Heddlu'n apelio am luniau dashcam wedi gwrthdrawiad Garreg

Disgrifiad o'r fideo, Roedd gwylnos yn Llanfrothen nos Iau i gofio ac i alaru

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i farwolaethau pedwar dyn ifanc mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd yn apelio ar unrhyw un sydd 芒 lluniau dashcam allai fod o ddefnydd, i gysylltu 芒 nhw.

Cafwyd hyd i gyrff Jevon Hirst, 16, Harvey Owen, 17, Wilf Fitchett, 17, a Hugo Morris, 18, ger pentref Garreg fore Mawrth.

Cadarnhaodd Heddlu'r Gogledd bod y car Ford Fiesta arian roedd y bechgyn yn teithio ynddo wedi ei ddarganfod "ben i lawr", ac "yn rhannol dan dd诺r".

Mae'r llu yn awyddus i dderbyn lluniau gan yrwyr oedd yn teithio ar hyd yr A4085 rhwng Penrhyndeudraeth a Beddgelert rhwng 11:00 ar 19 Tachwedd a 10:00 21 Tachwedd.

Fe gadarnhaodd swyddogion bod teuluoedd rhai o'r dynion ifanc wedi ymweld 芒 safle'r gwrthdrawiad ddydd Iau.

Cafodd gwylnos arall ei chynnal ym mhentref Llanfrothen nos Iau.

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu

Disgrifiad o'r llun, Roedd y pedwar yn astudio cyrsiau lefel A yn Shrewsbury College

Y gred yw bod y criw wedi teithio o Sir Amwythig i Harlech ddydd Sadwrn gyda chynlluniau i wersylla yn Eryri.

Doedd neb wedi gweld na chlywed gan y pedwar ers bore Sul, a sbardunodd hynny ymdrech chwilio fawr yn y gogledd orllewin.

Ond fore Mawrth, ar 么l derbyn gwybodaeth gan aelod o'r cyhoedd, cafodd y car ei ddarganfod ger ffordd yr A4085.

Disgrifiad o'r llun, Mae ffordd yr A4085 bellach wedi ailagor
Disgrifiad o'r llun, Mae arwyddion a conau wedi cael eu gosod ger safle'r gwrthdrawiad

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Simon Barrasford bod ymchwiliad "llawn a manwl" ar waith er mwyn darganfod achos y gwrthdrawiad.

"Mae rhan o'r ymchwiliad hwnnw yn cynnwys edrych ar luniau teledu cylch cyfyng a hoffem ddiolch i bawb sydd eisoes wedi cysylltu 芒 ni.

"Mae rhan o'r ymchwiliad hefyd yn cynnwys ymchwiliad fforensig llawn ar y car ac mae'r gwaith yma'n parhau gyda'r Uned Ymchwilio Fforensig Gwrthdrawiadau.

"Hoffem hefyd ddatgan ein diolch i'r gymuned yng Ngharreg am eu amynedd a dealltwriaeth parhaol."

Mae swyddogion yn annog unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth neu luniau camera cerbyd a all gynorthwyo'r ymchwiliad i gysylltu 芒'r Uned Troseddau'r Ffyrdd drwy'r wefan gan nodi'r rhif cyfeirnod 23001169854.