Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Angen 'gweledigaeth hir dymor' ar gyfer bwyd Cymru
- Awdur, Garry Owen
- Swydd, Gohebydd Arbennig 91热爆 Radio Cymru
Mae angen gweledigaeth hir dymor ar gyfer bwyd yng Nghymru - dyna neges Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn y Sioe Fawr eleni.
Yn 么l Derek Walker mae angen ystyried sut y gall Cymru addasu i fyd lle mae ansicrwydd bwyd a hinsawdd yn creu heriau anferth wrth i ni geisio bwydo ein hunain.
Er mwyn cyrraedd y nod mae'n s么n am ragor o gydweithio a dysgu wrth ein gilydd ac edrych ar beth sy'n digwydd ar draws y byd.
Yn Li猫ge yng ngwlad Belg mae cynlluniau i fwydo pobl leol gan ddefnyddio bwyd lleol cynaliadwy yn unig.
Dyma enghraifft o gynllun y gellid ei ystyried yng Nghymru yn 么l Mr Walker sy'n credu y gellid defnyddio mwy o datws Sir Benfro ar gyfer bwydo plant ysgol a chleifion mewn ysbytai.
"Y nod yn y pen draw yw sicrhau bwyd da i bawb ac ailsefydlu y cysylltiad rhwng sut ry'n ni yn cynhyrchu ein bwyd a sut ry'n ni yn bwyta ein bwyd.
"Wrth roi mwy o bwyslais ar sut ry'n ni yn tyfu ein bwyd, yn lleihau gwastraff ac edrych ar ein deiet mae modd gwella ein lles ni i gyd," meddai.
Yn y dyfodol mae'n gobeithio y bydd gweledigaeth newydd hir dymor yn golygu bod modd i bawb gael mynediad i fwyd fforddiadwy, iach a chynaladwy.
Mae syniadau'r comisiynydd wedi cael croeso ar faes y Sioe.
Enillydd gwobr Menter Bwyd o Gymru Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni yw Ieuan Edwards o gwmni cig Edwards o Gonwy.
Dywedodd mai "cynaliadwyedd yw'r ffordd ymlaen, ry'n ni wedi datblygu rysetiau ac mae ein byrgyrs ni er enghraifft yn mynd eisoes i ysgolion yng Nghymru a'r cig wedi ei bori yng Nghymru i bobl a phlant Cymru.
"Ry'n ni yn falch iawn o gael cynnyrch Cymreig. Me ysgolion yn un esiampl. Byddai ymestyn hynny i'r ysbytai ag ati, fe fyddai hynny'n gam positif iawn yn fy marn i."
Mae cwmni Ham Caerfyrddin, sydd yn arddangos yn y Neuadd Fwyd yn y sioe am y tro cyntaf, yn dweud eu bod nhw yn ehangu eu staff a'u cynnyrch yn y dyfodol oherwydd bod mwy o alw am gynnyrch Cymreig.
Mathew Rees yw perchennog y busnes a dywedodd: "Mae cydweithio a chysylltu 芒 chwsmeriaid a busnesau eraill yn bwysig."
Ers mis Ionawr mae'r cwmni wedi dyblu eu cynhyrchiant ac mae'r stoc yna nawr yn barod i'w werthu.
Dywedodd eu bod yn bwriadu "dyblu eto cyn diwedd y flwyddyn".
Yn 么l Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol mae Cymru eisoes wedi dechrau cydweithio ar lefel leol a chenedlaethol, ond wrth edrych i'r tymor hir mae'n credu y byddai gweledigaeth newydd yn helpu i sicrhau Cymru iachach.