Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
HSBC 'yn dangos dirmyg tuag at gwsmeriaid Cymraeg'
- Awdur, Rhodri Lewis
- Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 91热爆 Cymru
Mae HSBC wedi eu cyhuddo o fod ag agwedd ddirmygus tuag at gwsmeriaid oherwydd y penderfyniad i gau'r gwasanaeth ff么n Cymraeg.
Mewn llythyr at y banc, dywedodd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, a'r Gymraeg Senedd Cymru eu bod nhw am i'r banc ystyried tro pedol.
Dywed yr Aelodau o'r Senedd y byddai methiant i ymateb yn gadarnhaol i hyn yn "golygu bod ymrwymiadau HSBC i Gymru a'r Gymraeg yn ddiystyr".
Dywedodd llefarydd ar ran HSBC eu bod "wedi ymroi i gefnogi ein cwsmeriaid Cymraeg" ond bod rhaid cyflwyno newidiadau oherwydd "niferoedd isel iawn" y galwadau i'r gwasanaeth ff么n.
Yn y llythyr, mae'r ASau yn dyfynnu o wefan y banc, sy'n dweud eu bod "yn ymroddedig i fywyd, diwylliant a phobl Cymru a'n nod yw croesawu'r iaith Gymraeg yn ein holl ganghennau yng Nghymru, a thrwy wneud hynny darparu gwasanaeth o'r safon uchaf i'n cwsmeriaid".
Mae'r llythyr yn parhau: "Mae methiant HSBC i gynnal dull sy'n cyd-fynd 芒'u gwerthoedd yn cael ei ystyried yn annidwyll ac yn annifyr, ac mae potensial i hyn gael effaith sylweddol ar eich cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith."
Mae'r Pwyllgor yn dweud bod y Pwyllgor a Seneddwyr o bob plaid yn teimlo'n gryf am hyn.
Mae'r llythyr yn dilyn ymddangosiad o flaen y pwyllgor gan un o benaethiaid HSBC, Jos茅 Carvalho, fis diwethaf.
Mae'n cwestiynu peth o'i dystiolaeth, gan gynnwys pan ddywedodd bod yna dri asiant yn ateb galwadau yn y Gymraeg, a'u bod yn derbyn ryw 22 o alwadau'r dydd.
"Ry'n ni'n bennu lan gydag ond 6% o alwadau sy'n dod i mewn yn cael eu hateb yn y Gymraeg gan y bobl hyn," meddai.
Dywed yr ASau bod hyn yn golygu nad yw 94% o alwadau i'r gwasanaeth yn cael eu hateb yn y Gymraeg, er gwaetha'r ffaith bod cwsmeriaid yn gwneud cais i ddefnyddio'r gwasanaeth.
'Gwthio siaradwyr Cymraeg allan'
Mae'r llythyr yn mynd ymlaen i fanylu: "Mae HSBC wedi cyfeirio droeon at ostyngiad cyson yn nifer y bobl sy'n defnyddio'r Gwasanaeth, o gymharu 芒 bron i 20,000 o alwadau a wneir i'r llinell Saesneg bob dydd.
"Byddem yn dadlau nad yw'r hyn y mae HSBC yn ei hawlio yn ei lythyr dyddiedig 8 Tachwedd 2023, sy'n disgrifio'r gwasanaeth fel un sydd 'ddim yn cael ei ddefnyddio'n llawn mwyach' yn ddatganiad dilys: yn hytrach, mae nifer isel y galwadau y mae HSBC yn cyfeirio atynt yn dangos anallu eich banc i ddarparu gwasanaeth gweithredol a chyson sy'n diwallu anghenion ei gwsmeriaid Cymraeg eu hiaith.
"Credwn fod hyn yn dangos lefel o ddirmyg tuag at gwsmeriaid HSBC, a bod iaith a rhesymeg y banc ynghylch y penderfyniad i gau'r gwasanaeth yn annidwyll.
"Effaith gweithredoedd HSBC yw gwthio siaradwyr Cymraeg allan mewn ffordd lechwraidd."
Fe wnaeth y pwyllgor godi pryderon hefyd am yr effaith ar gwsmeriaid sy'n agored i niwed, gan gwestiynu ffigyrau'r banc oedd yn nodi mai ond 85 o bobl allan o thua 600,000 o gwsmeriaid yng Nghymru oedd wedi'u categoreiddio fel pobl sy'n agored i niwed, gan ddweud bod y ffigwr yn ymddangos yn ganran bach iawn.
Mae yna feirniadaeth hefyd o gynllun y banc i gynnig galwad n么l ar 么l tridiau i siaradwyr Cymraeg, gan ddweud na fydda hynny o unrhyw werth i berson oedd 芒 mater oedd angen ei ddatrys ar fyrder, fel bil ynni er enghraifft.
Mae'r pwyllgor eisiau sicrwydd y bydd cwsmeriaid yn derbyn galwad n么l o fewn diwrnod, ar amser penodol.
'Dewis peidio buddsoddi yn y Gymraeg'
Mae'r llythyr, sydd wedi'i lofnodi gan gadeirydd y pwyllgor, Delyth Jewell AS, hefyd yn beirniadu methiant y banc i gynnig ap bancio yn y Gymraeg.
Dywedodd y banc wrth y pwyllgor nad oedd "mor syml 芒 chyfieithu'r ap" ac "y byddai'n fuddsoddiad sylweddol ac yn newid yn y system dechnoleg sydd eisoes ar gael i ni".
Dywedodd yr ASau bod yr ap ar gael mewn cyfres o ieithoedd eraill ledled y byd: "Ni chawsom ein hargyhoeddi gan y rhesymau dros pam nad oedd modd creu fersiwn Gymraeg o ap bancio HSBC.
"Fel yr amlinellwyd, mae'n wir bod modd gwneud hyn, ond ymddengys fod HSBC wedi dewis peidio 芒 gwneud y buddsoddiad hwn yn y Gymraeg."
Dywedodd llefarydd ar ran HSBC: "Rydym wedi ymroi i gefnogi ein cwsmeriaid Cymraeg, ond oherwydd niferoedd isel iawn y galwadau i'n gwasanaeth ff么n Cymraeg - llai na dau ddwsin y dydd ar gyfartaledd - mae'n rhaid i ni gyflwyno newidiadau.
"Os oes cwsmer sydd am gyfathrebu gydag aelod o staff yn Gymraeg, yna mae modd i ni drefnu hynny.
"Byddwn ni hefyd yn parhau i fod ag aelod o staff Cymraeg yn hanner ein canolfannau yng Nghymru, ac yn parhau i ymateb i negeseuon cwsmeriaid drwy gyfrwng yr iaith."
Ychwanegodd y llefarydd eu bod nhw eisoes wedi ymroi i gyflwyno rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor, a'u bod yn bwriadu cysylltu 芒 nhw yn fuan.