Beth yw'r gwahaniaeth rhwng maniffestos Gething a Miles?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Vaughan Gething a Jeremy Miles yw'r unig ymgeiswyr yn yr ornest arweinyddiaeth Llafur
  • Awdur, Daniel Davies
  • Swydd, Gohebydd gwleidyddol 91热爆 Cymru

Gydag ychydig dros fis i fynd, does dim ffefryn amlwg yn y gystadleuaeth i arwain Llafur Cymru.

Ras agos yw hi rhwng Jeremy Miles a Vaughan Gething i olynu Mark Drakeford fel arweinydd y blaid a phrif weinidog.

Mae'r ddau wedi cyhoeddi eu maniffestos ar gyfer yr arweinyddiaeth.

Dau wleidydd o dir canol y blaid ydyn nhw, a gyda'r ddau yn weinidogion yn yr un llywodraeth, mae 'na lot yn gyffredin rhwng y ddwy ddogfen.

Ond maen nhw'n cynnig polis茂au gwahanol mewn rhai meysydd.

Cefndir

Mae'r ddau ymgeisydd yn cyfeirio at y rhagfarn wnaethon nhw wynebu wrth dyfu lan yng Nghymru.

Mae Mr Miles yn dweud bod eu profiadau fel dyn hoyw ifanc oedd "yn aml yn teimlo ar y tu allan" wedi dylanwadu ar ei wleidyddiaeth.

Mae Mr Gething yn dweud dyw e ddim eisiau i le pobl ifanc mewn cymdeithas gael ei gwestiynu, fel digwyddodd iddo fe - mab du i dad gwyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Jeremy Miles yw gweinidog y Gymraeg ac addysg Llywodraeth Cymru

Roedd y ddau yn gyfreithwyr cyn cael eu hethol i'r Senedd, ond fe wnaethon nhw ddilyn gyrfaoedd gwahanol.

Mae Mr Gething yn s么n am "sefyll dros bobl" fel cyfreithiwr i undebau llafur, tra bod maniffesto Mr Miles yn dweud ei fod yn gwybod mor bwysig i'r economi ydy'r sector preifat diolch i'r ddau ddegawd treuliodd yn gweithio mewn busnes.

Iechyd

Fe welwch ymrwymiad i gadw'r gwasanaeth iechyd yn nwylo cyhoeddus yn y ddau faniffesto.

A bod yn onest, fe fyddai'n anhygoel i glywed gwleidydd Llafur yn dweud fel arall.

Mae ei gyfnod fel gweinidog iechyd yn ystod y pandemig yn rhan fawr o ymgyrch Mr Gething.

Er iddo redeg yn erbyn Mark Drakeford am yr arweinyddiaeth yn 2018, mae'n pwysleisio sut gwnaeth y ddau gydweithio i gadw Cymru'n ddiogel rhag Covid-19.

Disgrifiad o'r llun, Roedd Vaughan Gething yn weinidog iechyd yn ystod y pandemig ac mae nawr yn dal briff yr economi

Gwaddol y pandemig yw'r rhestrau aros uchel sydd yn wynebu'r GIG nawr - ac mae Mr Miles yn ddiflewyn ar dafod am yr her yna.

Mae'r gwasanaeth iechyd wedi'i ymestyn "bron i'r eithaf", meddai.

Un o'i chwe addewid allweddol yw torri'r rhestrau aros gyda chanolfannau arbennig ar gyfer llawdriniaeth ar ben-gliniau a chluniau.

Mae Mr Gething yn dweud bod canolfannau o'r fath yn agor yn barod, ac mae wedi cwestiynu pa mor bell gall y polisi fynd.

Mae 'na ymrwymiad i greu gwasanaeth gofal cenedlaethol yn y ddau faniffesto, ond dydyn nhw ddim yn egluro sut y bydden nhw'n ei ariannu.

