o aelodau'r Senedd gefnogi'r mesur er mwyn iddo ddod yn gyfraith.

Gwrthodwyd cynigion eraill ar gyfer systemau etholiadol mwy cyfrannol o blaid y system ga毛edig sydd yn y bil.

Galwodd y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol am drefn fwy hyblyg, lle gallai pleidleiswyr hefyd gefnogi ymgeiswyr unigol a'u dyrchafu ar y rhestr.

Fodd bynnag, pasiwyd gwelliant gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn gofyn am gynnwys enwau ymgeiswyr ar y papur pleidleisio.

'Cyfaddawd'

Mewn dadl, gofynnodd y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Tor茂aid sawl gwaith i wleidyddion Llafur a Phlaid Cymru pam eu bod wedi derbyn y system ga毛edig.

Dywedodd yr aelod Llafur Alun Davies fod rhai yn ei blaid yn gwrthwynebu opsiynau eraill, felly ei fod wedi derbyn y "cyfaddawd" o restrau ca毛edig i wneud yn si诺r bod y mesur yn llwyddo.

"Mae un cam ymlaen yn well na dim cam ymlaen," meddai.

Dywedodd Heledd Fychan o Blaid Cymru taw'r flaenoriaeth oedd sicrhau bod yr holl newidiadau yn digwydd cyn 2026.

Dywedodd y Ceidwadwr Cymreig, Darren Millar, fod Plaid Cymru wedi ildio i orchymyn o'r Blaid Lafur.

Dywedodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, fod y cynllun wedi ei gytuno tu 么l i ddrysau ca毛edig.

Gwadodd Mick Antoniw o'r Blaid Lafur, sy'n goruchwylio'r mesur, y byddai etholwyr yn colli allan gan taw y pleidiau sydd yn dewis ymgeiswyr dan y drefn bresennol.

Hefyd, fe wrthododd Llafur a Phlaid Cymru gais i sicrhau bod gwleidyddion sy'n camymddwyn yn wynebu deiseb, a fyddai wedi rhoi cyfle i bleidleiswyr eu taflu allan drwy isetholiad.