Canfod pedwar corff wrth chwilio am ddynion ifanc ar goll

Disgrifiad o'r fideo, Cymuned mewn sioc ar 么l canfod cyrff yn Eryri

Mae cyrff wedi eu canfod gan yr heddlu oedd yn chwilio am bedwar dyn ifanc yn eu harddegau oedd ar goll yn y gogledd-orllewin.

Cafodd Jevon Hirst, Harvey Owen, Wilf Henderson a Hugo Morris eu gweld ddiwethaf yn ardal Porthmadog a Harlech fore Sul.

Fe gadarnhaodd swyddogion bod un o'r dynion ifanc yn 16 oed, dau yn 17 ac un yn 18 oed.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod y cyrff wedi cael eu darganfod mewn car oedd wedi dod oddi ar ffordd yr A4085 ger pentref Garreg.

Mae teuluoedd y pedwar wedi cael gwybod.

Dywedodd yr uwch-arolygydd Owain Llewellyn: "Ar hyn o bryd mae hi'n edrych fel bod damwain ofnadwy wedi digwydd, ac rydyn ni'n cydymdeimlo yn arw 芒 theulu a ffrindiau'r pedwar dyn ifanc.

"Mae hi wedi bod yn ymdrech chwilio eang, yn cynnwys nifer o asiantaethau gwahanol a gwirfoddolwyr, ond yn anffodus dim dyma'r canlyniad yr oedd unrhyw un yn ei obeithio amdano."

Ychwanegodd bod ymchwiliad y llu i'r hyn arweiniodd at y gwrthdrawiad yn parhau.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd rhan o ffordd yr A4085 ei chau gan swyddogion, ond mae bellach wedi ail-agor

Y gred yw bod y pedwar yn dod o ardal Amwythig, a'u bod wedi mynd i wersylla yn Eryri.

Roedd y pedwar wedi bod yn teithio mewn car Ford Fiesta arian, a daeth cadarnhad fore Mawrth bod yr heddlu wedi darganfod y cerbyd hwnnw yn sgil derbyn gwybodaeth gan aelod o'r cyhoedd.

Ychwanegodd yr Uwch-arolygydd Llewellyn bod y car wedi cael ei ddarganfod "ben i lawr", ac "yn rhannol dan dd诺r".

"Er bod y gwaith chwilio ar ben, mae'r ymchwiliad a'r broses ffurfiol o adnabod yr unigolion y tu mewn i'r cerbyd yn parhau," meddai.

Fe gadarnhaodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod nhw wedi ymateb i adroddiadau o ddigwyddiad ar yr A4085 rhwng Nantmor a Than-Lan ddydd Mawrth.

Cafodd rhan o ffordd yr A4085 ei chau gan swyddogion am gyfnod, a chafodd ambiwlans awyr ei gweld yn gadael yr ardal.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Crystal Owen nad oedd hi'n ymwybodol fod ei mab, Harvey, wedi mynd i wersylla

Cyn y datblygiadau brynhawn ddydd Mawrth, dywedodd mam Harvey Owen, Crystal, wrth y 91热爆 nad oedd hi'n ymwybodol fod ei mab yn mynd i wersylla, a'i bod hi'n credu mai aros yn nh欧 taid un o'i ffrindiau oedd ei fwriad.

Dywedodd fod Harvey wedi gadael ei gartref nos Sadwrn, a'i bod yn gallu gweld nad oedd wedi defnyddio ap WhatsApp ar ei ff么n ers amser cinio dydd Sul.

"Doedden ni ddim yn gwybod ei fod yn mynd i wersylla. Pe bawn i'n gwybod fydden i heb adael iddo fynd yn y tywydd gaeafol," meddai.

'Torcalonnus'

Fe ddywedodd Shrewsbury College fod y pedwar yn fyfyrwyr yno, a'u bod yn astudio cyrsiau lefel A ar hyn o bryd.

Mewn datganiad, dywedodd y coleg bod "eu meddyliau gyda theuluoedd a ffrindiau'r pedwar".

Dywedodd Ysgol Meole Brace Amwythig - lle bu'r pedwar yn ddisgyblion - fod y pedwar wedi bod yn aelodau "amlwg" ac "uchel eu parch" o gymuned yr ysgol.

Yn 么l June Jones, sy'n cynrychioli ward Glaslyn ar Gyngor Gwynedd, mae'r cyfan yn "drychineb".

"Mae'r gymuned i gyd yn teimlo fan hyn, ac yn teimlo efo'r teuluoedd yn de, ar adeg mor eithriadol o drist iddyn nhw. Mae'n sobor o drist arnyn nhw a dweud y gwir," meddai.

"Mae'n drychineb 'sa neb yn medru'i ragweld yn digwydd, a rhywun wedi gobeithio gymaint y bydden nhw just yn gallu cerdded n么l lawr y mynydd yn iawn.

"Mae 'na deimlad hefyd bod angen rhoi diolchiadau聽i'r gwasanaethau brys, a phawb sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch chwilio fan hyn... dwi'n teimlo yn arw drostyn nhw hefyd."

'Digwyddiad trasig'

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd yr Aelod Seneddol lleol, Liz Saville Roberts a'r Aelod lleol o Senedd Cymru, Mabon ap Gwynfor bod y newyddion yn "wirioneddol dorcalonnus".

"Fel rhieni ein hunain, mae ein meddyliau'n mynd allan i deuluoedd a ffrindiau'r pedwar dyn ifanc sydd wedi colli eu bywydau yn y digwyddiad trasig hwn."

"Hoffem dalu teyrnged i'r gwasanaethau brys a'r timau achub mynydd lleol sydd wedi bod yn rhan o'r ymdrech chwilio, ac i aelodau'r cyhoedd am eu cymorth i helpu i ddod o hyd i'r cerbyd.

"Ni all unrhyw eiriau adlewyrchu'n ddigonol y tristwch a ddaw i'n cymuned gyfan yn sgil y newyddion hyn."

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, bod y newyddion yn "dorcalonnus".

"Mae fy meddyliau gyda'u teuluoedd a'u ffrindiau yn ystod yr amser anodd hwn," ychwanegodd.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies bod meddyliau pob aelod o'i gr诺p "gyda theuluoedd a chyfeillion y bechgyn sydd, yn anffodus, wedi colli eu bywydau".

Mae yntau hefyd wedi "diolch i'r gwasanaethau brys a'r holl fudiadau sydd wedi bod yn rhan o'r chwilio, a ddaeth i ben gyda'r canlyniad gwaethaf posib".

Gallwch dderbyn hysbysiadau am straeon mawr sy'n torri yng Nghymru drwy lawrlwytho ap 91热爆 Cymru Fyw ar neu .