Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pasio cam cyntaf mesur allai weddnewid Senedd Cymru
Mae cynlluniau ar gyfer ehangu'r Senedd wedi pasio'r cam cyntaf mewn pleidlais nos Fawrth.
Fe wnaeth aelodau o'r Senedd gefnogi deddfwriaeth newydd i ychwanegu 36 o wleidyddion, gyda 39 AS o blaid ac 14 yn erbyn.
Fe wnaeth Llafur Cymru addo diwygio'r system fel rhan o'u maniffesto yn 2021.
Mae'r mesur hefyd yn rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru.
Ar ran Llywodraeth Cymru, dywedodd Mick Antoniw y bydd y system newydd o ethol - a elwir yn "rhestr ga毛edig" - "yn gwella democratiaeth ac yn sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif".
Nid dyma'r bleidlais olaf, gyda chamau a thrafodaethau pellach i ddod.
Bydd rhaid i ddwy ran o dair o Senedd Cymru gefnogi'r ddeddfwriaeth er mwyn iddi ddod yn gyfraith - ond mae hynny'n debygol gyda Llafur a Phlaid yn cefnogi'r cynlluniau.
Mwy o wleidyddion
Mae Mesur Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn awgrymu:
- Ehangu'r Senedd o 60 i 96 o aelodau;
- Bydd 32 etholaeth newydd yn senedd San Steffan yn cael eu paru i ffurfio 16 o etholaethau Senedd Cymru sydd eto i'w pennu;
- Fe fydd 6 aelod etholedig ar gyfer pob un o'r 16 etholaeth newydd;
- Bydd pob AS yn cael ei ethol drwy'r hyn a elwir yn "rhestr ga毛edig". Bydd y pleidiau'n enwebu ymgeiswyr yn eu trefn ddewisiedig a bydd etholwyr yn cael UN bleidlais ar gyfer plaid yn hytrch nag unigolyn;
- Bydd y canlyniad yn cael ei benderfynu drwy ffurf o gynrychiolaeth gyfrannol. Ar hyn o bryd mae gan bawb DDWY bleidlais - un i unigolyn ac un i blaid;
- Bydd rhaid i ymgeiswyr ac ASau fyw yng Nghymru;
- Bydd etholiadau Senedd bob pedair blynedd yn hytrach na bob pump;
- Fe fydd adolygiad o'r diwygiadau ar 么l 2026.
Bu 91热爆 Cymru yn siarad gyda phedwar AS am eu barn o blaid neu yn erbyn y cynlluniau.
MICK ANTONIW: AS Llafur Pontypridd a'r Cwnsler Cyffredinol (prif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru)
Mae'r achos o blaid yn glir. Mae'r Senedd wedi newid y tu hwnt i bob dirnadaeth ac mae dirfawr angen cynyddu ei maint er mwyn cyflawni ei dyletswyddau.
Does byth amser da i ddweud ein bod angen mwy o wleidyddion, ond mae yna amser i ddweud fod rhaid i ni wneud rhywbeth i warchod democratiaeth a dyna'r hyn yr ydym yn ceisio ei "werthu" i'r cyhoedd.
Mae rhestrau ca毛edig yn gyfaddawd. Ond mae yna ystod eang o farn am sut ddylai'r system fod a does dim unfrydedd.
Bydd hon yn system lawer mwy cynrychioliadol na'r un cyntaf i'r felin ac fe fydd yn dileu'r system ranbarthol fel y bydd bob pleidlais yn cyfri.
DARREN MILLAR: AS Ceidwadol Gorllewin Clwyd (ac aelod o'r pwyllgor sy'n craffu'r mesur)
Mae hwn yn gam yn 么l go iawn i rym y bobl ac atebolrwydd uniongyrchol. Dyw e'n dangos dim parch i'r cyhoedd ac mae'n rhoi'r grym dros pwy sy'n cael ei ethol i'r Senedd yn nwylo arweinwyr y pleidiau.
Yr hyn gewch chi yw ymgeiswyr ac ASau yn perfformio i'r galeri o'u plaid eu hunain.
