Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dysgwr y Flwyddyn 2023: Cwrdd ag Alison Cairns
Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ll欧n ac Eifionydd, un o'r seremon茂au ddydd Mercher fydd cyhoeddi enw Dysgwr y Flwyddyn 2023 - mae'r wobr eleni yn yn dathlu ei phen-blwydd yn 40.
Mae pedwar o bobl wedi cyrraedd y rownd derfynol, ac mae Cymru Fyw yn cael cyfle i gwrdd 芒'r ymgeiswyr.
Daw Alison Cairns o Perthshire yn Yr Alban yn wreiddiol ond erbyn hyn mae'n byw ar fferm ger Llannerch-y-medd ar Ynys M么n hefo'i phartner Sion a'u saith o blant.
"Ddaru fi gyfarfod Sion ac un o'r j么cs cyntaf gan Sion oedd os o'n i isio aros efo fo, rhaid i mi siarad Cymraeg ynde! So dwi wedi dechre dysgu Cymraeg rhwng gwylio S4C a gwrando ar Radio Cymru."
Mae Alison yn gneifiwr profiadol ac wedi ennill pencampwriaeth Cymru yn y gorffennol.
Roedd darllen llyfrau Cymraeg i'r plant yn bwysig: "Pan es i Seland Newydd i gneifio es 芒 workbooks Dewi y Ddraig efo fi...
"Yn anffodus mi dorrais fy llaw yn cneifio yn Seland Newydd so pan oedd Sion yn mynd allan yn y dydd i gneifio ro'n i'n darllen y workbooks a dysgu fi fy hun."
Cymuned yn bwysig
Ac mae Sion yn falch iawn ohoni: "Dwi'n hynod o falch bod Alison wedi parchu ein hiaith ni a'n cymuned ni.
"Mae 'di neidio mewn i'r gymuned 'da ni'n byw ynddi, manteisio ar bob cyfle, ac wedi dod yn rhan o'r gymuned."
Ychwanegodd Alison fod y gymuned amaethyddol leol wedi bod yn hynod gefnogol wrth iddi ddysgu'r Gymraeg.
"Mae ffermwyr Sir F么n wedi bod yn anhygoel efo fi... maen nhw wedi helpu fi gymaint yn siarad Cymraeg," meddai.
Mae Alison hefyd yn ofalwr yn y gymuned ac yn dweud bod gallu siarad hefo pobl yn eu mamiaith yn hollbwysig: "Bendant mae hynny'n bwysig iawn i fi.
"Pryd oeddwn i'n gweithio efo hen bobl o'r blaen, ti'n gweld ma'n nhw'n ymlacio mwy efo'r gofalwr sy'n gallu siarad iaith gynta' nhw."
Ymhlith ei diddordebau eraill mae cic bocsio a cheffylau.
Mae Alison yn edrych ymlaen yn fawr at yr Eisteddfod a'r cyfle i gwrdd 芒'r dysgwyr eraill sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth eleni.
Fe fydd cyfle i gwrdd gyda'r tri arall sydd ar y rhestr fer yn ystod yr wythnos.
Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn Mawr yn ystod dydd Mercher yr Eisteddfod.