Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Diffyg cynghorau Cymru 'o leiaf yn 拢395m' dros 24 mis
- Awdur, Daniel Davies
- Swydd, Gohebydd 91热爆 Cymru
Fe fydd diffyg ariannol yng nghyllidebau cynghorau yn cael effaith ddifrifol ar wasanaethau cyhoeddus, meddai awdurdodau lleol.
Yn 么l ymchwil gan y 91热爆 mae cynghorau Cymru yn disgwyl diffyg cyllid cyfunol o leiaf 拢394.8m dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae cyllidebau ysgolion dan bwysau a chost darparu gofal cymdeithasol yn codi'n aruthrol, meddai cynghorau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda chynghorau, ond bod mwy o bwysau ar arian cyhoeddus oherwydd chwyddiant uchel.
Fe wnaeth Shared Data Unit y 91热爆 gynnal arolwg o gynghorau a'u cyllidebau.
O'r 22 cyngor sir yng Nghymru, dywedodd 17 bod angen iddyn nhw arbed 拢182m eleni, roedd 20 yn rhagweld diffyg ar y cyd o 拢394.8m dros ddwy flynedd ac roedd 10 wedi codi'r dreth gyngor o leiaf 5%.
Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n bwriadu gwneud yr arbediad mwyaf eleni sef 拢27.8m.
Mae'r 拢16.5m sydd angen ei arbed ym Mhowys yn cyfateb i 拢123.50 y pen yn y sir - yr arbediad mwyaf y pen gan unrhyw gyngor.
Daw'r arolwg wedi rhybuddion eraill bod gwasanaethau sy'n cael eu rhedeg gan gynghorau yn teimlo'r pwysau yn sgil toriadau, biliau ynni a chwyddiant uchel.
Dywedodd un o bwyllgorau'r Senedd fis diwethaf fod angen arian ychwanegol i gadw ar agor.
Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod cynghorau wedi gwario arian sy'n cael ei neilltuo ar gyfer costau annisgwyl, ond "bod hyn ddim yn gynaliadwy".
Mewn datganiad dywedodd: "Rydym hefyd yn poeni am y goblygiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf ac yn y tymor canolig. Bydd toriadau yn cael effaith ar wasanaethau a swyddi.
"Rydym yn amcangyfrif y gallai fod bwlch yn y gyllideb o rhwng 拢330m a 拢480m y flwyddyn nesaf a fydd yn cael effaith ddifrifol ar ddarpariaeth gwasanaethau lleol, ac rydym ar hyn o bryd yn cynnal arolwg o gynghorau i gael amcangyfrifon mwy manwl gywir ac asesu'r risgiau."
'Ysgolion mewn dyled'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast 91热爆 Radio Cymru dywedodd y Cynghorydd Sir ym Mhowys ac arweinydd y Ceidwadwyr yno, Aled Davies, fod pethau'n "mynd yn galetach bob blwyddyn".
"Mae wastad wedi bod yn sefyllfa anodd ers i fi fod yn gynghorydd dros y 15 mlynedd diwethaf. Ma' wastad wedi bod diffyg yn ein cyllid ni.
"Mae'n rhaid i ni edrych ar sut mae'r llywodraeth yng Nghaerdydd yn dosbarthu y pres dros yr awdurdodau lleol.
"Pan 'dw i'n edrych ar ysgolion, yn enwedig yr ysgolion uwchradd, ma' nhw mewn dyled. Pan 'dach chi'n edrych ymlaen dros y ddwy, tair mlynedd nesa fe fyddan nhw 拢5m mewn dyled.
"Felly dydy hwnna ddim yn sustainable yn yr hir dymor."
Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd sy'n aelod o Blaid Cymru, Dyfrig Siencyn, fod pob gwasanaeth "yn wynebu bygythiad" yn sgil toriadau.
"'Dan ni wedi bod yn wynebu toriadau ers degawd, bob blwyddyn, 'dan ni wedi wynebu toriadau yn y gyllideb.
"Mae 'na ddewis eitha' syml pan 'dach chi'n wynebu toriadau i'ch cyllideb, un ai 'dach chi'n codi'ch incwm a'r ffordd pennaf y gallwn ni wneud hynny ydy edrych ar gynnydd yn y dreth.
"A'r ochr arall wrth gwrs ydy gwneud toriadau i wasanaethau, a ma' pob un gwasanaeth dan ryw fath o fygythiad neu ei gilydd.
"Fel arfer fydden ni yn edrych ar geisio amddiffyn y gwasanethau hynny sy'n effeithio ar ein bobl mwya bregus ni - gofal oedolion, gofal plant ac addysg - hyd y medrwn ni.
"Nid problem sut mae'r arian yn cael ei ddosbarthu ydy hwn. Ond problem maint y gacen. Dydy llywodraeth leol ddim yn cael digon o arian i ddarparu'r gwasanaethau sy'n gyfrifoldeb i ni."
A yw'n bryd adolygu'r fformiwla?
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi'r bai ar chwyddiant a "chamreoli economaidd" gan Lywodraeth y DU.
Mae'r cyllid i gynghorau wedi cynyddu eleni, ond dywedodd llefarydd: "Rydym yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn wynebu penderfyniad anodd ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda chynghorau i gwrdd 芒'r her."
Dywedodd y llywodraeth eu bod yn cytuno ar fformiwla gyda chynghorau i benderfynu faint o gyllid y mae pob un o'r 22 awdurdod yn ei gael, ond dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y dylid adolygu hynny.
Dywedodd llefarydd llywodraeth leol y Tor茂aid yn Senedd Cymru, Sam Rowlands: "Gyda Llywodraeth Lafur Cymru yn gyfrifol am ariannu ein cynghorau, mae'n rhaid gweithredu ar frys i adolygu'r fformiwla ariannu, cefnogi ein cynghorau, a rhaid i'r Lywodraeth Lafur amlinellu pa wasanaethau a chyfrifoldebau maen nhw'n disgwyl i gynghorau dorri."