Hefyd dyw pobl ddim am gael mwy o wleidyddion - mae'n debyg na fyddwn ni'n cyrraedd sefyllfa lle bydd hynny'n digwydd - ond mae gennym ddyletswydd fel cynrychiolwyr etholedig i barchu'r farn yna, yn wahanol i'r pleidiau eraill.
Mae awgrymu na allwn ni gael craffu effeithiol oherwydd maint y Senedd yn nonsens - edrychwch ar y gyfraith rhoi organau, y gwaharddiad ysmygu a bagiau plastig.
Mae angen refferendwm ar hyn am ei fod yn newid mor sylweddol. Mae dileu'r system cyntaf i'r felin heb gymeradwyaeth glir gan y cyhoedd yn gam erchyll.
Rwy'n cytuno y dylen ni gael etholiad bob pedair blynedd ac y dylai ymgeiswyr fyw yng Nghymru, ond mae angen i'r rheolau fod yn llymach na dibynnu ar y gofrestr etholiadol yn unig.
HELEDD FYCHAN: AS Plaid Cymru Canol De Cymru (ac aelod o'r pwyllgor)
Mae angen mwy o wleidyddion arnom. Roeddwn i'n aelod o Gyngor Rhondda Cynon Taf lle'r oedd gennym 75 o gynghorwyr ac eto dim ond 60 Aelod Senedd sydd yna. Mae'n anodd dros ben i graffu [ar fusnes y Senedd] yn iawn.
Mae maint yr etholaethau newydd yn destun pryder, ond mae gan bawb bum AS ar hyn o bryd - un i'r etholaeth a phedwar rhanbarthol. O leiaf fe fydd pawb yn gyfartal o dan y drefn newydd sy'n gwneud cyfathrebu dipyn haws.
Rwy'n AS rhanbarthol ac mae'n gallu bod yn anodd i bobl ar hyn o bryd i wybod pwy sy'n eu cynrychioli a phwy y dylen nhw ddal i gyfrif. Mae'r adolygiad ar 么l 2026 yn golygu y bydd cyfle i edrych eto ar hyn.
Ar fater y rhestrau ca毛edig fe fydd yr adolygiad yn ddiddorol i mi. Yn bersonol rwy'n gefnogol i'r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (lle mae pleidiau'n cyhoeddi rhestr ond pleidleiswyr sy'n penderfynu pa ymgeisydd sydd orau ganddynt). Ond o leia' ry'n ni'n cael gwared 芒'r system leia' ddemocrataidd, sef y cyntaf i'r felin, a chael mwy o gynrychiolaeth gyfrannol.
MIKE HEDGES: AS Llafur Dwyrain Abertawe
Fedrai ddim gweld unrhyw fantais o'r system sy'n cael ei chynnig. Mae'n mynd i greu etholaethau mawr iawn. Fe allech chi gael un sy'n ymestyn o Frynaman Isaf neu o Wauncaegurwen i'r ffin gyda Lloegr yn Sir Fynwy neu i'r m么r yng Ngheredigion - mae hynny bron 芒 bod yn rhy fawr i bobl deimlo'n rhan ohoni.
Rwy'n credu y bydd chwe AS yn drysu pobl. Gallwn i gnocio drws a dweud "Helo... Mike Hedges ydw i a dwi'n eich cynrychioli yn y Senedd," ac fe allai pobl ateb "O na dydych chi ddim... yr wythnos diwethaf fe wnaeth rhywun arall alw yn dweud mai nhw oedd yn fy nghynrychioli yn y Senedd"!
Rwy'n credu y byddai mynd i lawr i dri AS mewn 32 etholaeth yn llawer gwell ac yn gosod pobl yn agosach at y bobl y maen nhw'n eu cynrychioli.
Rhestrau ca毛edig? Rwy'n credu eu bod nhw'n rhoi'r grym i gyd i bleidiau gwleidyddol neu arweinwyr pleidiau a fydd yn dewis pa mor uchel ar y rhestr y bydd pob ymgeisydd. Bydd yn hybu 'party-think' a 'group-think'.
Mae angen digon o ASau i graffu ar y ddeddfwriaeth, ond mae'n rhaid i ni werthu hynny i'r cyhoedd.