Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
HSBC yn cyhoeddi bod y gwasanaeth ff么n Cymraeg wedi cau
Mae HSBC wedi cadarnhau eu bod nhw bellach wedi cau eu gwasanaeth ff么n Cymraeg.
Fe gyhoeddodd y banc ym mis Tachwedd "nad oedd yn benderfyniad a wnaed yn ysgafn", ond fod y galw am y gwasanaeth wedi lleihau dros amser.
Roedd gr诺p o Aelodau Senedd Cymru ac ymgyrchwyr iaith yn feirniadol iawn o'r cynllun, gan gyhuddo'r cwmni o "ddangos dirmyg tuag at gwsmeriaid Cymraeg".
Dywedodd llefarydd ar ran HSBC eu bod wedi ymroi i gefnogi eu cwsmeriaid Cymraeg, ond bod rhaid iddyn nhw gyflwyno newidiadau oherwydd y galw isel am y gwasanaeth.
Yn 么l HSBC roedd y gwasanaeth Cymraeg ond yn derbyn 22 galwad y dydd, o'i gymharu 芒 18,000 i'r gwasanaethau Saesneg.
Roedd y gwasanaeth ar gael rhwng 08:00-20:00 bob dydd, ac yn 2021 fe wnaeth y banc lansio ymgyrch i helpu staff i ddysgu Cymraeg.
Ond mewn llythyr i Aelodau o'r Senedd ym mis Tachwedd y llynedd, dywedodd HSBC na fyddai'n cynnig llinell ff么n Cymraeg ei hiaith o 15 Ionawr.
'Pob defnyddiwr yn gallu siarad Saesneg'
Mewn llythyr at y banc fis diwethaf, dywedodd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, a'r Gymraeg Senedd Cymru eu bod nhw am i'r banc ystyried tro pedol.
Dywed yr Aelodau o'r Senedd y byddai methiant i ymateb yn gadarnhaol i hyn yn "golygu bod ymrwymiadau HSBC i Gymru a'r Gymraeg yn ddiystyr".
Roedd yna feirniadaeth hefyd o gynllun y banc i gynnig galwad yn 么l ar 么l tridiau i siaradwyr Cymraeg, gan ddweud na fydda hynny o unrhyw werth i berson oedd 芒 mater oedd angen ei ddatrys ar fyrder, fel bil ynni er enghraifft.
Yn 么l HSBC, o Ionawr 15 bydd galwadau i'r llinell ff么n Cymraeg yn cael eu dargyfeirio i'r prif wasanaethau Saesneg gan fod "pob cwsmer sy'n defnyddio'r llinell Cymraeg yn gallu siarad Saesneg hefyd".
Mae'r banc wedi addo na fyddant yn cau rhagor o ganghennau yn y Deyrnas Unedig eleni, gan gynnwys eu safleoedd yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd ar ran HSBC: "Rydym wedi ymroi i gefnogi ein cwsmeriaid Cymraeg, ond oherwydd niferoedd isel iawn y galwadau i'n gwasanaeth ff么n Cymraeg - llai na dau ddwsin y dydd ar gyfartaledd - mae'n rhaid i ni gyflwyno newidiadau.
"Os oes cwsmer sydd am gyfathrebu gydag aelod o staff yn Gymraeg, yna mae modd i ni drefnu hynny.
"Byddwn ni hefyd yn parhau i fod ag aelod o staff Cymraeg yn hanner ein canolfannau yng Nghymru, ac yn parhau i ymateb i negeseuon cwsmeriaid drwy gyfrwng yr iaith."