Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llai na thraean o deithiau tr锚n ar drenau newydd
Mae llai na thraean o holl deithiau Trafnidiaeth Cymru (TC) yn cael eu gwneud ar drenau modern, er i darged o 95% gael ei osod pum mlynedd yn 么l.
29% o wasanaethau TC sydd ar drenau sydd wedi'u cyflwyno ers i'r cwmni gymryd cyfrifoldeb dros y rheilffyrdd yng Nghymru.
Dywedodd y cwmni fod y pandemig wedi achosi oedi sylweddol, a bod rhai o'i dargedau wedi cael eu diwygio.
Yn 2018 roedd TC - sy'n berchen i Lywodraeth Cymru - wedi dweud ei bod eisiau i 95% o deithiau fod ar drenau newydd erbyn 2023.
Cafodd y ffigyrau eu datgelu mewn ymateb i gwestiwn gan lefarydd Plaid Cymru ar drafnidiaeth, Delyth Jewell.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru: "Mae rhai o'n targedau gwreiddiol a osodwyd yn 2018, gan gynnwys 95% o deithiau ar drenau newydd erbyn 2023, wedi cael eu diwygio oherwydd y pandemig a ffactorau eraill.
"Mae pethau'n symud ymlaen yn dda o ran cyflenwi, profi a chyflwyno ein fflyd o drenau newydd gwerth 拢800m."
Ychwanegodd llefarydd eu bod wedi "cynyddu gwasanaethau o 20%" a "buddsoddi 拢33m yn ein gorsafoedd" ers cymryd rheolaeth o wasanaethau Cymru a'r Gororau.
Mae dydd Sadwrn yn bum mlynedd ers i TC ddechrau rheoli'r gwasanaethau hynny, gan olynu cwmni Arriva.
'Trenau hen, hwyr, a chwsmeriaid anfodlon'
Dywedodd Ms Jewell fod rheilffyrdd Cymru "wedi'i grynhoi gan drenau hen, hwyr, a chwsmeriaid anfodlon".
Mae Plaid Cymru eisiau i wasanaethau rheilffyrdd gael eu datganoli'n llawn i Gymru.
Ar hyn o bryd, Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am weithredu'r rheilffyrdd yma, ond Llywodraeth y DU sydd 芒 chyfrifoldeb dros isadeiledd, cynllunio ac ariannu Network Rail.
Dywedodd Ms Jewell: "Ry'n ni'n derbyn bod problemau mawr o ran ariannu ein rheilffyrdd, ond mae mor rhwystredig nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud mwy i fynnu datganoli llawn o'r rheilffyrdd, fyddai'n ein galluogi ni i reoli hynny ein hunain.
"Gyda'r biliynau ry'n ni wedi cael ein gwrthod o brosiect HS2, gallwn ddatblygu gwasanaeth newydd a gwelliannau, trydaneiddio rheilffyrdd y gogledd a'r de, a gwella ein gwasanaeth bws, sy'n cael trafferthion.."
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.
Ar hyn o bryd mae'n ystyried achos cyfreithiol yn erbyn llywodraeth Geidwadol y DU yngl欧n 芒 phrosiect HS2, gan ddadlau y dylai fod wedi derbyn arian gan San Steffan i ariannu prosiectau yng Nghymru.
Mae Llywodraeth y DU wedi awgrymu y gallai Cymru dderbyn arian wrth i gyllid symud o HS2 i brosiectau eraill yn Lloegr.