Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Dawn aruthrol Jac' ac 'egwyddorion Gatland'
- Awdur, Cennydd Davies
- Swydd, Prif Sylwebydd Rygbi 91热爆 Cymru
Wedi'r fuddugoliaeth gofiadwy yn erbyn Awstralia ar 24 Medi, mae t卯m Cymru'n chwarae Georgia yn eu g锚m derfynol yng Ngr诺p C. Cennydd Davies oedd yn Lyon ar ran 91热爆 Cymru, ac yma mae'n dadansoddi'r hyn ddigwyddodd yn erbyn y Wallabies, a beth sydd i ddod yn y g锚m yn erbyn Georgia.
Rhaid i mi gyfaddef, fe gymerodd hi dipyn o amser i mi brosesu'r hyn ddigwyddodd yn Lyon. I rhywun oedd yn blentyn ar ddechrau'r 90au roedd gweld sg么r-fwrdd yn dangos Cymru 40-6 Awstralia yn brofiad anhygoel a swreal. Yn yr un modd fel yr oedd gweld cannoedd o grysau aur yn heidio i'r allanfeydd ymhell cyn y chwiban olaf.
Ar 么l blynyddoedd o ddioddef yn erbyn y gw欧r o hemisffer y de, nid dyma oedd i fod i ddigwydd yn erbyn t卯m sydd wedi ennill Cwpan Webb Ellis ddwywaith. Ond gyda chymaint yn y fantol fe ddiflannodd y tensiwn, tyndra a'r holl nerfusrwydd mewn amrantiad wedi i Gareth Davies wibio at y llinell gais.
Doedd dim plesio pawb serch hynny a gymerodd rhyw bum munud yn unig cyn cwrdd ag un o gefnogwyr pybyr Cymru yn barnu, "Dyma'r t卯m gwaethaf erioed i ddod o Awstralia" - mae disgwyliadau rhai yn amlwg yn uchel! A bod yn deg roedd 'na rhywfaint o wirionedd yn y dadansoddiad, ond er tegwch i Gymru mi oedd hi'n berfformiad hynod broffesiynol ac yn gwbl ddi-drugaredd.
Jac eto'n cyrraedd yr uchelfannau
Mae Jac Morgan yn parhau i fynd o nerth i nerth wrth greu'r cynta' a sgorio'r cais olaf yn erbyn y Wallabies. Mae ei ddawn aruthrol ar y cae yn amlwg i bawb ond yr hyn sy'n fwy canmoladwy yn enwedig i 诺r sy'n dair ar hugain oed yw'r ffordd y mae'n arwain drwy esiampl, yn araethu'n angerddol ac yn ddiymhongar ei natur ar yr un pryd.
Cafodd hyn ei danlinellu gan Warren Gatland ei hun yn y gynhadledd wedi'r g锚m ddiwethaf. Dyw rhoi cyfrifoldeb o'r fath i 诺r ifanc ddim yn beth newydd wedi i'r Prif Hyfforddwr wneud hynny gyda Sam Warburton wyth mlynedd yn 么l, ac hyd yma mae'r penderfyniad wedi dwyn ffrwyth. Mae 'na ddyfodol disglair i'r g诺r o'r Gwter Fawr! (Brynamman)
Cyhoeddi'r t卯m yn gynnar
Gyda'n lle yn y chwarteri yn saff cyn g锚m ola'r gr诺p, fe allai Cymru ymlacio 'chydig cyn y g锚m olaf yn erbyn Georgia. Doedd dim disgwyl cymaint o newidiadau a fuodd i wynebu Portiwgal yn Nice ond roedd y pymtheg cychwynnol yn gryfach nag oedd nifer o wybodusion wedi darogan.
Roedd 'na rhywfaint o syndod pan gyhoeddwyd y t卯m yn gynnar yr wythnos hon ac roedd 'na godi eiliau hefyd wrth weld enwau Louis Rees-Zammit a Taulupe Faletau ymhlith y pymtheg - yr unig ddau sydd wedi dechrau pob g锚m yn y gystadleuaeth hyd yma.
Ar y llaw arall mae'r neges wedi bod yn glir ers Lyon na fydd 'na unrhyw elfen o lacio na chwaith cymryd y gwrthwynebwyr yn ganiataol, yn enwedig ar 么l digwyddiadau'r llynedd!
Talu'r pwyth yn 么l
Heb os roedd y g锚m yn erbyn Georgia'r llynedd yn un o'r rhai gwaethaf yn hanes rygbi Cymru wrth i'r 'Lelos' gipio'i buddugoliaeth mwyaf nodedig erioed yng Nghaerdydd. Bron i flwyddyn yn ddiweddarach ers y diwrnod du hwnnw ac mae 'na dro ar fyd wedi bod o ran y t卯m cenedlaethol.
Mae yna hyfforddwr newydd, ysbryd o'r newydd ac ymdeimlad bod 'na gysylltiad eto rhwng y cefnogwr cyffredin a'r t卯m cenedlaethol oedd wedi dirywio cymaint dros y flwyddyn ddiwethaf yn sgil canlyniadau a pherfformiadau siomedig ac anrhefn llwyr o ran gweinyddiaeth y gamp.
Dyw hi ddim yn f锚l i gyd wrth gwrs ac mae 'na ffordd i fynd eto ond o leia' mae Cymru yn glir yn yr hyn maen nhw'n ceisio ei gyflawni. Na, does dim byd ysgytwol o ran yr athroniaeth ond doedd byth disgwyl i hynny newid - mae Warren Gatland wedi glynu at yr hen egwyddorion a'r seiliau cadarn sef ffitrwydd, cryfder corfforol ac amddiffyn cry', a hyn oll yn golygu fydd Cymru'n d卯m anodd i'w curo .
Llygadu Marseille
Mae'r cefnogwyr yn barod yn gwybod y byddan nhw n么l yn y De ar gyrion M么r y Canoldir ar gyfer y chwarteri, ond yr hyn sydd ddim yn glir eto yw'r gwrthwynebwyr. Os fydd Cymru'n cael o leia pwynt yn erbyn Georgia ac yn ennill y gr诺p, y gwrthwynebwyr yn y chwarteri fydd unai'r Ariannin neu Japan. Ond ar sail y dystiolaeth hyd yma mi fydd Cymru'n hyderus yn erbyn y naill neu'r llall.
Mae 'na ddigon o s么n wedi bod eisoes fod llwybr Cymru wedi bod gymaint haws na gwledydd eraill a'r ffordd mae'r gystadleuaeth wedi'i threfnu wedi bod yn annheg, sydd wrth gwrs yn bwyntiau dilys. Ond mae hynny i gyd tu hwnt i reolaeth Cymru ac am y tro rhaid anghofio am y chwarteri a thu hwnt a chanolbwyntio ar y presennol.
Ennill y gr诺p a gorffen yn argyhoeddedig yw'r n么d, mae'n bosib wedyn y cawn gofio Nantes am y rhesymau cywir.
- Chwe newid i Gymru i herio Georgia yn Nantes
- Cwpan Rygbi'r Byd: Cymru'n trechu Awstralia o 40-6
- Cwpan Rygbi'r Byd: Ymlaen i'r C么te d'Azur!
- Cwpan y Byd: 13 newid i Gymru yn erbyn Portiwgal
- Cymru'n trechu Fiji mewn g锚m wych yng Nghwpan y Byd
- How to follow the Rugby World Cup in Welsh
- Dupont, Galthi茅 a Dan Biggar
- Cwpan Rygbi'r Byd: Oes unrhyw obaith gan Gymru?