Trafnidiaeth

Mae'r ddau ymgeisydd yn dweud bod angen adrefnu'r diwydiant bysus - rhywbeth mae'r llywodraeth yn paratoi i wneud yn barod.

Tu hwnt i hynny, mae Mr Gething yn dweud y byddai'n "grymuso dinasyddion" i helpu i gynllunio polis茂au trafnidiaeth.

Mae hynny'n dilyn beirniadaeth o benderfyniad y llywodraeth i ddileu rhai cynlluniau i adeiladu ffyrdd newydd.

Mae Mr Miles yn cyfeirio yn uniongyrchol at gyfraith 20mya Cymru.

Byddai'r ddau ymgeisydd yn cadw'r gyfraith, ond mae maniffesto Mr Miles yn dweud bod yn rhaid i'r cyhoedd gael cyfle i ddweud eu dweud mewn adolygiad.

Addysg

Dywed Vaughan Gething y byddai'n defnyddio dylanwad swyddfa'r prif weinidog i sicrhau rhagoriaeth mewn ysgolion.

Mae'r ddau ymgeisydd yn addo cau'r bwlch cyrhaeddiad, sef y gwahaniaeth rhwng canlyniadau plant o gefndiroedd difreintiedig o gymharu 芒'u cyfoedion.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Ymunodd Jeremy Miles y Senedd ar 么l etholiad 2016

Mae'r gweinidog addysg presennol, Jeremy Miles, yn dweud yn benodol bod angen talu mwy o sylw at yr heriau sy'n wynebu rhai bechgyn dosbarth gweithiol.

Mae hefyd yn addo cynyddu'r gyfran o gyllideb Llywodraeth Cymru sy'n cael ei gwario ar ysgolion.

Mae'r ddau yn cyfeirio at edrych eto at bwy sy'n gymwys ar gyfer prydiau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd, ac mae'r ddau yn dweud eu bod am ymestyn gofal plant pan fo'r adnoddau ar gael.

Economi

Mae Cymru, meddai Jeremy Miles, "yn wlad sy'n rhy dlawd".

Fel Mr Gething, mae'n dweud bod tyfu'r economi mewn modd cynaliadwy a manteisio ar y cyfleoedd o economi werdd yn flaenoriaeth.

Mae Vaughan Gething, sy'n weinidog yr economi nawr, yn dweud ei fod am "sicrhau cyfiawnder" wrth leihau effaith yr economi ar yr hinsawdd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Vaughan Gething ymuno 芒'r Senedd yn 2011

Efallai bod y bygythiad i swyddi dur ym Mhort Talbot yn dangos mor anodd gall hyn fod.

Mae'r ddau ymgeisydd yn addo brwydro dros swyddi'r dref, er taw llywodraeth Prydain sydd 芒'r prif gyfrifoldeb dros y maes.

Beth arall sy'n wahanol?

Ar 么l cyfres o ymosodiadau gan g诺n, mae Mr Miles yn addo adolygiad o drwyddedau c诺n.

Mae Mr Gething yn dweud y byddai'n rhoi Cymru ar flaen y gad am les anifeiliaid, gan roi mwy o bwerau i swyddogion yr RSPCA.

Mae ansawdd d诺r yn fater arall sydd wedi codi i'r agenda gwleidyddol yn ddiweddar - ac mae gan y ddau rywbeth i'w ddweud amdano.

Byddai llywodraeth Mr Miles yn parhau i siarad 芒'r diwydiant mewn uwchgynadleddau ansawdd d诺r.

Mae'r gweinidog sy'n gyfrifol am y trafodaethau yna ar hyn o bryd wedi rhybuddio yn erbyn dirwyo cwmn茂au d诺r, gan ddweud y byddai'n gadael llai o arian iddyn nhw wario ar seilwaith.

Ond yn ei faniffesto, mae Mr Gething yn dweud y byddai'n cyflwyno "cosbau llymach i'r rheiny sy'n torri rheolau amgylcheddol".