Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dysgwr y Flwyddyn 2023: Cwrdd 芒 Manuela Niemetscheck
Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ll欧n ac Eifionydd, un o'r seremon茂au fydd cyhoeddi enw Dysgwr y Flwyddyn 2023.
Mae pedwar o bobl wedi cyrraedd y rownd derfynol, ac mae Cymru Fyw yn cael cyfle i gwrdd 芒'r ymgeiswyr.
Daw Manuela Niemetscheck o Ganada yn wreiddiol ond erbyn hyn mae'n byw ym Methesda.
Mi gwrddodd hi 芒'i chariad o Gymro yng Nghatalonia a dechrau dysgu Cymraeg ar 么l symud i Gymru yn 2005.
Mae'n dweud fod clywed yr iaith yn yr ardal wedi bod yn hyfryd.
"Dwi wedi byw yng Nghaernarfon. Mae o wedi bod yn lle braf i ddysgu a chlywed yr iaith o gwmpas," meddai.
"Dwi wedi gwneud cyrsiau wlpan a dwi wedi cael dau gyfle i ddysgu yn Nant Gwrtheyrn hefyd."
Ychwanegodd: "Ar 么l cael sgiliau a teimlo digon cyfforddus dwi wedi jyst dechrau defnyddio Cymraeg yn y gwaith ac wrth gwrs yn y gymuned hefyd.
"Dwi'n teimlo mai hwnna ydi'r ffordd orau i ddysgu."
'Hapus cynnig gwasanaeth Cymraeg'
Therapydd celf ydi Manuela yn Uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, sy'n rhoi cefnogaeth i bobl efo salwch meddwl.
Mae hi'n dweud bod y gallu i siarad Cymraeg yn ei gwaith yn hollbwysig.
"Mae o mor bwysig yn arbennig efo adran iechyd meddwl," meddai.
"Mae mor bwysig cael perthynas efo rhywun, a rhan o hwnnw ydi'r iaith ma' nhw'n siarad ac yn y berthynas creu sefyllfa lle ma' nhw'n gallu mynegi eu hun yn Gymraeg, oherwydd mae therapi amdan emosiynau a stori, a dwi'n hapus iawn pan dwi'n cyfarfod pobl bod fi'n gallu cynnig gwasanaeth yn Gymraeg yn y lle cyntaf."
'Esiampl i lawer o bobl'
Un sydd wedi bod yn gefnogol i Manuela yn ystod ei thaith i ddysgu'r Gymraeg yw ei ffrind Gwawr Roberts.
"Mae'n esiampl i lawer o bobl. Mae'n ysbrydoliaeth i lawer," meddai.
"Nid yn unig mae hi wedi llwyddo i ffeindio'i ffordd a defnyddio'r Gymraeg yn y gymuned, magu teulu ond mae hi'n gallu defnyddio fo yn ei swydd hefyd, sy'n allweddol, yn enwedig yn y math o waith mae hi'n ei wneud."
Mae'n Manuela'n edrych ymlaen yn fawr at yr Eisteddfod, i fwynhau'r profiad a chael cwrdd 芒'r cystadleuwyr eraill, "yn enwedig gan ei fod yn lleol" meddai.
Fe fydd cyfle i gwrdd gyda'r tri arall sydd ar y rhestr fer yn ystod yr wythnos.
Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn Mawr ar ddydd Mercher yr Eisteddfod.